Showing 56 results

Archival description
Papurau T. J. Morgan, file
Print preview View:

Nodiadau

Papurau rhydd o nodiadau ar y Parch W. Deudraeth Jones ac 'Islwyn' (William Thomas), a chopïau o gerddi ganddynt, heb eu dyddio.

Llys y Llyfrgell

Cofnodion cyfarfod Llys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1945, ynghyd â llythyr yn cyhoeddi'r cyfarfod a mantolen, 1945.

W. J. Gruffydd

9 llythyr yn ymwneud â rhifyn coffa W. J. Gruffydd o'r Llenor, yn cynnwys llythyrau oddi wrth A. E. Jones (Cynan), ac R. T. Jenkins, 1954, D. Rees Griffiths (Amanwy), heb eu dyddio.

Cynan, 1895-1970

Cyfrol amrywiol

Cyfrol o gyfrifon, 1891-1903. Defnyddiwyd y gyfrol hefyd fel llyfr lloffion ar gyfer dau gasgliad o doriadau papur newydd: Y Darian, c. 1916; a thoriadau gan fwyaf o ryseitiau coginio, heb eu dyddio.

Sgriptiau a phapurau eraill

Sgript deipysgrif o ddarlithiau neu raglenni radio T. J. Morgan yn ymwneud ag R. G. Berry, gan fwyaf heb eu dyddio ond yn cynnwys y flwyddyn 1955. Mae hefyd yn cynnwys dyfyniad o adroddiad Cynulliad y Brifysgol, 1924, ac anerchiad gan R. G. Berry yn 1943.

Llythyrau

Tri llythyr at T. J. Morgan yn ymwneud â'r Rhaglen Nodwedd, 1954, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Jack Jones ac Aneirin Talfan Davies, 1954.

Jones, Jack, 1884-1970

Llythyrau a drafftiau

19 llythyr a 24 drafft, gan fwyaf o erthyglau, a phapurau amrywiol yn cynnwys cyfraniadau oddi wrth Idris Bell, 1930, Dilys Cadwaladr, 1931, M. G. Dawkins, 1939, T. I. Ellis, 1941, ac R. G. Berry, heb ei ddyddio. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys rhestr 'Erthyglau' wedi eu dyddio 1931 a rhwng 1936-1941, ond nid yw rhan helaeth o'r eitemau yn y ffeil wedi eu cynnwys yn y rhestr.

Bell, H. Idris (Harold Idris), Sir, b. 1879

Gohebiaeth

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyrau a chardiau post, 1923-1926, a rhai heb ddyddiadau arnynt.

Llyfr nodiadau

Mae'r ffeil yn cynnwys cyfieithiad talfyredig o 'Xmas Eve and Easter Day', gan Robert Browning a nodiadau ar Ddiwygiad 1904 ym Mhant-teg, Ystalyfera, yn ogystal â cherddi, heb eu dyddio.

Pregethau

Mae'r ffeil yn cynnwys hefyd nodiadau ar William Thomas (Islwyn).

Results 1 to 20 of 56