Showing 3783 results

Archival description
file
Advanced search options
Print preview View:

4 results with digital objects Show results with digital objects

Dyletswyddau cyhoeddus

Mae'r ffeil hon yn cynnwys papurau amrywiol yn ymwneud â dyletswyddau cyhoeddus yr Athro Stephen J. Williams gan gynnwys llythyrau, cylch-lythyrau ac ymatebion i'r cylch-lythyrau, yn ymwneud â chronfa goffa R. Williams Parry; llyfr nodiadau yn cynnwys cyfrifon y rhaglen 'Learning Welsh' gan y BBC; papurau ynglŷn â'i weithredoedd dros yr iaith Gymraeg sydd yn cynnwys y llyfryn Education in Wales/Addysg yng Nghymru 1847-1947, gyda nodiadau araith ar gyfer cyfarfodydd Ysgol Pasg Pwyllgor Addysg Abertawe, a thorion papur newydd yn sôn am y cyfarfodydd; nodiadau ac areithiau cyfan ar wahanol agweddau o ddiogelu'r iaith Gymraeg; papurau'n ymwneud â'i gysylltiadau â'r Eisteddfod Genedlaethol; papurau'n ymwneud â'i gysylltiadau a Chymdeithas y Ddrama Gymraeg Abertawe; ynghyd â llythyr a chrynodeb wedi eu hysgrifennu ganddo ar ran Brynley Richards yn ei enwebu ar gyfer cael ei ystyried i dderbyn gradd er anrhydedd.

Erthyglau

Mae'r ffeil hon yn cynnwys erthyglau wedi eu hysgrifennu gan yr Athro Stephen J. Williams ar wahanol lenorion megis T. Gwynn Jones, Robert ap Gwilym Ddu, Alun (John Blackwell) a William Salesbury, [1921]x[1992].

Papurau teuluol

Mae'r ffeil hon yn cynnwys papurau teuluol, megis llyfr cyfrifon yn llawn nodiadau amrywiol yn cyfeirio at 'Explosives Diamond Colliery', cyfrifon cyfraniad gweithiwyr y glofa i Ysbyty Abertawe, cyfrifion a chofnodion y Pwyllgor Protestiadau Gŵyl Fai, penillion, rhan o sgript, a chofnodion ynglŷn â chael festri newydd (nid yw'n glir ar gyfer pa eglwys); dau lyfr nodiadau yn cynnwys nodiadau pregethau; a llyfr cyfrifon Capel Sardis, Ystradgynlais, 1917-1921, a ddaeth i law'r Athro Stephen J. Williams, o bosib oddi wrth ei dad a oedd yn ddiacon yn y Capel.

Capel Henrietta, Abertawe

Mae'r ffeil hon yn cynnwys papurau'n ymwneud â Chapel Henrietta, Abertawe, gan gynnwys llyfr y trysorydd 1903-1915, a ddefnyddiwyd eto yn 1929 i nodi casgliadau arbennig, ac yna i restru unigolion a oedd o bosib i ddod i gyfarfod a gynhaliwyd yn yr Eglwys yn 1948. Mae'r ffeil yn cynnwys hefyd gopi o Y Tyst sydd â stori ar y dudalen flaen yn sôn bod yr Athro Stephen J. Williams, a oedd yn ddiacon yng Nghapel Henrietta, wedi cael ei wneud yn is-gadeirydd yr Undeb.

Capel Henrietta (Swansea, Wales)

Gohebiaeth a chofnodion gweinyddol,

Gohebiaeth rhwng swyddogion y Gymdeithas, aelodau, marchnatwyr, Cyngor Celfyddydau Cymru ac eraill ynglŷn â cheisiadau am gymhorthdal, cynhyrchu'r Casglwr, marchnata, cyfarfodydd a digwyddiadau eraill, aelodaeth, swyddogion y Gymdeithas, a materion eraill o ddiddordeb i'r Gymdeithas; ynghyd â phapurau eraill yn cynnwys: copiau o gyfansoddiad y Gymdeithas a chofnod Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi am ei statws fel elusen cofrestredig; cofnodion ariannol, yn cynnwys papurau'r ymwneud â cymhorthdal gan Gyngor Celfyddydau Cymru; taflenni'n hysbysu cyhoeddiadau a digwyddiadau'r Gymdeithas; papurau'n ymwneud ag amcanion a gweithgareddau'r Gymdeithas o ran cynnwys, dylunio, ariannu a marchnata'r Casglwr; manylion masnachwyr cardiau post; a ffurflen aelodaeth.

Llythyrau Anthropos,

  • NLW MS 23888D.
  • file
  • 1931-1979 /

Oddeutu tri llythyr ar hugain, 1931-1934, oddi wrth y Parch. Robert David Rowland (Anthropos) at Helena Roberts (m. 1934), Porthmadog, awdur Dramau i Blant (Wrecsam, 1934) a cyfrannwr rheolaidd i Drysorfa'r Plant, a olygwyd gan Anthropos ar y pryd (ff. 1-58). = Some twenty-three letters, 1931-1934, in Welsh, from the Rev. Robert David Rowland (Anthropos) to Helena Roberts (d. 1934), Porthmadog, author of Dramau i Blant (Wrexham, 1934) and a regular contributor to Trysorfa'r Plant, then edited by Anthropos (ff. 1-58).
Mae nifer o'r llythyrau (ff. 3, 6, 29, 37-38, 47) yn cynnwys cerddi gan Anthropos. Ceir hefyd lythyr, 20 Rhagfyr 1934, oddi wrth Anthropos at Evelyn Roberts, chwaer Helena (ff. 60-61), ynghyd â gohebiaeth, 1979, rhwng Evelyn a'r Parch. John Roberts, Llanfwrog, mewn perthynas â pherfformiad yng Nghaernarfon o 'Y Gwr o'r Pentre Gwyn', pasiant yn seiliedig ar fywyd Anthropos (ff. 68-70). = Several of the letters (ff. 3, 6, 29, 37-38, 47) contain poetry by Anthropos. Also included is a letter, 20 December 1934, from Anthropos to Evelyn Roberts, Helena's sister (ff. 60-61), together with correspondence, 1979, between Evelyn and the Rev. John Roberts, Llanfwrog, relating to a performance in Caernarfon of 'Y Gwr o'r Pentre Gwyn', a pageant based on the life of Anthropos (ff. 68-70).

Anthropos, 1853?-1944.

Dyddiadur Chile,

  • NLW MS 23912D.
  • file
  • [?1890au]

Copi yn llaw Watkin William Pritchard Williams, Nueva Imperial, Chile, [?1890au], o rannau o'i ddyddiaduron ar gyfer y blynyddoedd 1889 a 1891. = A transcript by Watkin William Pritchard Williams, Nueva Imperial, Chile, [?1890s], of parts of his diaries for the years 1889 and 1891.
Mae'r dyddiaduron yn cynnwys hanes, [2]-5 Rhagfyr 1889, taith ar fwrdd agerlong i Concepción, y brifddinas ranbarthol, i gyfarfod gyda swyddog mewnfudo (ff. 1-3 verso, 4 verso), a dyddiadur yn cofnodi bywyd bob dydd ar y fferm deuluol yn Nueva Imperial, 17 Awst-16 Hydref 1891 (ff. 5-16 verso). Ceir cyfieithiadau o'r dyddiaduron i'r Saesneg (heblaw am f. 11 recto-verso) yn Huw Watkin Williams, The Watkin Path to Patagonia (Castell-nedd, 2006), tt. 97-101, 105-119. Ceir nodiadau ynglŷn â Phatagonia mewn Sbaeneg, a hynnu mewn llaw wahanol, ar f. 4 (testun â'i wyneb i waered). = The diaries comprise an account, [2]-5 December 1889, of a trip on board a steamship to the regional capital, Concepción, to meet with the immigration supervisor (ff. 1-3 verso, 4 verso), and a diary detailing everyday life on the family farm at Nueva Imperial, 17 August-16 October 1891 (ff. 5-16 verso). English translations of the diaries (f. 11 recto-verso excepted) can be found in Huw Watkin Williams, The Watkin Path to Patagonia (Neath, 2006), pp. 97-101, 105-119. There are also notes on Patagonia in Spanish, and in a different hand, on f. 4 (inverted text).

Williams, W. W. P. (Watkin William Pritchard), 1832-1912

Ffeil yr ysgrifennydd,

Ffeil yr ysgrifennydd yn cynnwys tystysgrif cofrestru man addoliad 1921; tystysgrif cofrestru'r adeilad ar gyfer priodasau, 1921; ystadegau blynyddol y capel, 1961-1985 a 1988-2001; mantolenni ariannol, 1989-1997; a ffurflen adroddiad eiddo, 1990. Ceir hefyd femorandwm cytundeb i sicrhau fod y gweithdy ger y Capel yn dawel yn ystod gwasanaethau, 1911, rhaglen cyfarfod sefydlu Y Parchedig Gareth H. Davies yn 1982, a rhaglen cyfarfod yr Henaduriaeth, 1998.

Results 681 to 700 of 3783