Showing 3783 results

Archival description
file
Advanced search options
Print preview View:

4 results with digital objects Show results with digital objects

'Achos mae'

Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrif darn o waith anorffenedig yn dwyn y teitl 'Achos mae' a ysgrifennwyd yn ystod wythnosau cyntaf 1990, ynghyd â rhai nodiadau a chopi o lythyr a anfonwyd gan Angharad Tomos at Islwyn Ffowc Elis ym mis Ionawr 1990 yn diolch iddo am ei gyngor ac yn trafod ei gwaith ysgrifennu.

Llythyrau, 1970-1975,

Ymhlith y gohebwyr mae Gwilym Prys Davies, Eirene White, Dr Emyr Wyn Jones, Iorwerth [Peate] (3), Llywelyn ap Gwynn, Rhys Davies, [R.] Geraint Gruffydd (2), Bobi Jones, Aneirin Talfan Davies, R. S. Thomas, T[homas] P[arry] (2), Glyn [Tegai Hughes], Kitty Idwal Jones, Idris [Foster] (3), Bedwyr Lewis Jones, Alun Talfan Davies, A. J. Sylvester (2), Mathonwy Hughes, Arthur [ap Gwynn] a Raymond Edwards.

Prys-Davies, Gwilym Prys Davies, Baron, 1923-2017

Gwasg Gregynog,

Papurau ymchwil, [1962]-2001, yn ymwneud â Gwasg Gregynog, Tregynon, Powys, gan gynnwys drafftiau o dair pennod cyntaf ei lyfr arfaethedig ar hanes y wasg a darlithiau a draddodwyd ganddo (gweler hefyd ei erthygl 'Gwasg Gregynog', Llais Llyfrau, Gaeaf 1966). Ceir llythyrau oddi wrth Elwyn [Davies], 1975 a Tom Parry, 1976, yn cynnig awgrymiadau ieithyddol i'w waith a llythyrau, 1990 a 2000, oddi wth Glyn [Tegai Hughes] yn ymwneud â chyhoeddi'r astudiaeth. Yn ogystal ceir llythyrau, 1976, oddi wrth Swyddog Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, yn ymwneud â'i waith cyfieithu ar gyfer llyfryn a pharatoi penawdau i gyd-fynd â'r arddangosfa deithiol ar Wasg Gregynog a drefnwyd gan Adrannau Celfyddyd a Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, ynghyd â rhestr termau.

Davies, Elwyn, 1908-1986

Thomas Gwynn Jones: Cofiant,

Papurau ymchwil a ffynonellau gwreiddiol, 1913-1984, yn ymwneud â chyfrol David Jenkins, Thomas Gwynn Jones: Cofiant (Dinbych, 1973), gan gynnwys cerdyn, 1949, oddi wrth weddw T. Gwynn Jones yn diolch i Dr David Jenkins am ei eiriau o gydymdeimlad; rhannau o lawysgrif y gwaith; dyfyniadau o ohebiaeth ac erthyglau; llungopïau o lawysgrifau Bangor; nodiadau gan Francis Wynn Jones, mab yng nghyfraith T. Gwynn Jones; ynghyd â chopi o anerchiad y Parchedig W. Ffowc Evans ar achlysur dadorchuddio'r dabled goffa i T. Gwynn Jones ym Metws-yn-Rhos, 1958. Ceir hefyd anerchiad, Dr David Jenkins, [1971], adeg dathlu canmlwyddiant geni T. Gwynn Jones; a llythyrau, 1972 a 1984, oddi wrth Dr Iorwerth Hughes Jones. Ymhlith y deunydd gwreiddiol mae cerddi 'Y Dynged', 1941-1942, yn llaw T. Gwynn Jones, gyda llythyr, 1941, oddi wrtho at 'Ap Talfan' [Aneirin Talfan Davies] a dau lythyr, 1971 a 1972, at Dr David Jenkins oddi wrth Aneirin Talfan Davies. Bwriadwyd cynnwys y cerddi mewn blodeugerdd o gerddi modern ond ni ddigwyddodd hyn. Ceir llythyr hefyd, [19]13, oddi wrth Ca[dwala]dr Jones, Cwm Penmachno, at ei nai T. Gwynn Jones ac ysgrif ar y llenor gan Silyn Roberts, [cyn 1930].

Davies, Aneirin Talfan.

'Dail helyg'

Mae'r ffeil yn cynnwys llawysgrif, 1996-1997, a theipysgrifau (drafftiau yn bennaf), 2000, o'r nofel 'Dail helyg', ynghyd â gohebiaeth, drafftiau amrywiol a nodiadau perthnasol, 1996-2001, yn eu plith llythyrau gan yr Athro Alistair Crawford (6), ac adroddiad am y gwaith.

Crawford, Alistair

'Celwyddau'

Mae'r ffeil yn cynnwys rhan gyntaf o lawysgrif, ynghyd â chynllun, 1998, o waith a ymddengys i fod yn nofel yn dwyn y teitl 'Celwyddau'.

'Plant y Port'

Mae'r ffeil yn cynnwys papurau yn ymwneud â drama gan Carys Bell gyda cherddoriaeth gan Olwen Morris, sef 'Plant y Port', a gynigiwyd ar gyfer y gystadleuaeth 'A play for Wales' a drefnwyd gan y Liverpool Daily Post mewn cydweithrediad â Theatr Clwyd, 1977. Ceir llawysgrifau a theipysgrifau o'r sgript a'r caneuon, rhai ohonynt yn ddrafftiau, yn ogystal â'r sgôr cerddorol, c. 1975, a chopi o'r sgript radio, 'Caesar's back in town' gan Gordon Snell a Gordon Clyde, darlledwyd 1976. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyrau, 1977, 1979-1983, 1985 a 1989, amryw ohonynt gan gwmnïau teledu yn trafod y gwaith; yn eu plith ceir llythyr gan Siôn Eirian.

Eirian, Siôn,

Gohebiaeth

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth rhwng Carys Bell a'r Parch. Huw Ethall a'i wraig Hilda, 1981 a 1989-2001; llythyrau gan yr arlunydd Helen Steinthal, 1981 a 1989-1991, ynghyd â nodiadau bywgraffydol yn ei llaw a chopi o deyrnged Carys Bell iddi a gyhoeddwyd yn Y Faner, 1992; gohebiaeth, 1980 a 1982-1985, rhwng Carys Bell a Selyf Roberts (Cadeirydd Undeb Awduron Cymru), sef cyngor ynghylch ei gweithiau llenyddol, gyda chrynodeb ac adroddiad darllenydd o'i nofel Ynys y cylch; gohebiaeth rhwng Carys Bell a gwasg Honno, 1988-2000 (gyda bylchau), yn cynnwys llythyrau gan Leigh Verrill-Rhys (4) a Deirdre Beddoe (copi), ynghyd â llawysgrif atgofion Carys Bell am ei phlentyndod adeg yr Ail Ryfel Byd, a ymddengys i fod yn ddrafft o'r ysgrif a gyfrannodd ar gyfer y gyfrol Parachutes and petticoats; a gohebiaeth amrywiol, 1970-2001 (gydag amryw fylchau).

Huw Ethall

Hunangofiant

Copi llawysgrif o atgofion y Parch. W. Glasnant Jones, [1947]-[1948], ar gyfer ei hunangofiant Cyn Cof Gennyf a Wedyn, a gyhoeddwyd yn Y Dysgedydd yn 1947-[1948].

Owen Dafydd

Deunydd yn ymwneud ag Owen Dafydd, [1903]x[1904], 1916, 1951, 1971. Mae yma amrywiaeth o ddeunydd printiedig sydd yn cynnwys y gyfrol Cynhyrchion Barddol yr Hen Felinydd, Owen Dafydd, Cwmamman sydd â rhagarweiniad gan y Parch. W. Glasnant Jones, 1904; llyfr nodiadau Glasnant ar Owen Dafydd, [1903]x[1904]; ffotogopïau allan o'r Cenhadwr Americanaidd sydd yn sôn am Owen Dafydd, d.d.; torion papur newydd, [1903]x[1904], 1951, gan gynnwys un o'r Aman Valley Chronicl, gan awdur arall, 1971; a rhaglen dathlu canmlwyddiant Owen Dafydd, 1916.

Llythyrau

Llythyrau o gydymdeimlad ar farwolaeth y Parch. W. Glasnant Jones, 1951. Mae yma hefyd ddau gopi o'r cerdyn cydnabyddiaeth gan Dr Iorwerth Hughes Jones a Dr Gwent Jones yn diolch i bobl am eu cydymdeimlad.

Results 3721 to 3740 of 3783