Showing 3 results

Archival description
Hughes, Glyn Tegai file
Print preview View:

Llythyrau a drafftiau

12 o lythyrau ac 11 drafft o erthyglau a cherddi a anfonwyd at T. J. Morgan ar gyfer eu cyhoeddi yn Y Llenor, yn cynnwys cyfraniadau gan Idris Bell, 1949, R. T. Jenkins, 1947, Frank Price Jones, 1949, Mathonwy Hughes, 1946, J. Lloyd-Jones, 1951, T. I. Ellis, 1941, J. Eirian Davies, 1945, a Glyn Tegai Hughes, 1945. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyr at W. J. Gruffydd, 1936, a nodyn gan Prys Morgan, 1987.

Bell, H. Idris (Harold Idris), Sir, b. 1879

Llythyrau, 1970-1975,

Ymhlith y gohebwyr mae Gwilym Prys Davies, Eirene White, Dr Emyr Wyn Jones, Iorwerth [Peate] (3), Llywelyn ap Gwynn, Rhys Davies, [R.] Geraint Gruffydd (2), Bobi Jones, Aneirin Talfan Davies, R. S. Thomas, T[homas] P[arry] (2), Glyn [Tegai Hughes], Kitty Idwal Jones, Idris [Foster] (3), Bedwyr Lewis Jones, Alun Talfan Davies, A. J. Sylvester (2), Mathonwy Hughes, Arthur [ap Gwynn] a Raymond Edwards.

Prys-Davies, Gwilym Prys Davies, Baron, 1923-2017

Gwasg Gregynog,

Papurau ymchwil, [1962]-2001, yn ymwneud â Gwasg Gregynog, Tregynon, Powys, gan gynnwys drafftiau o dair pennod cyntaf ei lyfr arfaethedig ar hanes y wasg a darlithiau a draddodwyd ganddo (gweler hefyd ei erthygl 'Gwasg Gregynog', Llais Llyfrau, Gaeaf 1966). Ceir llythyrau oddi wrth Elwyn [Davies], 1975 a Tom Parry, 1976, yn cynnig awgrymiadau ieithyddol i'w waith a llythyrau, 1990 a 2000, oddi wth Glyn [Tegai Hughes] yn ymwneud â chyhoeddi'r astudiaeth. Yn ogystal ceir llythyrau, 1976, oddi wrth Swyddog Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, yn ymwneud â'i waith cyfieithu ar gyfer llyfryn a pharatoi penawdau i gyd-fynd â'r arddangosfa deithiol ar Wasg Gregynog a drefnwyd gan Adrannau Celfyddyd a Llenyddiaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, ynghyd â rhestr termau.

Davies, Elwyn, 1908-1986