Copi o'r gerdd 'Palmwydd a Helyg' gan, ac yn llaw, Jonathan Machreth Rees (1855-1911). = Copy of the poem 'Palmwydd a Helyg' by, and in the hand of, Jonathan Machreth Rees (1855-1911).
Papurau'r Parch. J. Caradog Williams yn ymwneud yn bennaf â'i waith fel gweinidog gyda'r Annibynwyr, gan gynnwys dau lythyr, 1942-1944, oddi wrth carcharor rhyfel yn yr Almaen. = Miscellaneous papers relating mainly to the donor's work as a Congregational Minister, including two letters, 1942-1944, from a prisoner of war in Germany.
Llyfr nodiadau yn cynnwys cyfrifon yn ymwneud â changen Rhondda Fach o Undeb Dirwestol Merched y De. = Notebook containing some accounts relating to Rhondda Fach branch of Undeb Dirwestol Merched y De.
Amrywiaeth o bapurau gweinyddol gan gynnwys cytundebau gyda'r gweinidog a gofalwr y capel, ynghyd â gohebiaeth yn ymwneud â gwerthiant Afallon, Tanygrisiau, Tŷ Capel y Rhiw a'r Gronfa Gynnal.
Ffotograffau, [1850]x[1930]: o'r Parch Isaac Parry, [a oedd yn Weinidog yn y capel rhwng 1919 ac 1930] a William Morris Williams, oedd yn flaenor yn y capel; ynghyd â ffotograff mewn ffram o naill ai David Davies neu Humphrey Williams, gweinidogion rhan amser cyntaf yr Eglwys.
Mae'r ffeil yn cynnwys cyfieithiadau a chyfaddasiadau gan John Stoddart, 1993-2000, o ganeuon ar gyfer Cyhoeddiadau Curiad, rhai nodiadau teipysgrif a gohebiaeth berthnasol, ynghyd â chytundebau trosglwyddiad hawlfraint, 1994-2000.
Mae'r ffeil yn cynnwys llungopïau, teipysgrifau a llawysgrifau o erthyglau, adolygiadau, cyfieithiadau a llythyrau, [1970]-2000, a gyhoeddwyd mewn cylchgronau megis Barn, Y Faner, Cerddoriaeth Cymru, Barddas, Y Traethodydd a Gairm.
Mae'r ffeil yn cynnwys nodiadau a chyfieithiadau Norwyeg a Swedeg (a manylion am symposium Societas Celtologica Nordica, Tachwedd 1991), [1960x2001], ynghyd â gohebiaeth, 1991-1992, a chopïau o erthyglau perthnasol yn ymwneud ag ymchwil John Stoddart ar gyfer ei lyfr ar Osian, 1944-1991.
Mae'r ffeil yn cynnwys llungopïau o erthyglau ac allbrintiau o'r we, [1965x2001], at ddibenion ymchwil, yn eu plith rhai sy'n trafod caneuon a llenyddiaeth Gaeleg (yn cynnwys Osian).
Mae'r ffeil yn cynnwys papurau amrywiol [1940x2001], gan gynnwys nodiadau ymchwil John Stoddart, papurau personol megis rhaglenni lle bu John Stoddart yn canu, beirniadu neu'n annerch cymdeithasau, [1940au]-1991; ynghyd â chofnodion ariannol, 1984-2000, a cherddi gan Derwyn Jones.