Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 2 canlyniad

Disgrifiad archifol
Erfyl, Gwyn ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Godre'r Berwyn

Llawysgrif wreiddiol Godre'r Berwyn (Caerdydd, 1953), atgofion bore oes o'i ieuenctid yn Llandrillo, gyda chywiriadau; llythyrau yn ymwneud â'r cyhoeddi a'r gwerthiant oddi wrth Hughes a'i Fab, 1952-1961, gan gynnwys llythyrau oddi wrth Kate Roberts a Hugh Evans, Lerpwl, yn gwrthod cyhoeddi'r gyfrol; adolygiadau, 1953-1954, o'r llyfr, gan gynnwys sgript adolygiad Gwyn Erfyl (Jones), 1954, a ddarlledwyd gan y BBC. Ceir hefyd lythyrau'n canmol y gyfrol, 1952-1955, gan gynnwys rhai oddi wrth Arthur [ap Gwynn], J. Gwyn Griffiths, T. H. Parry-Williams, Cassie Davies (4), David Thomas, Thomas Jones, Dora Herbert Jones, R[obert] Richards (2), John Cecil-Williams, E. Tegla Davies (2) a D. R. Hughes (2).

Roberts, Kate, 1891-1985

Llythyrau : marwolaeth Dafydd

Llythyrau a chardiau cydymdeimlad, 1980-1981, yn dilyn marwolaeth Dafydd Peate. Yn eu plith mae rhai gan Douglas Bassett; Gerard Casey; Alun Talfan Davies; J. Eirian Davies; Jennie Eirian Davies; Gwilym Prys Davies; Gwyn Erfyl; George Ewart Evans; R. Alun Evans; David Jenkins; E. D. Jones; Gwyn O. Jones; Harri Pritchard Jones; J. Gwilym Jones; R. Brinley Jones; Ceri Lewis; D. Tecwyn Lloyd; W. Rhys Nicholas; Dyfnallt Morgan; Trefor M. Owen; Thomas Parry; Ernest Roberts; Kate Roberts; Selyf Roberts; Wyn Thomas; Gwilym R. Tilsley; John Roberts Williams; a Stephen J. Williams. Yn ogystal, mae'r ffeil yn cynnwys copi o'r deyrnged, 1980, a draddodwyd yn yr angladd.

Bassett, Douglas A. (Douglas Anthony)