Dangos 174 canlyniad

Disgrifiad archifol
Is-is-fonds
Rhagolwg argraffu Gweld:

Toriadau o'r wasg a chylchgronau / Press cuttings and magazines

Eitemau cyhoeddedig (1917-2019) a gasglwyd gan ac yn ymwneud â gwaith Emyr Humphreys, gan gynnwys toriadau o’r wasg, pamffledi, a chopïau o gylchgronau. / Published items (1917-2019) collected by and relating to the works of Emyr Humphreys, including press cuttings, pamphlets, and copies of magazines.

Nofelau a gweithiau rhyddiaith / Novels and prose works

Papurau amrywiol (1931-2017), gan gynnwys nodiadau llawysgrif a drafftiau, teipysgrifau, a phroflenni, yn ymwneud â nofelau a gweithiau rhyddiaith gyhoeddedig a heb ei chyhoeddi gan Emyr Humphreys ac eraill. / Various papers (1931-2017), including manuscript notes and drafts, typescripts, and proofs, relating to novels and prose works by Emyr Humphreys and others.

Straeon byrion / short Stories,

Thirteen files of short stories, in manuscript and typescript form, together with some poems and scripts. The following stories were published in Natives (London, 1968) and Miscellany Two (Bridgend, 1981):. Tair ffeil ar ddeg o straeon byrion, mewn llawysgrif a theipysgrif, ynghyd â rhai cerddi a sgriptiau. Cyhoeddwyd y straeon canlynol yn Natives (London, 1968) a Miscellany Two (Bridgend, 1981):. Natives (London, 1968): A mystical experience; The rigours of inspection; The idealist; The suspect; With all my heart; An artistic mission; A list of good people; Mel's secret love; Dinas; A cheerful note. Miscellany Two (Bridgend, 1981): Boys in a Boat; A corner of a field; Down in the heel; The Arrest. Ffeiliau C 1-13.

Yr Urdd yn Lleol

Deunydd yn ymwneud â gweithgareddau'r Urdd ar lefel leol, megis sefydlu Canolfannau'r Urdd a grwpiau a gweithgareddau rhanbarthol. Mae hefyd yn cynnwys deunydd yn ymwneud ag Eisteddfodau a gweithgareddau'r Aelwyd leol.

Cerddi, cyhoeddedig ac anghyhoeddedig / Poetry, published and unpublished

Papurau amrywiol (1902-2019), gan gynnwys nodiadau llawysgrif a drafftiau, teipysgrifau, proflenni, a gohebiaeth, yn ymwneud â chasgliadau o farddoniaeth gyhoeddedig a heb ei chyhoeddi gan Emyr Humphreys. / Various papers (1902-2019), including manuscript notes and drafts, typescripts, proofs, and correspondence, relating to collections of published and unpublished poetry by Emyr Humphreys.

Straeon byrion / Short stories

Llyfrau nodiadau a phapurau amrywiol ([?1938x?1948]-2014), yn cynnwys nodiadau llawysgrif, drafftiau rhannol a llawn, a nifer fechan o deipysgrifau, yn ymwneud â chasgliadau o straeon byrion cyhoeddedig a heb eu cyhoeddi gan Emyr Humphreys. / Various notebooks and papers ([?1938x?1948]-2014), including manuscript notes, partial and full drafts, and a small number of typescripts, relating to collections of published and unpublished short stories by Emyr Humphreys.

Sgriptiau / Scripts

Sgriptiau gan ac yn ymwneud â gwaith Emyr Humphreys ac eraill, ynghyd â phapurau cysylltiedig eraill megis nodiadau, drafftiau, gohebiaeth, cytundebau, a theipysgrifau, ac yn cynnwys sgriptiau ar gyfer teledu ([?1936]-[2006]); papurau a sgriptiau yn ymwneud â gweithiau a gynhyrchwyd gan gwmni Ffilmiau Bryngwyn (1882-1898; 1983-2010); sgriptiau ar gyfer dramâu llwyfan (1963-[c.1964]; 1998); nodiadau pellach (heb eu dyddio); a nifer o ffotograffau o gynyrchiadau o ddramâu teledu'r BBC (1959; 1961). / Scripts by and relating to the works of Emyr Humphreys and others, together with other related papers such as notes, drafts, correspondence, contracts, and typescripts, and consisting of scripts for television ([?1936]-[2006]); papers and scripts relating to works produced by the Ffilmiau Bryngwyn company (1882-1898; 1983-2010); scripts for stage plays (1963-[c.1964]; 1998); further notes (undated); and a number of photographs of productions of BBC television plays (1959; 1961).

Sgriptiau / Scripts,

Trefniant / arrangement: dramâu llwyfan gan Emyr Humphreys / stage plays by Emyr Humphreys (D I/1-4), sgriptiau radio gan Emyr Humphreys / radio scripts by Emyr Humphreys (D II/5-18), sgriptiau teledu gan Emyr Humphreys / television scripts by Emyr Humphreys (D III/19-50), sgriptiau radio a gynhyrchwyd neu a gyfarwyddwyd gan Emyr Humphreys / scripts for radio directed or produced by Emyr Humphreys (D IV/51-66), sgriptiau teledu a gynhyrchwyd neu a gyfarwyddwyd gan Emyr Humphreys / television scripts produced or directed by Emyr Humphreys (D V/67-82), sgriptiau â chyfeiriadau at Emyr Humphreys ynddynt, gan gynnwys cyfraniadau ganddo ac adolygiadau ar ei waith / scripts containing references to Emyr Humphreys, including contributions by him and reviews of his work (D VI/83-98), sgriptiau heb gysylltiad amlwg ag Emyr Humphreys o gwbl / scripts having no apparent connection with Emyr Humphreys whatsoever (D VII/99-129), darnau amrywiol / miscellany (D VIII/130-134).

Eitemau amrywiol / Miscellaneous items,

Darnau amrywiol nad ydynt yn disgyn yn daclus i unrhyw ran arall o'r archif. Trosglwyddwyd un darlun lliw o Emyr Humphreys, ffotograffau hyrwyddo lansiad S4C a chyfrol o fapiau o Iwgoslafia i'r Adran Darluniau a Mapiau. Miscellaneous items that do not fit neatly into any other part of the archive. A colour picture of Emyr Humphreys, promotion photographs for the launch of S4C and a volume of maps of Yugoslavia have been transferred to the Department of Pictures and Maps.

Eitemau amrywiol / Miscellaneous items

Eitemau a phapurau amrywiol a gadwyd ac a gasglwyd gan Emyr Humphreys, yn cynnwys llyfrau nodiadau personol a dyddiaduron (1926-2006); papurau yn ymwneud â graddau er anrhydedd a chymrodoriaethau (1950-2013); papurau'n ymwneud â'r llenor a'r gwleidydd Cymreig Saunders Lewis (1922-1999); papurau'n ymwneud â'r sefydliad llenyddol The Taliesin Trust ([1980]-1993); rhaglenni a phamffledi yn ymwneud â digwyddiadau llenyddol a'r celfyddydau (1969-2009); trawsgrifiad cyfweliad (1996); a chasgliad o fapiau o'r Eidal o'r Ail Ryfel Byd (1943). / Miscellaneous items and papers kept and collected by Emyr Humphreys, comprising personal notebooks and diaries (1926-2006); papers relating to honorary degrees and fellowships (1950-2013); papers relating to the Welsh writer and politician Saunders Lewis (1922-1999); papers relating to the literary organisation The Taliesin Trust ([1980]-1993); programmes and pamphlets relating to literary events and the arts (1969-2009); an interview transcript (1996); and a collection of WWII maps of Italy (1943).

Canlyniadau 161 i 174 o 174