- NLW ex 2457.
- File
- 2003.
Gwaith y rhoddwr, nith T. Gwynn Jones, mewn teipysgrif, a ysgrifennodd ar gais ei phlant ac sy’n cynnwys atgofion am y llenor, ynghyd â choeden deulu sy'n dangos y berthynas rhyngddynt.
Jones, Eirlys.
Gwaith y rhoddwr, nith T. Gwynn Jones, mewn teipysgrif, a ysgrifennodd ar gais ei phlant ac sy’n cynnwys atgofion am y llenor, ynghyd â choeden deulu sy'n dangos y berthynas rhyngddynt.
Jones, Eirlys.
Proflenni gali o ddrama Saunders Lewis gyda nodiadau, a nodyn yn llaw'r dramodydd yn gofyn am broflen ychwanegol.
Lewis, Saunders, 1893-1985
Copies of poems accepted and rejected for Cerddi '73, with correspondence,
Copiau o'r cerddi a ddewiswyd ar gyfer y gyfrol Cerddi '73 (Golygydd R. Geraint Gruffydd), Gwasg Gomer, Llandysul 1973, a nifer o'r rhai a wrthodwyd. Ceir hefyd ffurflenni a gohebiaeth ynglŷn â'r gyfrol.
School certificate presented to Maggie Jones of Prenteg School, co. Caernarfon,
Tystysgrif a gyflwynwyd i'r rhoddwr, fel Maggie Jones, gan Bwyllgor Addysg Sir Gaernarfon am waith rhagorol yn Safon VI yn Ysgol Prenteg am y flwyddyn yn gorffen 31 Gorffennaf 1916.
Pamffledi etholiadol Plaid Cymru, plwyf Llangiwg,
Pamffledi etholiadol (2), 1934, a ddosparthwyd ar ran y Parch H. Samuel pan oedd yn ymgeisydd dros Blaid Cymru yn Etholiad Cyngor Plwyfol Llangiwg, Morgannwg. = Two election pamphlets, 1934, of the Rev. H. Samuel as a Plaid Cymru candidate in Llangiwg Parish Council Election.
Dyddiadur mordaith William Parry,
Hanes ar ffurf dyddiadur o fordaith William Parry, gweinidog anghydffurfiol, i Efrog Newydd, 19 Ionawr-11 Mawrth 1847, ar fwrdd y llong Ohio. Nodir awdur yr hanes fel Owen B. Parry, Amlwch, nai William Parry (t. 7). = An account, in diary form, of the voyage of William Parry, a dissenting minister, to New York, 19 January-11 March 1847, on board the ship Ohio. Stated to be written by his nephew Owen B. Parry, Amlwch (p. 7).
Parry, Owen B., Amlwch, fl. 1847
Drafft, [1909], yn llaw T. Gwynn Jones o'i awdl 'Gwlad y Bryniau', awdl fuddugol Eisteddfod Genedlaethol 1909, Llundain. = A holograph draft, [1909], of 'Gwlad y Bryniau' by T. Gwynn Jones, the winning awdl at the 1909 National Eisteddfod in London.
Mae'r llawysgrif yn gyfrol gyfansawdd, gyda nifer fawr o ddalennau (ff. 2-6, 8, 10-22, 25, 27-29, 32, 34-35) wedi eu tynnu allan o lyfr poced (LlGC, Papurau Thomas Gwynn Jones D320 erbyn hyn) sydd yn cynnwys drafft cynharach o rannau o'r awdl. Mae'r gweddill yn ddalennau newydd yn cynnwys rhannau diwygiedig o'r gerdd (ff. 1, 7, 9, 23-24, 26, 30-31, 33, 36-44). Mae'r testun yn cynnwys nifer fawr o newidiadau a diddymiadau, ac yn y ffurf ddiwygiedig yma mae'n cyfateb yn agos iawn i'r fersiwn orffenedig (gw. LlGC, Eisteddfod Genedlaethol Cymru - Cyfansoddiadau a beirniadaethau 1909/1). Cyhoeddwyd yr awdl gyntaf yng Nghofnodion a Chyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol 1909 (Llundain), gol. gan E. Vincent Evans (Llundain, 1910), tt. 25-36, a'i ail-argraffu yn T. Gwynn Jones, Detholiad o Ganiadau ([Y Drenewydd], 1926), tt. 20-44. = The manuscript is a composite volume, with many folios (ff. 2-6, 8, 10-22, 25, 27-29, 32, 34-35) being leaves removed from a pocket book (now NLW, Papurau Thomas Gwynn Jones D320) which contains an earlier draft of parts of the awdl. The remaining folios are new leaves containing revised sections of the poem (ff. 1, 7, 9, 23-24, 26, 30-31, 33, 36-44). The text contains many emendations and deletions and in this revised form corresponds very closely to the submitted version (see NLW, Eisteddfod Genedlaethol Cymru - Cyfansoddiadau a beirniadaethau 1909/1). It was first published in Cofnodion a Chyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol 1909 (Llundain), ed. by E. Vincent Evans (London, 1910), pp. 25-36, and re-printed in T. Gwynn Jones, Detholiad o Ganiadau ([Newtown], 1926), pp. 20-44.
Jones, T. Gwynn (Thomas Gwynn), 1871-1949
Nodiadau cefndirol yn Saesneg i gyd-fynd gyda'r perfformiad cyntaf o'r opera Serch yw'r doctor (y geiriau gan Saunders Lewis a'r gerddoriaeth gan Arwel Hughes) ar Wasanaeth Cartref y BBC, 24 Chwefror 1958, ynghyd ag 'Opera ddigri Gymraeg newydd', erthygl Leslie Wynne Evans, Coleg y Brifysgol, Caerdydd.
Lewis, Saunders, 1893-1985
Copi o Dafydd Ionawr [David Richards], Cywydd y Drindod (Wrecsam: A. Hughes, 1793, ESTC T65254 / Libri Walliae 4325), gyda nodiadau a diwygiadau yn llaw'r awdur, [1793x1827]. = A copy of Dafydd Ionawr, Cywydd y Drindod (Wrexham: A. Hughes, 1793, ESTC T65254 / Libri Walliae 4325), containing manuscript notes and emendations in the hand of the author, [1793x1827].
Mae yna nifer o ddiwygiadau i gorff y gyfrol (tt. 4-203 passim, 251-382 passim; 64 tt. i gyd) ac ar y diwedd (tt. 383-385); mae llawer o'r adolygiadau yma hefyd yn ymddangos yng ngopi LlGC W.s. 1793 sydd, er hynny, yn cynnwys llawer mwy o ychwanegiadau. Mae yna hefyd fân nodiadau a llinellau o farddoniaeth, mewn pensil yn bennaf (tu mewn i’r cloriau ac ar tt. a-b, ii, vi, 386-388), a rhestr Errata mewn inc (t. a). Ni ymddengys i’r adolygiadau gael eu hymgorffori mewn unrhyw ffordd yn argraffiadau 1834 ac 1851 o’r Cywydd. = There are numerous emendations to the main body of the book (pp. 4-203 passim, 251-382 passim; 64 pp. in total) and at the end (pp. 383-385); many of these emendations also appear in NLW's W.s. 1793 copy, which however contains many more, and more substantial, additions. There are also miscellaneous notes and lines of poetry, mostly in pencil (inside the covers and on pp. a-b, ii, vi, 386-388), and a list of Errata in ink (p. a). The revisions do not appear to have been incorporated in any way into the 1834 and 1851 editions of the work.
Richards, David, 1751-1827