Identity area
Reference code
Title
Date(s)
- [1909] (Creation)
Level of description
File
Extent and medium
44 ff. (testun yn bennaf ar y rectos) ; c. 100 x 60 mm.
Rhwymwyd, [?20 gan., canol], mewn lledr gwyrdd gyda llinellau aur sengl; 'AWDL "GWLAD Y BRYNIAU" GAN T. GWYNN JONES' (aur ar y clawr blaen).
Context area
Name of creator
Biographical history
Ganwyd Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd, newyddiadurwr, cyfieithydd, nofelydd, dramodydd, beirniad ac ysgolhaig, yn y Gwyndy Uchaf, Betws yn Rhos, sir Ddinbych. Yn 1899 priododd Margaret Davies, a chawsant ferch a dau fab. Heblaw am addysg elfennol, yr oedd Jones yn hynanddysgedig, er iddo dderbyn gwersi mewn mathemateg, Lladin a Groeg gan gymydog. Rhwystrwyd ei uchelgais o astudio yn Rhydychen gan afiechyd, a gweithiodd fel newyddiadurwr gyda Baner ac Amserau Cymru, Y Cymro (y daeth yn olygydd arno faes o law), Yr Herald Gymraeg a phapurau newydd eraill rhwng 1891 a 1909, pan gymerodd swydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn 1913, a'i ddyrchafu i Gadair Gregynog mewn Llenyddiaeth Gymraeg yn 1919; ymddeolodd yn 1937. Derbyniodd y CBE yr un flwyddyn. Dylanwadwyd Jones yn gryf gan y llenor Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan,1851-1906) ac yn arbennig gan y newyddiadurwr a'r cyfieithydd Daniel Rees (1855-1931), gyda'r hwn y magodd berthynas glos. Yn ogystal ag ymhyfrydu mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg cyfoes ac o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, datblygodd ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg yr oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar, a hefyd llên gwerin ac ieithoedd tramor, yn enwedig Gwyddeleg ac ieithoedd Celtaidd eraill; bu ar ymweliad ag Iwerddon deirgwaith rhwng 1892 a 1913, daeth i gysylltiad ag ysgolheigion Gwyddelig, a defnyddiodd lysenwau fel Fionn mhac Eóghain yn ei ohebiaeth atynt. Ei brif lwyddiant oedd fel bardd pwysicaf ei genhedlaeth, yn cyfansoddi'n bennaf yn y mesurau caeth. Cyfansoddodd a chyhoeddodd farddoniaeth yn y 1880au, ac enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1902 a 1909 (am 'Ymadawiad Arthur a 'Gwlad y bryniau'); ymhlith gweithiau eraill o'i eiddo mae 'Tir na nOg', 'Madog' ac 'Y Dwymyn'. Cyfieithodd Jones waith Goethe, Ibsen, Shakespeare ac eraill i'r Gymraeg, a chyhoeddodd gyfieithiad Saesneg o Gweledigaethau y Bardd Cwsc Ellis Wynne (1670/1-1734). Mae ei brif gyhoeddiadau academaidd yn cynnwys astudiaeth ar waith y bardd Tudur Aled (bl. 1480-1526), ac roedd yn awdur nofelau, dramâu, cofiannau a llyfr taith hefyd. Yn ogystal, yr oedd yn beirniadu a darlithio mewn eisteddfodau yn rheolaidd, ac yn athro dylanwadol.
Archival history
Mae'n debyg i Jones fenthyg y gyfrol i ffrind iddo ar ôl Eisteddfod 1909 a ni chafodd ei dychwelyd (gw. David Jenkins, Thomas Gwynn Jones (Dinbych, 1973), t. 201).
Immediate source of acquisition or transfer
Madoc Books; Llandudno; Pryniad; Chwefror 2014; 006708976.
Content and structure area
Scope and content
Drafft, [1909], yn llaw T. Gwynn Jones o'i awdl 'Gwlad y Bryniau', awdl fuddugol Eisteddfod Genedlaethol 1909, Llundain. = A holograph draft, [1909], of 'Gwlad y Bryniau' by T. Gwynn Jones, the winning awdl at the 1909 National Eisteddfod in London.
Mae'r llawysgrif yn gyfrol gyfansawdd, gyda nifer fawr o ddalennau (ff. 2-6, 8, 10-22, 25, 27-29, 32, 34-35) wedi eu tynnu allan o lyfr poced (LlGC, Papurau Thomas Gwynn Jones D320 erbyn hyn) sydd yn cynnwys drafft cynharach o rannau o'r awdl. Mae'r gweddill yn ddalennau newydd yn cynnwys rhannau diwygiedig o'r gerdd (ff. 1, 7, 9, 23-24, 26, 30-31, 33, 36-44). Mae'r testun yn cynnwys nifer fawr o newidiadau a diddymiadau, ac yn y ffurf ddiwygiedig yma mae'n cyfateb yn agos iawn i'r fersiwn orffenedig (gw. LlGC, Eisteddfod Genedlaethol Cymru - Cyfansoddiadau a beirniadaethau 1909/1). Cyhoeddwyd yr awdl gyntaf yng Nghofnodion a Chyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol 1909 (Llundain), gol. gan E. Vincent Evans (Llundain, 1910), tt. 25-36, a'i ail-argraffu yn T. Gwynn Jones, Detholiad o Ganiadau ([Y Drenewydd], 1926), tt. 20-44. = The manuscript is a composite volume, with many folios (ff. 2-6, 8, 10-22, 25, 27-29, 32, 34-35) being leaves removed from a pocket book (now NLW, Papurau Thomas Gwynn Jones D320) which contains an earlier draft of parts of the awdl. The remaining folios are new leaves containing revised sections of the poem (ff. 1, 7, 9, 23-24, 26, 30-31, 33, 36-44). The text contains many emendations and deletions and in this revised form corresponds very closely to the submitted version (see NLW, Eisteddfod Genedlaethol Cymru - Cyfansoddiadau a beirniadaethau 1909/1). It was first published in Cofnodion a Chyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol 1909 (Llundain), ed. by E. Vincent Evans (London, 1910), pp. 25-36, and re-printed in T. Gwynn Jones, Detholiad o Ganiadau ([Newtown], 1926), pp. 20-44.
Appraisal, destruction and scheduling
Accruals
System of arrangement
Conditions of access and use area
Conditions governing access
Conditions governing reproduction
Amodau hawlfraint arferol.
Language of material
- Welsh
Script of material
Language and script notes
Cymraeg.
Physical characteristics and technical requirements
Finding aids
Allied materials area
Existence and location of originals
Existence and location of copies
Related units of description
Notes area
Note
Teitl gwreiddiol.
Note
Preferred citation: NLW MS 24054A.
Alternative identifier(s)
Virtua system control number
Access points
Subject access points
Place access points
Name access points
Genre access points
Description control area
Description identifier
Institution identifier
Rules and/or conventions used
Wrth lunio'r disgrifiad hwn dilynwyd canllawiau LlGC a seiliwyd ar ISAD(G) Ail Argraffiad; rheolau AACR2; ac LCSH
Status
Level of detail
Dates of creation revision deletion
Awst 2014.
Language(s)
- Welsh
Script(s)
Sources
Archivist's note
Lluniwyd y disgrifiad gan Rhys Morgan Jones