Dangos 53512 canlyniad

Disgrifiad archifol
Ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

621 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Roger S. Loomis, Efrog Newydd,

Llawenhau bod America wedi ymuno yn y rhyfel. Bu diwygiad mawr yn America yn ystod y flwyddyn flaenorol mewn rhyddfrydiaeth tebyg i un canol y ganrif cynt. Mae hyn yn golygu bod gwladgarwch America yn llawer iawn mwy cytbwys nag ydoedd yn 1917. Da ganddo glywed bod gwaith W. J. Gruffydd ar y Pedair Cainc a Culhwch yn mynd ymlaen. Trafod ei erthygl ar Preiddiau Annwfn. Mae'n credu mai yr un un yw Morddwyd tyllon a Brân. Mae'n trafod pwyntiau yngl?n â marwolaeth Brân. Mae Mrs Loomis yn gweithio ar siopau llyfrau Llundain yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Y mae hi'n credu i Chaucer ddarllen llawysgrif Auchinleck sydd yng Nghaeredin ac mai hynny a fu'n ysbrydoliaeth i'w waith Sir Thopas.

Roger S. Loomis, Efrog Newydd,

Llongyfarch W. J. Gruffydd ar gael ei ethol yn Aelod Seneddol dros y Brifysgol. Mae'n ofni, fodd bynnag, y bydd hynny yn llesteirio ei waith ar y Mabinogion. Rhestrir eitemau ym mywyd cyfoes yr Unol Daleithiau sy'n profi bod y Chwedl Arthuraidd yn fyw iawn o hyd. Mae'n gobeithio gorffen ei lyfr ar ffynonellau Chrétien yn y gwanwyn.

Roger Edwards,

Yr Wyddgrug. Bydd yn dda ganddo dderbyn ysgrifau RDR ar 'Ryfeddodau y Bibl' ar gyfer Y Drysorfa. [Fe'u cyhoeddwyd yn rhifynnau Chwefror, Mawrth ac Ebrill 1886 o'r Drysorfa].

Canlyniadau 7701 i 7720 o 53512