Awdl: 'Yr Arwr' gan 'Fleur-de-lis' (Ellis Evans, 'Hedd Wyn', Trawsfynydd) ynghyd â beirniadaethau T. Gwynn Jones, 'Dyfed' (teipysgrif) a J. J. Williams [rhif 1 yn y Rhestr Testunau].
Darnau amrywiol; llythyrau heb ddyddiad a darnau o lythyrau [A/219-24], cyfres o gardiau post [A/225-37], ynghyd â cherddi [A/238-43] ac amlenni gwag [A/244-8].
Cafodd ei glwyfo yn ei ben gan ergyd Almaenig. Nid oes angen iddi boeni na all ysgrifennu'n aml. Mae'n derbyn ei chynnig i anfon ychydig sigarets ato. Saesneg/English.
Llythyr a ddychwelwyd "Present Location Uncertain". Ni fu yn Llanberis yn ystod gwyliau'r Nadolig. Cafodd annwyd wrth deithio adre ar hyd reilffordd y Cambrian. Posibilrwydd ei bod am symud o Ystalyfera i ysgol ym Merthyr Tudful. Mae'n ddigalon oherwydd bod ei brawd ieuengaf sy'n ddeunaw oed ar ei ffordd i Salonica ac nid yw yn gryf iawn. Mae ei brawd arall adref ar ôl cael shrapnel yn ei ysgyfaint. Bydd yn meddwl llawer amdano yn yr oerni.
Diolch am barsel. Cyrhaeddodd y cynnwys heb dorri o gwbl. Da ganddo wybod bod Evan yn gwella. Cyfeiriadau at gydnabod. Bydd yn dychwelyd i'r ffosydd gyda hyn. Mae'n deall bod gweddïo ar eu rhan yn Rhosgadfan a Bootle.
Cydymdeimlad ar farwolaeth David, brawd Kate Roberts. Penillion o waith ei dad ar yr achlysur hwnnw. Mae'n ddrwg ganddo fod KR yn gadael Ystalyfera. Mae'n nodi ei ddyled iddi ynglyn ag astudio'r Gymraeg. Dymuno'n dda iddi yn ei swydd newydd. Gofyn iddi ysgrifennu hen amser gorberffaith "myned" gan nad yw'n cael ei gynnwys yn y llyfr gramadeg. Cyhoeddwyd llun o'r llythyr hwn yn y gyfrol Bro a Bywyd - Kate Roberts (gol Derec Llwyd Morgan ([Caerdydd], 1981), t 24.
Newyddion am Cae'r Gors a'r ardal. Cyrhaeddodd hanner dwsin o luniau o fedd David ym Malta. Adroddir hanes sut y bu i fachgen dynnu'r lluniau a llunio llythyr ym Mai 1918. Gyda'r lluniau daeth llythyr oddi wrth fam y bachgen [gweler rhif 48 uchod] yn dweud iddi golli dau fab yn y rhyfel - un ym Malta pan oedd ar gychwyn adre a'r llall yng Nghairo. Dim ond wythnos yn ôl y cafodd yr eiddo personol yn ôl oddi wrth y Swyddfa Ryfel. Bu farw'r bachgen cyn anfon y lluniau. Mae'n amgau y ddau lythyr gan bod ei fam yn gofyn i KR i ateb y wraig a'u hanfonodd.
Llyfr Tonau Iago ap Ieuan. Ceir disgrifiad o gynnwys y gyfrol hon yn Percy A. Scholes, 'Hen Wlad Fy Nhadau', yng Nghylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 3.1-2 (1943), 1-10 (tt. 1-3). Ceir sgôr gwreiddiol Hen Wlad fy Nhadau ar f. 41 verso.