Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 53005 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Ffeil
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

152 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Alun [Llywelyn-williams], Llundain W.C.1,

Mae'n gyrru ysgrif i'r Llenor ar iaith lafar y radio. ['Y Gymraeg ar y Radio', Y Llenor, cyf. XIX (1940), tt. 143-54]. Ei syniadau personol ef sydd ynddi nid datganiad swyddogol o bolisi'r BBC. Addasiad o femorandwm ydyw, mewn gwirionedd, a anfonwyd ganddo at Mr Hopkin Morris. Derbyniodd ganiatâd Mr Morris i anfon yr ysgrif at W. J. Gruffydd. Mae'n bosibl y bydd yn cynnig rhyw fath o arweiniad i'r pwnc. Mi fydd yn profi, beth bynnag, fod rhai o aelodau staff y BBC yn dymuno'n dda i'r heniaith ac yn awyddus i wneud eu gorau drosti. Mae De Cymru yn ei chael hi'n ddrwg gan gyrchoedd awyr yr Almaenwyr. Mae'n anodd derbyn bod pobl yn cael eu lladd yng Nghaerdydd ac Abertawe a mannau eraill yng Nghymru. Gobeithio y caiff y Gogledd lonydd.

Alva Tomson,

Glasgow. Diolch am gopi o Tannau Tegfelyn. Canmol y gyfrol ac amgau englyn er clod; cymharu atgofion Tegfelyn o'i gartref â'i rai yntau.

Canlyniadau 1141 i 1160 o 53005