Ei hymateb wedi'r angladd. Diolch i KR am bopeth a wnaeth dros Richard. Diolch am drefnu'r llythyrau diolch am gydymdeimlad. Mae'n ddrwg ganddi fod rhywun wedi mynd â staff Y Faner i Trem-y-don i gael te ddiwrnod yr angladd yn lle dod â hwy yno.
Ymddiheuro am fod yn hwyr yn anfon 'Cwrs y Byd' ychydig yn ôl. Drwg ganddo glywed am y trafferthion a fu yn swyddfa'r Faner. Gobeithio ei bod hi a Gwilym R. [Jones] wedi gwella'n iawn erbyn hyn.
Diolch am ddychwelyd ei theipysgrif. O ailddarllen mae'n sylweddoli pa mor wael oedd y cyfieithiad. Mae'n chwilio am swydd newydd. Mae ei gwr yn cael anhawster i ddysgu Saesneg ac felly mae'n annhebyg y bydd yn gallu gweithio fyth yn Lloegr. Sôn am weld [James Griffiths] a Megan Lloyd George ar y teledu. Saesneg/English.
Diolch iddi hi a Gwilym [R. Jones] am eu llythyr. Mae gan Boby [sic] Jones "pretty wit". Darllenodd adolygiad Gwenallt [ar Cerddi'r Gaeaf]. Teimlai ei fod wedi mynd yn "bored" arno ef a'r llyfr erbyn y diwedd. Mae 'Wil Ifan' yn bwriadu ysgrifennu adolygiad hefyd i'r Western Mail. Mae'n amhosibl cael y papur hwnnw ym Methesda. Tybed a fedrent hwy gael gafael arno? Mae'r gwaith o lofnodi hanner can copi o'r llyfr wedi profi'n ormod iddo.
Diolch i KR am sgwrs gampus. Cofio i KR ddiolch iddi hi flynyddoedd yn ôl pan ymddangosodd Telyn y Dydd. Hoffai ei gweld pe bai ym Mangor neu Gaernarfon rywbryd. Cafodd lythyrau oddi wrth pymtheg o'i ffrindiau yn canmol y sgwrs. Bu'n gofalu am wahanol aelodau o'r teulu dros gyfnod o bum mlynedd.
Gofyn i KR ddychwelyd cyfieithiad Saesneg o un o nofelau Hwngaraidd Lilla Wagner. Mae ganddi awdur o Sais sydd yn barod i'w chynorthwyo i'w loywi ar gyfer ei gyhoeddi. Hanes sut y treuliwyd y Nadolig. Saethwyd un o gyfeillion ei gwr wrth geisio dianc o Hwngari. Cafodd ei glwyfo a'i ddedfrydu i dair blynedd a hanner o lafur caled. Buont yn cysuro ei ferch sydd yn byw yn Lloegr. Mae ei swydd bresennol hi yn dod i ben. Mae ganddynt fflat gysurus, glyd ac y mae Daisy wedi ymroi i'w hastudiaethau. Saesneg/English.
Cafodd dynnu ei holl ddannedd ddeuddydd cyn y Nadolig yn ôl cyngor y deintydd. Y mae'n rhegi ac yn griddfan oddi ar hynny. Mae'n ceisio dygymod â'r dannedd gosod na wyddai eu bod mor ddieflig. Da o beth ei fod wedi medru yfed rhai o winoedd Ffrainc a Sbaen. Mae'n bwriadu yfed y flwyddyn newydd i'w chrud a dilyn y llwybr lletaf yn y flwyddyn newydd i wneud iawn am y Nadolig.
Drwg ganddo ddeall i KR gael Nadolig diflas. Amddiffyn ei benderfyniad i anfon ei gyfrol ddiweddaraf [Hen Dy Ffarm] i'w chyhoeddi gan Wasg Aberystwyth yn hytrach na Gwasg Gee. Trafod casgliad o waith Waldo [Williams] y bwriedir ei gyhoeddi. "Fe saif y cerddi hyn ... gyda gweithiau Williams-Parry, yn bethau mawr ein cyfnod ni". Hydera na fydd i hyn amharu dim ar eu cyfeillgarwch.
Cymerodd wyliau cyn Nadolig rhag eu colli. Mae'n hoffi'r ffrog a anfonodd KR iddi. Poeni am ei pherthnasau yn Hwngari, yn enwedig ei brawd. Nid yw'n ddoeth iddi geisio cysylltu ag ef. Holi os bu i KR ysgrifennu rhywbeth yn ddiweddar. Saesneg/English.
Bu Enid [ei chwaer] farw yn Ysbyty Treforys. Cafodd dyfiant ar yr ymennydd a ddatblygodd yn sydyn. Bu'n anymwybodol am ddyddiau. Nid yw harddwch y lle o ddim cysur iddynt. Caiff ei chladdu yno er bod pawb yn ddieithr iddynt. Drwg ganddi glywed am frawd KR. Saesneg/English.
Diolch am deyrnged i [James] Kitchener Davies yn Y Faner. Derbyniodd dros dri chant o lythyrau cydymdeimlad. "Gwylaidd a beiddgar" oedd geiriau Ambrose Bebb amdano. Cawsant haf llawen gyda'i gilydd er iddi wybod ers mis Mehefin nad oedd gwella i fod. Amlinellu ei brysurdeb yn wyneb iechyd a oedd yn graddol waethygu. Sôn am ymateb y merched i farwolaeth eu tad.
Awgrymu adolygwyr: W.J.G., I.C.P., B.J., J.G.J., D.P., neu'r adolygydd rheolaidd. Caiff hi benderfynu. Ni oes eisiau iddi ateb, mae ganddi ddigon o waith. Cerdyn post.
Diolch i KR ar ran Haydn a hithau am eu hanrheg priodas. Mae'n bwriadu ei gynilo nes y bydd hi'n ddigon iach i gerdded o gwmpas y siopau ei hunan unwaith eto. Bu'n gyfnod o dywydd poeth ac yn annioddefol yn y gwely yn yr ysbyty. Mae'n ei chael yn anodd i gael amynedd i wella o'r T.B. Mae yna nifer o adar ac anifeiliaid gwylltion i'w bwydo yno a gall weld y llongau yn mynd heibio ar y Sianel. Ymddiheuro am beidio ag ateb yn Gymraeg. Saesneg/English.
Falch o glywed fod R. W[illiams] P[arry] yn barodi i gyhoeddi cyfrol arall [Cerddi'r Gaeaf]. Dylai Gwasg Gee fentro a chyhoeddi argraffiad de luxe am 30/- neu £2. Daeth yn amser i Wasg Gee fynd ati i lunio rhaglen gyhoeddi uchelgeisiol. Mae'n tybio bod Gan Bwyll ac ail act Eisteddfod Bodran yn gam ymlaen tuag at lunio arddull fyw a modern i farddoniaeth. Mae mwy o arbrofi ynddynt nag mewn dim a ysgrifennodd erioed cynt. Mae proestau a thelynegion dramatig yn Gan Bwyll ond nid oes raid i'r gwrandawyr yn y theatr sylwi mai telynegion ydynt. Ateb i gamddeall y beirniaid ar ystyr Blodeuwedd yw rhan bwysig o Gan Bwyll. Clywodd am y cynllun darllen stori yn Aberystwyth lle bydd KR yn darllen stori o'i gwaith. Ni fedr ddod oherwydd Mair ond hoffai ddod yn anghyffredin iawn.
Mae Mair yn ddiolchgar iawn am anrheg KR. Mae'n debyg o fod rai dyddiau cyn ateb yn ceisio gloywi ei Chymraeg. Fe wnaeth y rhodd a'r llythyr sirioli tipyn ar ei hysbryd. Mae'n anfon un o gampweithiau Henry James i KR. "Mae'n anodd, ond yn wych!" Dylai KR wneud llyfr o'i hatgofion yn Y Faner.
Cafodd y ffliw yng nghanol y gwres mawr. Wedi darllen erthygl KR ar ei modryb Neli. Ni ddarllenodd ddim a roes gymaint o bleser na chymaint o ias iddo ers tro. [gw. "Ledled Cymru", Y Faner (2 Gorff. 1952), t. 4]. Bu'n ailddarllen Pride and Prejudice Jane Austen. Hi yw'r unig nofelydd Saesneg, heblaw Henry James, y gall ailddarllen ei waith dro ar ôl tro. Dotio at dair brawddeg gyntaf Pride and Prejudice.