Showing 2955 results

Archival description
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Series
Advanced search options
Print preview View:

Cofnodion ariannol

Mae'r gyfres yn cynnwys cofnodion ariannol amrywiol, 1864-1931, sef tri chyfrol yn nodi casgliadau tuag at y weinidogaeth, 1887-1931, a llyfrau cyfrifon eraill, 1864-1931.

Capel Hill's Lane (Shrewsbury, England)

Gohebiaeth

Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth, sef llythyrau yn bennaf oddi wrth Robin Williams, Kate Roberts, E. Tegla Davies, Dyddgu Owen, a D. Tecwyn Lloyd at Islwyn Ffowc Elis, 1949-1994.

Gohebiaeth

Llythrau, 1964-1995, oddi wrth lenorion amlwg a llythyrau'n ei longyfarch ar ei anrhydeddau academaidd.

Chwe ffeil o bapurau gwleidyddol E. G. Millward, Is-Lywydd Plaid Cymru, 1966-68, ac Ymgeisydd y Blaid yn Etholaeth Trefaldwyn, 1970 ...,

Chwe ffeil o bapurau gwleidyddol E. G. Millward, Is-Lywydd Plaid Cymru, 1966-68, ac Ymgeisydd y Blaid yn Etholaeth Trefaldwyn, 1970. Ychwanegwyd y ffeiliau at y papurau gwleidyddol eraill a gyflwynwyd ganddo i'r Llyfrgell yn Awst 1974 (gweler Adroddiad Blynyddol 1974-75, t 41). Mae'r rhifau'n dilyn rhifau'r grwp a gyflwynwyd yn 1974.

Llyfrau cyfrifon unffurf

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau cyfrifon unffurf, oedd hefyd yn cael eu hadnabod fel 'Llyfr yr Athro'. Ceir ynddynt wybodaeth am enwau'r disgyblion a'u cartrefi, presenoldeb yn yr Ysgol Sul, casgliad, a nifer yr adnodau oedd yn cael eu hadrodd. Mae'r cyfrolau bychain yn cynrychioli pob dosbarth yn unigol ar gyfer pob blwyddyn, 1948-1977. Ceir hefyd cyfrolau yn cynnwys y dosbarthiadau i gyd rhwng y blynyddoedd 1902-1910, 1913-1920, 1920-1926 a 1938-1946.

Nofelau

Mae'r gyfres yn cynnwys y drafftiau llawysgrif cyntaf o Cysgod y Cryman, Ffenestri Tua'r Gwyll, Yn ôl i Leifior, Blas y Cynfyd, a Tabyrddau'r Babongo, 1953-1961, a chopi teipysgrif o Yn ôl i Leifior: ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg, 1989.

Results 2901 to 2920 of 2955