Dangos 2960 canlyniad

Disgrifiad archifol
Cyfres
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Toriadau papur newydd amrywiol

Mae'r gyfres yn cynnwys llyfrau lloffion, 1912-1974, yn bennaf o doriadau papur newydd o erthyglau John Ellis Williams, adolygiadau o'i ddramâu, ac erthyglau yn ymwneud â'i weithiau llenyddol, ei gwmni drama, ei rôl fel prifathro a'i ymddeoliad, ynghyd â'i raglenni radio a theledu. Mae'r llyfrau lloffion hefyd yn cynnwys llythyrau oddi wrth ffigyrau amlwg yn y byd llenyddol Cymreig ynghylch gweithiau John Ellis Williams, rhaglenni cystadlaethau a gwyliau drama lle defnyddir dramâu John Ellis Williams neu ei fod yntau'n beirniadu; ffotograffau o'i ddramâu a ffotograffau personol.

Toriadau o'r wasg

Mae'r gyfres yn cynnwys llythyrau oddi wrth W. O. Jones ac eraill, 1888-1901, ynglŷn â Phwnc y Tir, ymddiriedolaeth elusennol Waunfawr 1893, 'Cymry yn y Senedd', ac etholiad Bwrdeistref Arfon 1888, ynghyd ag erthyglau gwleidyddol, crefyddol a llenyddol gan W. O. Jones ac eraill, ac hefyd adroddiadau, sylwebaeth a gohebiaeth ynglŷn â'r anghydfod rhwng W. O. Jones ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru yng Nghapel Chatham Street, Lerpwl, 1900-1901, gan gynnwys ei amddiffyniad ohono'i hun ar dudalennau Y Cymro.

Free Church of the Welsh (Liverpool)

Canlyniadau 261 i 280 o 2960