Dangos 346 canlyniad

Disgrifiad archifol
Is-fonds
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

2017 Deposit

Four scrapbooks (one disbound), c.1857-c.1952, eleven letter books, 1874-1906, three photograph albums, bundles of letters, 1880-1900, and three game books, 1900-1950. Bundles of deeds, letters and other papers related to the purchase and sale of properties, mainly in p. Llanfyllin, c.1851-c.1954. Manuscript 'History and topography of the hundred of Llanfyllin', by "Mechain", 1893, notes for a history of Llanfyllin, c.1893-1916, and a typescript 'History of the parish of Llanfyllin from 1862 to 1913', by J. Marshall Dugdale, c.1916.

Llyfrau lloffion

Llyfrau lloffion. Rhestrir yma y llyfrau lloffion sydd yn cynnwys toriadau papur gan mwyaf gydag ychydig iawn neu ddim deunydd llawysgrif. Cymysg iawn yw'r cynnwys fel arfer ond nodir llyfrau lle ceir nifer sylweddol o doriadau ynglyn â pherson neu bwnc arbennig er bod deunydd cymysg fel arfer yn y llyfrau rheini hefyd. Mae'r deunydd llawysgrif wedi ei fynegeio ac felly ni chynhwysir yma lyfrau lloffion sydd yn cynnwys deunydd llawysgrif yn unig ac sydd wedi ei mynegeio yn fanwl (dan enw person fel arfer).

Rhodd Awst 1960

Papurau Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd ac ysgolhaig, a dderbyniwyd yn rhodd gan ei weddw yn Awst 1960. Ceir disgrifiad bras o'r grwp hwn yn Adroddiad Blynyddol 1960-61, tt. 31-32. Trefn: Gohebiaeth (B 1-308); Papurau llenyddol amrywiol (B 309-324); Cyfieithiadau (B 325-327); Deunydd mewn Gwyddeleg (B 328-331); Adysgrifau (B 332-339); Darlithiau ac anerchiadau (B 340-481); Sgriptiau radio ac adolygiadau ar lyfrau (B 482-494); Gwahanlithoedd a thoriadau o'r wasg (B 495-509); a Phapurau amrywiol (B 510-524).

Rhodd Medi 2021

Papurau ychwanegol Mathonwy Hughes, [1850]-2019 (gyda bylchau), yn cynnwys gohebiaeth, barddoniaeth, ysgrifau, papurau'n ymwneud â'r Faner, ffotograffau a phapurau pobl eraill.

Yr hyn a oedd yn weddill o'r casgliad cyntaf

Yn y rhestr hon fe ddisgrifir yr hyn a oedd yn weddill o'r casgliad cyntaf o bapurau Thomas Gwynn Jones (1871-1949), sef yr eitemau a hepgorwyd o restr Miss Norma G. Davies yn 1949, "A Schedule of Manuscripts and Correspondence presented by Dr Thomas Gwynn Jones, C.B.E.". Cyflwynwyd y casgliad gwreiddiol hwn o bapurau, llawysgrifau a gohebiaeth gan y bardd a'r ysgolhaig ei hun yn ystod 1943 a cheir disgrifiad ohonynt yn Adroddiad Blynyddol 1942-43, t. 22. Rhifwyd yr eitemau yn rhestr 1949 o G1 hyd G6892 a pharheir â'r gyfres rifau honno yma yn y rhestr hon.

Rhodd 2022 Donation

Papurau Emyr Humphreys, 1882-2019, yn cynnwys llythyrau, nodiadau, drafftiau, teipysgrifau, proflenni, llyfrau nodiadau, toriadau, pamffledi, ffotograffau, a chylchgronau, yn cynnwys gohebiaeth, 1929-2019, yn cynnwys llythyrau at ac oddi wrth Emyr Humphreys yn ymwneud â materion personol a llenyddol; papurau yn ymwneud â nofelau a gweithiau rhyddiaith, 1931-2017, gan gynnwys gweithiau gan Emyr Humphreys ac eraill; papurau yn ymwneud â chasgliadau o farddoniaeth gan Emyr Humphreys, 1902-2019, gan gynnwys barddoniaeth gyhoeddedig a heb ei chyhoeddi; llyfrau nodiadau a phapurau, [?1938x?1948]-2014, yn ymwneud â chasgliadau o straeon byrion gan Emyr Humphreys, wedi'u cyhoeddi a heb eu cyhoeddi; sgriptiau a phapurau cysylltiedig, 1882-2010, gan gynnwys sgriptiau gan ac yn ymwneud â gwaith Emyr Humphreys ac eraill; papurau gweinyddol, 1943-2009, yn ymwneud â gweithiau cyhoeddedig Emyr Humphreys; papurau yn ymwneud ag erthyglau, darlithoedd, a traethodau gan Emyr Humphreys ac eraill, 1938-2019; eitemau cyhoeddedig, 1917-2019, a gasglwyd gan ac yn ymwneud â gwaith Emyr Humphreys, gan gynnwys toriadau a chylchgronau; llyfrau nodiadau a phapurau, 1906-1966, y Parch. Griffith Jones, Llanwnda, a gasglwyd gan ei fab-yng-nghyfraith Emyr Humphreys; ac eitemau a phapurau amrywiol eraill a gadwyd ac a gasglwyd gan Emyr Humphreys, 1922-2013. / Papers of Emyr Humphreys, 1882-2019, including letters, notes, drafts, typescripts, proofs, notebooks, cuttings, pamphlets, photographs, and magazines, comprising correspondence, 1929-2019, including letters to and from Emyr Humphreys relating to both personal and literary matters; papers relating to novels and prose works, 1931-2017, including works by both Emyr Humphreys and others; papers relating to collections of poetry by Emyr Humphreys, 1902-2019, including both published and unpublished poetry; notebooks and papers, [?1938x?1948]-2014, relating to collections of short stories by Emyr Humphreys, both published and unpublished; scripts and related papers, 1882-2010, including scripts by and relating to the works of Emyr Humphreys and others; administrative papers, 1943-2009, relating to published works by Emyr Humphreys; papers relating to articles, lectures, and essays by Emyr Humphreys and others, 1938-2019; published items, 1917-2019, collected by and relating to the works of Emyr Humphreys, including cuttings and magazines; notebooks and papers, 1906-1966, of the Rev. Griffith Jones, Llanwnda, collected by his son-in-law Emyr Humphreys; and other miscellaneous items and papers kept and collected by Emyr Humphreys, 1922-2013.

Rhodd Chwefror 1960

Y rhan o gasgliad Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd ac ysgolhaig, a dderbyniwyd yn rhodd gan ei weddw yn Chwefror 1960. Ceir disgrifiad bras o'r grwp hwn yn Adroddiad Blynyddol 1959-60, tt. 31-2. Trefn: Gohebiaeth (A 1-1818); Papurau llenyddol amrywiol (A 1819-1857); Darlithiau ac anerchiadau (A 1858-2134); Deunydd printiedig (A 2135-2136).

Rhoddion Awst a Rhagfyr 1961

Y rhan o gasgliad Thomas Gwynn Jones (1871-1949), bardd ac ysgolhaig, a dderbyniwyd yn rhodd gan ei weddw yn Awst a Rhagfyr 1961. Ceir disgrifiad bras o'r grwp hwn yn Adroddiad Blynyddol 1961-2, tt. 29-30. Trefn: Cerddi mewn llawysgrif (C 1-16); Cyfieithiadau (C 17-24); Deunydd academaidd, dramâu, cyfieithiadau ac ysgrifau etc. (C 25-37); Rhagymadroddion, gweithiau Gwyddelig ac adysgrifau (C 38-54); Amrywiol, darlithoedd ac anerchiadau (C 55-98); Adolygiadau o lyfrau (C 99-105); Barn ar draethodau MA a phapurau yn ymwneud â'i waith yn Adran y Gymraeg (C 106-120); Beirniadaethau eisteddfodol (C 121-133); Esperanto (C 134-140); Personalia ac amrywiol (C 141-161); Adysgrifau o weithiau mewn Gwyddeleg (C 162-170); Eitemau wedi'u trosglwyddo o Adran y Llyfrau. Printiedig (C 171-177).

Papurau ychwanegol a fu ym meddiant Dr David Jenkins

Papurau ychwanegol T. Gwynn Jones yn cynnwys llythyrau a dderbyniwyd ganddo, 1904-1948; llythyrau oddi wrtho, 1902-1948; llythyrau teuluol, 1935-1944; llythyrau a anfonodd at John Ballinger, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1908-1926; llungopïau o'i lythyrau a gedwir ym Mhrifysgol Cymru-Bangor, 1902-1944; papurau personol, 1899-1947; a phapurau amrywiol, 1904-1985.

Pryniad 1994 Purchase

Papers of Emyr Humphreys, 1908-1993, comprising mainly correspondence, 1930-1993, including personal correspondence, 1939-1993, correspondence between parties other than Emyr Humphreys, 1930-1993, and correspondence relating directly to his work, 1942-1994, and his interests, such as the arts and politics, including papers relating to Plaid Cymru and Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1956-1992; volumes, published and unpublished, [1946]x1991; short stories, in manuscript and typescript form, together with some poems and scripts and unidentified prose, 1937x1981; articles, reviews, adjudications and lectures, c. 1949x1993; radio and television scripts, including scripts containing references to Emyr Humphreys, with contributions by him and reviews of his work, 1946xc. 1993; poems, 1936xc. 1993; together with miscellaneous items, which include a file of official publications, circulars, memoranda and related papers (c. 1945-1946) relating to the United Nations Relief and Rehabilitation Administration in Italy, and Welsh and English newspaper cuttings, 1908-1990.

Humphreys, Emyr

Canlyniadau 1 i 20 o 346