Showing 165 results

Archival description
Series Welsh
Advanced search options
Print preview View:

Datblygiad a Gwasanaethau

Gohebiaeth a phapurau, 1978-1997 a 2002-2008, yn ymwneud â datblygu y Ganolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn a darparu gwasanaethau, yn cynnwys cynlluniau busnes; trefnu cyrsiau; datblygu’r safle; strategaethau; yr Ymddiriedolaeth; nawdd; rhaglen EWROSGOL, a gweithgareddau a digwyddiadau yn y Nant. Mae rhai o’r ffeiliau hefyd yn ymwneud â phrynu a datblygu Plas Pistyll.

Gohebiaeth

Gohebiaeth, 1937-2011, yn ymwneud â'i gweithiau llenyddol a'i diddordebau amrywiol.

Crefyddol ac emynau,

Cyfansoddiadau, trefniadau a gosodiadau gan Gilmor Griffiths o emynau a darnau o ddylanwad crefyddol. Nifer ohonynt wedi eu trefni ar gyfer côr.

Gohebiaeth

Llythyrau T. Eirug Davies, [1912]-1979, yn cynnwys llythyrau oddi wrth ei ddarpar wraig Jennie Thomas; llythyrau yn ymwneud â’i waith fel golygydd Y Dysgedydd a llythyrau yn cydymdeimlo ag ef ar farwolaeth ei wraig yn 1948.

Dyddiaduron

Dyddiaduron T. Eirug Davies, 1914-1951, yn cynnwys ychydig o gofnodion am ei ddyletswyddau fel gweinidog yn bennaf.

Yr Eisteddfod Genedlaethol

Cyfansoddiadau buddugol ac anfuddugol, 1921-[1928], a anfonwyd gan T. Eirug Davies i'r Eisteddfod Genedlaethol, ynghyd â thystysgrifau, 1921-1930, a thorion o'r wasg, 1932-1936, yn ymwneud â'i lwyddiant fel bardd y goron a beirniad.

Results 1 to 20 of 165