Showing 60064 results

Archival description
Welsh
Print preview View:

42 results with digital objects Show results with digital objects

'The Literary Tradition of the the Vale of Glamorgan'

Llawysgrifau darlithoedd Saesneg ar draddodiad llenyddol Morgannwg, 'The Literary Tradition of the the Vale of Glamorgan', 'Some Aspects of the Literary Tradition of Glamorgan' a 'The Vale of Glamorgan and the Literary Tradition of the Vale'; ynghyd â phroflen erthygl yn dwyn y teitl 'The Welsh Literary Tradition', gyda phwyslais arbennig ar Forgannwg.

'The Leader Foolscap Folio Diary for 1936.' Sylwadau manwl am bob dydd. Dyma dri sylw, er enghraifft, o'r cynnwys am ....

'The Leader Foolscap Folio Diary for 1936.' Sylwadau manwl am bob dydd. Dyma dri sylw, er enghraifft, o'r cynnwys am 23 Mai:. Marsia yn cychwyn gyda'r Cor am Eisteddfod Cerrigydrudion am 5 p.m. Mwg taro yn y parlwr: arwydd tywydd drwg. Gorffen pwt o gan chwe phennill i Hen Dren Bach Y Glyn.'. 'Ar 25 Tach. cafodd Gwenith Gwyn ei wneud yn llywydd y 'Barri Evangelical Council.' Cafwyd gwasanaeth ar yr aelwyd yn ei gartref. Rhoddir sylw bron bob dydd i'r cwsg (neu ddiffyg cwsg) a gafodd Gwenith Gwyn y noson gynt a cheir rhai cyfeiriadau at ei wendid corfforol. Dyma un o'r sylwadau am Ddydd Nadolig:. 'Treulio y dydd yn ffyddiog a dedwydd. Dechrau ysgrifennu adrannau o'r Beibl i ffurfio Beibl y Claf. Y rhannau sy'n cryfhau ffydd mewn iachad trwy ffydd.'. Y tu fewn i'r dyddiadur ceir cerdyn a'r englyn hwn arno gan Gwenith Gwyn i [Tom] Bassett:. Ar Bassett tyner bwysaf - mwyn gyfaill!. Mae'n gafael am danaf;. Dyn fy nos, ha! Dawn fy Naf -. Yw'r gwr a gywir garaf.

'The Leader Foolscap Diary for 1937.' Sylwadau ar gyfer bob dydd hyd 1 Chwefror. Ar 2 Chwef. ysgrifennodd ei ferch ....

'The Leader Foolscap Diary for 1937.' Sylwadau ar gyfer bob dydd hyd 1 Chwefror. Ar 2 Chwef. ysgrifennodd ei ferch Hawys y geiriau hyn:. Fe fu i fy nhad annwyl farw heddiw tua chanol dydd. Teimlai yn o dda meddai ef - pan oeddwn i ar gychwyn i'r ysgol - neu ni fuaswn wedi mynd am foment ... Ei bregeth olaf - bore Sul oedd ar 'Tangnefedd i'r ty Hwn' ...'. Gyferbyn ceir toriad o'r South Wales Echo and Express, 3 Chwef., 1937: 'Death of Rev. W. R. Jones, Barry - Pastor of Welsh Baptist Church.'.

The Leader

Mae'r gyfres yn cynnwys toriadau papur newydd o'i golofnau a'i erthyglau yn The South Caernarvon & Merioneth Leader (Yr Arweinydd), 1947-1953.

Results 6481 to 6500 of 60064