- 147.
- File
- 1912, Gorff. 30.
Part of Papurau R. Williams Parry
Methu â deall paham y mae R. Williams Parry am fynd i Rydychen i wneud ymchwil. Son am eiriau gwenwynllyd 'Anthropos' [Robert David Rowland] yn Y Faner.
42 results with digital objects Show results with digital objects
Part of Papurau R. Williams Parry
Methu â deall paham y mae R. Williams Parry am fynd i Rydychen i wneud ymchwil. Son am eiriau gwenwynllyd 'Anthropos' [Robert David Rowland] yn Y Faner.
W. J. G[ruffydd], Tongwynlais,
Part of Papurau Eifion Wyn,
Ei farn am T. Marchant Williams; mae ei erthygl am EW islaw sylw. Enwi rhai o'r 'bradwyr' cenfigennus eraill sy'n ysgrifennu i'r wasg. Helynt yr englyn a wobrwywyd yn Eisteddfod Caerfyrddin, 1911.
Part of Papurau R. Williams Parry
Bron bob papur newydd yng Nghymru yn cwyno yn erbyn W. J. Gruffydd. Holi pwy sy'n ysgrifennu dan yr enw 'Y Ford Gron' a phwy yw'r 'Oxoniensis' sy'n ysgrifennu i'r Brython. Cyfeiriad at gerdd newydd o'i eiddo, math o hwiangerdd i'w faban deufis [gw. Ynys yr Hud a Chaneuon Eraill, (Caerdydd, 1923), t. 31].
Part of Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau
W. J. Gruffydd, R. Williams Parry ac 'Emyr' ar y bryddest ynghyd â phroflenni tudalen o'r gerdd. Dyfarnwyd y wobr i 'Y Belwr Bach' (Caradog Prichard) [rhif 6 yn y Rhestr Testunau].
W. J. Gruffydd, R. G. Berry ac E. Vincent Evans ar y ddrama 'Owen Glyn Dwr'. Dyfarnwyd y wobr i ...,
Part of Eisteddfod Genedlaethol Cymru - cyfansoddiadau a beirniadaethau
W. J. Gruffydd, R. G. Berry ac E. Vincent Evans ar y ddrama 'Owen Glyn Dwr'. Dyfarnwyd y wobr i 'Avon' (Cyril E. Roberts, Clifton, Bryste) [rhif 1 yn y Rhestr Testunau]. Saesneg/English.
Part of Papurau R. Williams Parry
"Rhaid dwrdio R. Williams Parry am ei groen-deneuwch yn cymhwyso cyfeiriad gan W. J. Gruffydd ato ef ei hun.".
Part of Papurau R. Williams Parry
Gofyn caniatâd i ddyfynnu'r soned 'Pantycelyn' mewn rhaglen radio. Gweddïo y caiff Mussolini ei 'ddileu o lyfr y bywyd'.
Part of Papurau Eifion Wyn,
Gwahoddiad i ginio 'o wyr y Gogledd'; y tro cyntaf iddynt gael bardd, yn hytrach na gwleidydd, yn wr gwadd.
Part of Papurau Eifion Wyn,
Cloriannu telynegion Eisteddfod Y Barri, 1920. Ceir copïau teipysgrif o'r telynegion ynghyd â sylwadau EW arnynt (rhif 123a); mae diwedd llythyr teipysgrif oddi wrth Tryfanwy at EW ar gefn y ddalen olaf.
Part of Papurau Eifion Wyn,
Efallai mai Heinrich Zimmer a ysgrifennodd werthfawrogiad o waith EW. Cynnig adolygu ei gyfrol [Telynegion Maes a Môr] - nid oes hafal i delynegion y misoedd.
[W. J. Gruffydd] at y Prifathro Stuart Jones, C.P.C Aberystwyth,
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Diolch am ei lythyr. Y mae Sir John [Morris-Jones] eisoes wedi cysylltu â golygydd y South Wales News ond nid yw hynny yn debyg o wneud gwahaniaeth. Y brif ystyriaeth yw bod y Brifysgol yn talu dyn i ymosod ar ei gwaith ei hunan. Hydera y caiff Stuart Jones gyfle i drafod y mater gyda'i gydweithwyr pan fydd yn dychwelyd i Aberystwyth. Copi teipysgrif.
[W. J. Gruffydd] at y Prifathro Stuart Jones, C. P. C. Aberystwyth,
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Llythyr yn ymosod ar Timothy Lewis. Y mae'n defnyddio'r Wasg i ymosod ar athrawon Cymraeg y Brifysgol. Y mae ar fin ymosod ar Syr John Morris-Jones yn y South Wales News. Y mae'r erthyglau a gyhoeddir ganddo yn destun sbort yng Nghymru. Y mae ei gais i esbonio enwau lleoedd yn fwy gwallgo na'r rhai welir mewn papurau lleol. Mae'n rhaid i Adran y Gymraeg yn Aberystwyth ysgwyddo'r gwarth am ei ymddygiad. Y mae'n ennill £550 y flwyddyn am wneud dim ond ymosod ar aelodau'r brifysgol. Rhaid gwneud rhywbeth am hyn ar fyrder. Cafwyd addewid yng nghyfnod rhagflaenydd Stuart Jones gan Timothy Lewis y byddai'r ymosodiadau hyn yn darfod. Hydera y gellir delio â'r sefyllfa cyn gorfod codi'r mater gydag awdurdodau'r Brifysgol. Awgryma y gellid holi barn yr athrawon Parry-Williams, Gwynn Jones, Edwards a Fleure. Gallai Henry Lewis ac Ifor Williams roi barn ddiduedd yn ogystal pe bai raid. Copi teipysgrif.
[W. J. Gruffydd] at Walter S. Jones, Llanllyfni,
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Nid yw wedi gollwng syniad yr 'Eisteddfod Fach' dros gof. Hoffai weld yr 'Hunangofiant Amaethwr' i'w ystyried ar gyfer Y Llenor. Copi teipysgrif.
[W. J. Gruffydd] at W. N. Bruce,
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Cydnabod derbyn rhif 167 uchod. Gobeithia gael gair gyda Mr Young ynglyn ag agwedd y Gymanwlad at addysg yng Nghymru. Mae Dr [Thomas] Richards, Llyfrgellydd [Coleg] Bangor yn gweithio ar hyn eisoes. W. J. Gruffydd yn bwriadu anfon crynodeb o'i dystiolaeth i'r pwyllgor at W. N. Bruce pan ddaw copi i law. Mae W. J. Gruffydd yn anfodlon ar gyfansoddiad y pwyllgor a'r modd yr etholwyd ef. Y mae'n ofid ganddo fod cyn lleied o academyddion ar gyrff Cymreig. Hwy ddylai wybod beth yw anghenion addysg yng Nghymru. Copi teipysgrif.
[W. J. Gruffydd] at W. N. Bruce,
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Mae'n anfon copi o grynodeb o'i dystiolaeth. Nid yw wedi derbyn copi o dystiolaeth W. N. Bruce eto. Gobeithia nad yw yn gwrthddweud W. N. Bruce yn ei dystiolaeth. Copi teipysgrif.
[W. J. Gruffydd at Thomas Jacob Thomas, 'Sarnicol', Aber-fan],
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Diolch am ei lythyr, [rhif 796 uchod]. Y mae'n cytuno'n llwyr ag ef. Bu'n ceisio amddiffyn gwaith 'Wil Ifan', Crwys ac eraill yn erbyn Saunders Lewis. Byddai'n ddiolchgar iawn am rywbeth tebyg i'r hyn a anfonodd. Nid yw yn rhy lleol gan fod diddordeb cenedlaethol yng Nghymru yn dibynnu ar bethau lleol. Bu'n disgwyl cyfraniad gan 'Sarnicol' ers hir amser. Copi teipysgrif.
[W. J. Gruffydd at The Times],
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Achwyn am safon adolygiadau yn y Times ar lyfrau ysgolheigaidd Celtaidd. Mae'n amlwg mai newyddiadurwr a hwnnw'n ddi-Gymraeg o bosibl, sydd wrthi yn adolygu. Mae digon o adolygwyr addas ar gael ym Mhrifysgol Cymru ac oddi allan iddi. Mae'n nodi'r adolygiad gwan a gafodd llyfr E. J. Jones, History of Education in Wales. Mae'n amlwg i bawb nad oedd yr adolygydd yn gymwys i ddelio â'r llyfr. Nid oes gan W. J. Gruffydd unrhyw achwyniad personol, mae'n ysgrifennu fel Athro Cymraeg hynaf y Brifysgol a'i fod yn ymwybodol o'r anfodlonrwydd sydd yn bodoli ymhlith ysgolheigion am adolygiadau'r T.L.S. Copi teipysgrif.
[W. J. Gruffydd] at The Cardigan & Tivy-side Advertiser,
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Mae wedi derbyn llythyr 178 uchod. Nid yw'n dymuno trafod yr helynt oherwydd naws y llythyr hwnnw.
[W. J. Gruffydd] at Syr John Morris-jones,
Part of Papurau W. J. Gruffydd
Anodd gwybod beth ddylai ymateb John Morris-Jones fod. Dylai ateb y llythyr ond peidio sôn am vendetta. Awgrymu drafft o lythyr yn amlinellu beirniadaeth Timothy Lewis o athrawon Prifysgol Cymru i gyd. Bwriada anfon llythyr at y Prifathro Stuart Jones. Copi teipysgrif.