Showing 60064 results

Archival description
Welsh
Advanced search options
Print preview View:

42 results with digital objects Show results with digital objects

Barddoniaeth

Awdl neu ddilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn: ‘Gwe’; casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn: ‘Breuddwyd’; ‘englyn unodl union: ‘Graffiti’; englyn unodl union ysgafn: ‘Moderneiddio’; cywydd : ‘Perthyn’; hir a thoddaid: ‘Pengwern’; telyneg: 'Argae'; soned: ‘Adwy’; baled: ‘Plygain’; carol Blygain; saith triban: 'Dyddiadur wythnos'; casgliad o chwe cherdd ar gyfer plant cynradd: (testun yn agored); a blodeugerdd o gerddi gan feirdd gwlad ardal benodol.

Barddoniaeth

Dilyniant o gerddi mewn cynghanedd gyflawn: ‘Ffiniau’; casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn: ‘Llwybrau’; englyn unodl union: ‘Darlun’; telyneg: ‘Copa’; cywydd teyrnged 18 llinell; soned: ‘Llidiart’; filanél: ‘Tywyllwch’; casgliad o chwe cherdd, yn addas ar gyfer yr arddegau: agored; a cherdd dddychan: ‘Gwleidydd'.

Barddoniaeth

Mae'r grŵp yn cynnwys llyfrau nodiadau a drafftiau o farddoniaeth Ben Bowen yn ei lawysgrif ei hun. Maent yn cynnwys deunydd ar gyfer eisteddfodau, er enghraifft 'Pantycelyn', 'Ymadawiad Arthur' a 'Goleuni'r Byd', a cherddi eraill. Cyhoeddwyd rhai o'r cerddi yma yn David Bowen (gol.) Cofiant a Barddoniaeth Ben Bowen, Treorci, 1904.

Barddoniaeth

Cerddi o waith Dewi ab Iago, Tomos ab Iago, Iago ab Iago, 'Edwin Bach' (?gwaith Ieuan wedi ei dadogi ar ei fab), Robert Davies, Nantglyn (nid yn ei law, dyfrnod 1842) ac amryw o dan ffugenwau (cerddi eisteddfodol gan mwyaf, gweler Evan James MS 13), yn eu plith ddwy groesawgerdd i Ieuan ar ei ddyfodiad i Bontypridd.

Barddoniaeth

Papurau rhyddion yn awr wedi eu rhwymo yn gyfrolau ydyw Evan James MSS 8-15. Yn Evan James MSS 8-11, sef y rhai sy'n cynnwys barddoniaeth Ieuan, gwelir ar gefnau rhai dalennau y nodiad 'copied to book', yn llaw Iago; Evan James MS 3 ydyw'r llyfr hwn. Ar eraill gwelir 'copied to the music book', yn llaw Iago eto; nid yw'r llyfr hwn yn y casgliad. Gwelir fod nifer o'r cerddi wedi bod trwy'r post, rhai yn llythyrau at aelodau o'i deulu, eraill i eisteddfodau. Mae ychydig o waith Tomos ab Iago yn gymysg ag eiddo ei frawd oherwydd defnyddio'r un ddalen gan y ddau; mae'n bosibl hefyd fod nifer o'r cerddi dienw, neu â ffugenwau yn unig, yn waith Tomos - tebyg iawn i'w gilydd yw'r ddwy ysgrifen. Mae peth ansicrwydd hefyd ynglyn ag awduriaeth y cerddi yn Evan James MS 10, ff. 58-65.

Results 3681 to 3700 of 60064