Print preview Close

Showing 2 results

Archival description
Playter, Phyllis Welsh
Print preview View:

Erthyglau a sgriptiau Saesneg

Mae'r ffeil yn cynnwys teipysgrifau yn bennaf, ynghyd â rhai drafftiau llawysgrif a chopïau printiedig, o erthyglau a sgriptiau Saesneg gan Carys Richards, 1957-[2001] (gydag amryw fylchau). Maent yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau; yn eu plith mae adolygiadau o arddangosfeydd celf; ei hatgofion am Olga Rudge, a gyhoeddwyd yn y New Welsh Review, 1990, a Phyllis Playter, a gyhoeddwyd yn The Powys Review, 1991; ac erthygl ganddi, 1999, yn adrodd atgofion Ian Tibbs, cyd-swyddog Alun Lewis yn y fyddin. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys llythyrau perthnasol, yn eu plith rhai gan Evelyn Silber (2), Belinda Humfrey (3), Robin Reeves a Robert Minhinnick, a drafftiau o lythyrau gan Carys Bell.

Silber, Evelyn,

Llythyrau P

Llythyrau, 1907-1980, gan gynnwys rhai oddi wrth R. Williams Parry (8); Tom Parry (17); Ffransis G. Payne (35); Harold J. E. Peake; D. Rhys Phillips; Trefin; Eluned Phillips (2); Glyn O. Phillips; Vincent Phillips; Gwynedd O. Pierce; Stuart Piggott (2); a Caradog Prichard (4). Yn ogystal ceir adysgrifau a llungopi o lythyrau, 1937-1955, gan John Cowper Powys at Iorwerth Peate (51), ynghyd â llungopi o lythyr ychwanegol, 1938, gan John Cowper Powys (Llawysgrif LlGC 2340C), llythyrau gan Phyllis Playter (3), ac eraill yn ymwneud â'r gyfrol John Cowper Powys : letters 1937-1954 (Caerdydd, 1974), gan R. Brinley Jones.

Parry, Robert Williams