Wedi eu hysgrifennu yn Ffrainc adeg y Rhyfel,
- Bocs 2/Dyddiadur 7.
- Ffeil
- 1916, Meh. 1 - Awst 26.
36 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol
Wedi eu hysgrifennu yn Ffrainc adeg y Rhyfel,
(Dyddiadur Mewnol, gyda rhai darnau o farddoniaeth.) Wedi eu hysgrifennu yn Ffrainc adeg y Rhyfel,
Rhan oPapurau Idwal Jones,
Rhan oPapurau Idwal Jones,
Rhan oPapurau Idwal Jones,
Rhan oPapurau Idwal Jones,
Llythyr oddi wrth Evan [Roberts], brawd Kate Roberts [Somme, Ffrainc],
Rhan oPapurau Kate Roberts
Cafodd ei glwyfo yn ei frest a'i fraich. Bydd yn dychwelyd i Loegr o fewn yr wythnos a bydd yn cael dod adref gyda hyn. Cerdyn post.
Llythyr oddi wrth Evan [Roberts], brawd Kate Roberts, yn Ysbyty'r Brifysgol, Southampton,
Rhan oPapurau Kate Roberts
Mae'n dal i wella. Mae'n cael codi i'r gadair am awr bob dydd. Disgrifio ei amgylchiadau yn yr ysbyty. Da ganddo glywed iddynt ddod i ben â'r gwair.
Llythyr oddi wrth William H. Jones, yn Ffrainc,
Rhan oPapurau Kate Roberts
Diolch am barsel. Cyrhaeddodd y cynnwys heb dorri o gwbl. Da ganddo wybod bod Evan yn gwella. Cyfeiriadau at gydnabod. Bydd yn dychwelyd i'r ffosydd gyda hyn. Mae'n deall bod gweddïo ar eu rhan yn Rhosgadfan a Bootle.
Llythyr oddi wrth David [Gwenallt Jones], ym Mhontardawe,
Rhan oPapurau Kate Roberts
Cydymdeimlad ar farwolaeth David, brawd Kate Roberts. Penillion o waith ei dad ar yr achlysur hwnnw. Mae'n ddrwg ganddo fod KR yn gadael Ystalyfera. Mae'n nodi ei ddyled iddi ynglyn ag astudio'r Gymraeg. Dymuno'n dda iddi yn ei swydd newydd. Gofyn iddi ysgrifennu hen amser gorberffaith "myned" gan nad yw'n cael ei gynnwys yn y llyfr gramadeg. Cyhoeddwyd llun o'r llythyr hwn yn y gyfrol Bro a Bywyd - Kate Roberts (gol Derec Llwyd Morgan ([Caerdydd], 1981), t 24.
Llythyr oddi wrth Evan [Roberts] [brawd Kate Roberts], yn Rhosgadfan,
Rhan oPapurau Kate Roberts
Newyddion am Cae'r Gors a'r ardal. Cyrhaeddodd hanner dwsin o luniau o fedd David ym Malta. Adroddir hanes sut y bu i fachgen dynnu'r lluniau a llunio llythyr ym Mai 1918. Gyda'r lluniau daeth llythyr oddi wrth fam y bachgen [gweler rhif 48 uchod] yn dweud iddi golli dau fab yn y rhyfel - un ym Malta pan oedd ar gychwyn adre a'r llall yng Nghairo. Dim ond wythnos yn ôl y cafodd yr eiddo personol yn ôl oddi wrth y Swyddfa Ryfel. Bu farw'r bachgen cyn anfon y lluniau. Mae'n amgau y ddau lythyr gan bod ei fam yn gofyn i KR i ateb y wraig a'u hanfonodd.
Llun David Owen Roberts yn ei wisg milwr,
Rhan oPapurau Kate Roberts
Rhan oPapurau Lewis Valentine,
Rhan oPapurau Idwal Jones,
Rhan oPapurau Carneddog
Bryntirion, Llanberis. Anfon ychydig ddalennau allan o ddyddlyfr ei ddiweddar fab, Hugh J. Jones, a ysgrifennodd yn Nwyrain Affrica adeg y Rhyfel Byd Cyntaf. Ceir dau bennill o'i eiddo ac un o eiddo Ioan Gwynant.
Rhan oPapurau Idwal Jones,
Llythyr oddi wrth Hughie [Williams] (Cefnder i Kate Roberts), [o'r brwydro yn Fflandrys],
Rhan oPapurau Kate Roberts
Diolch am lythyr. Ymddiheuro am ysgrifennu yn Saesneg - nid yw'r sensor yn deall Cymraeg. Maent yn cysgodi mewn hen gwt drafftiog rywle yn Fflandrys ar wely gwellt. Cawsant rai dyddiau o orffwys o'r ffosydd. Mae'n deall bod brawd Kate Roberts drosodd yno yn y rhyfel. Disgrifio'r awch am dderbyn llythyrau. Saesneg/English.
Llythyr oddi wrth J. R. T. [John Richard Williams, 'Tryfanwy'], ym Mhorthmadog,
Rhan oPapurau Kate Roberts
Diolch am dâl am ysgrifennu cân goffa i David, brawd KR. Rhoi llais i hiraeth y teulu oedd ei ddymuniad, nid oedd yn disgwyl tâl. Mae'n amgau amrywiad ar y pennill olaf gan hyderu nad yw hi'n rhy hwyr o safbwynt yr argraffwyr. Mae'n falch o ddeall bod KR yn hapus yn Aberdâr. Cynhwysir englyn i KR ganddo ar gefn y llythyr. Cedwir fersiwn argraffedig o'r gerdd goffa yn Adran y Darluniau a'r Mapiau, cyfrol ffotograffau rhif 600. Cyhoeddwyd llun o'r gerdd ac ymdriniaeth â'r cefndir yn Dafydd Ifans, "Kate Roberts - Bardd?", Barddas 111/112 (Gorffennaf/Awst 1986), tt 17-18.