Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 59622 canlyniad

Disgrifiad archifol
Llyfrgell Genedlaethol Cymru = The National Library of Wales Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

42 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Cerddi'r Parchedig John Roberts, [Llanfwrog]

Tri llyfryn teipysgrif a gyflwynwyd i Emlyn Evans a’i wraig Eileen gan eu cyn-weinidog y Parchedig John Roberts, Caernarfon, gyda'r teitlau ‘Ebyrth gorfoledd’, ‘Ambell gyffro’ yn cynnwys emynau a cherddi ganddo, a ‘Bardd yr Haf’ yn cynnwys cerddi coffa i'r bardd R. Williams Parry.

Cerddoriaeth a barddoniaeth,

Deunydd yn gysylltiedig â gwaith Pwyllgor Cyd-Enwadol Caniadaeth Y Cysegr, 1955-9, gan gynnwys gohebiaeth, cofnodion, etc. Ymhlith y gohebwyr gellir nodi Gwynfor Evans, Llangadog, John Hughes, Dolgellau, Haydn Morris, Llanelli, a Syr David Hughes-Parry. Gohebiaeth, adroddiadau, cofnodion, etc., 1973-7, yn berthnasol i waith Is-Bwyllgor Golygyddol Caniedydd Yr Ifanc (Abertawe, 1980). Cerddoriaeth brintiedig a llawysgrif, gan gynnwys copau printiedig o nifer o weithiau corawl Handel a chopi llawysgrif o 'Pan Oeddwn Fachgen' gan Robert Smith, gwaith a gomisiynwyd ar gyfer Gwyl Môn, 1962. Rhestri, cynllun llwyfan ac eitemau eraill yn gysylltiedig â Chymdeithas Gorawl Llandudno ac â cherddoriaeth yn gyffredinol. Llyfr cerddoriaeth o eiddo 'Mr. Foulk Williams, Blaen Y Rhos, Bethel, Llanddeiniolen'. Barddoniaeth: copau llawysgrif o gerddi o waith gwahanol awduron, gan gynnwys cerddi coffa i R. Williams Parry.

Cerddoriaeth,

Taflennu cerddoriaeth o gyfansoddiadau, trefniadau a gosodiadau gan Gilmor Griffiths. Yn cynnwys sgorau llawysgrif, llungopïau, brasluniau a drafftiau. Nodwyd rhai sylwadau gan Vera Williams yn y maes nodiadau.

Cerddoriaeth,

Unawdau i unrhyw lais gyda chyfeiliant, ar gerdd gan unrhyw fardd Cymraeg cyfoes; anthem S.A.T.B gyda chyfeiliant organ; cylch o ganeuon unsain; emyn-donau; gwaith ar gyfer grŵp siambr a threfniannau o ddwy alaw draddodiadol ar gyfer gwahanol leisiau, un ohonynt ar gyfer T.T.B.B.

Canlyniadau 7321 i 7340 o 59622