- 27
- Ffeil
- [1920]-[1959]
Rhan oPapurau D. T. Davies
2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol
Rhan oPapurau D. T. Davies
Rhan oPapurau Eisteddfod Genedlaethol Cymru: Dramâu, Pasiantau a Sioeau cerdd
Addasiad George Owen o 'A new interest in life' gan Harry Glass.
"Croeso i fyd Lola. Abertawe, Haf 1982". Un o’r ffansyns cyntaf rheolaidd yn y Gymraeg oedd ‘Amser Siocled’ dan olygyddiaeth Geraint Williams, cyn lowr o Ystadgynlais. Bu Geraint Williams yn gysylltiedig a grwpiau fel Crys a Trobwll yn y dyddiau cynnar a fe gyhoeddodd gaset amlgyfrannog o’r enw “Pwy Fydd Yma Mewn Can Mlynedd’ ar ei label ‘Lola’. Mae'r rhifyn yma yn cynnwys darn ar sut i wneud caset, rhestr recordiau Gary Melville, a chyfweliad gyda'r Celfi Cam.
Llyfr nodiadau, [?1891], yn cynnwys rhan o anerchiad gan Sarah Jane Rees (Cranogwen) ar yr Ysgolion Sul Cymreig a'r diffygion ymddangosiadol yn y dulliau dysgu a arferwyd ynddynt. = Notebook, [?1891], containing part of an address by Sarah Jane Rees (Cranogwen), on Welsh Sunday Schools and perceived deficiencies in the teaching methods employed in them.
Mae rhan cyntaf y testun ar gefn y dail yn unig (ff. 1-9), wedi hynny mae wedi ei ysgrifennu ar draws pob agoriad (ff. 9 verso-16 verso); mae'r diwedd, ac o bosib y dechrau, yn eisiau. = The first half of the text is on the rectos only (ff. 1-9), thereafter it is written across each opening (ff. 9 verso-16 verso); the end, and possibly the beginning, is missing.
Cranogwen, 1839-1916
Rhan oPapurau Emlyn Evans
Anerchiadau ac erthyglau amrywiol, gan gynnwys 'Na foed heddwch', cylchgrawn Byw, Mehefin 1964; ‘How books are made’, 1965; ‘Pennod o hunangofiant’, 1976; 'Cofio Huw Derfel', 1990; 'Gall cau capeli'r Carneddi a'r Gerlan brofin ergyd farwol i Ddyffryn Ogwen', llythyr agored at drigolion Bethesda a gyhoeddwyd yn Llais Ogwan, 1993; ‘John Wycliffe a’i amserau’, Y Pentan, 2001; a ‘Tair ffrwd ein hetifeddiaeth’, Y Pentan, 2004.
Anfonebau; a chatalog sêl Tŷ Canol
Papurau, 1978-2001, yn ymwneud â materion ariannol, y rhan fwyaf yn anfonebau. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys mapiau (1979-1980); catalog sêl ar gyfer Tŷ Canol (1891); a thorion o’r wasg (1980-1981).
Nant Gwrtheyrn Welsh Language and Heritage Centre
Anfonebau; cofnodion cyfarfodydd; derbyniadau; a nawdd
Gohebiaeth a phapurau, 1987-1993, yn ymwneud â materion ariannol, gyda rhan fwyaf o’r ffeil yn cynnwys anfonebau (1987-1990); hefyd yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd yr Ymddiriedolwyr (1988-1993), adroddiadau (1989), ariannu prosiect a nawdd (1989-1990), llyfr derbyniadau (1989), a chofnodion oriau gweithio staff (1990).
Anfonebau; Grŵp Aelodau Nant Gwrtheyrn; ac yswiriant
Mae rhan fwyaf o’r ffeil yn cynnwys anfonebau, 1989-1992, a gohebiaeth a phapurau yn ymwneud â GANG (Grŵp Aelodau Nant Gwrtheyrn) (1991-1994); materion ariannol, (1977-1992); ac yswiriant (1990-1992).
Nant Gwrtheyrn Welsh Language and Heritage Centre
Anfonebau; taliadau; a grantiau
Gohebiaeth a phapurau, 1985-1993, yn ymwneud â materion ariannol fel anfonebon, taliadau, a grantiau. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys nifer o ffotograffau o’r Nant a’i staff, a negyddion [?1985]x[?1993].
Sion T. Jobbins yn gwrando ar..., 1988.
Sgôr mewn llawysgrif, heb y geiriau, o gyfansoddiad Gilmor Griffiths. Mae'r trefniant yn addas i 'Dal fi fy nuw, dal fi i'r lan' neu 'Fy nhad o'r nef, o wrando 'nghri'.
Sgôr mewn llawysgrif, brasluniau a llungopïau o wahanol drefniadau 'Anwylyn Mair', geiriau a cherddoriaeth gan Gilmor Griffiths. Lleisiau S.A. gyda chyfeiliant naill ai ar gyfer ffliwt (i & ii) ffidil, clarinét a guitar, neu ffliwt a ffidil, neu'r delyn.
Rhan oDramâu Emyr Edwards,
Rhan oPapurau Eisteddfod Genedlaethol Cymru: Dramâu, Pasiantau a Sioeau cerdd
Sgript comedi fer John O. Evans a gyhoeddwyd yn 'Nghyfres y Llwyfan' yn 1989.
Rhan oPapurau Eisteddfod Genedlaethol Cymru: Dramâu, Pasiantau a Sioeau cerdd
Addasiad Bob Roberts o'r gomedi 'Bedside manner' gan Frank Vickery.
Rhan oCofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Gohebiaeth a phapurau, 1990, yn ymwneud ag unfed Fforwm ar ddeg y Ganolfan, ‘Archaeoleg’, yn cynnwys rhaglen; slipiau ateb; rhestr o fynychwyr; a llythyrau cysylltiedig yn trafod y Fforwm oddi wrth Morfydd E. Owen; R. Geraint Gruffydd; Nancy Edwards; Wendy Davies; Yann-Ber Piriou; David Thorne; John Sharkey; a J. Arnell.
Gohebiaeth yn ymwneud â rhoddion a grantiau 1985-1990; gohebiaeth amrywiol (1985-1987), yn ymwneud ag archebu cyrsiau; a gohebiaeth yn trafod datblygu’r Canolfan Ewropeaidd yr Ieithoedd Llai eu Defnydd (1988-1990).
Gohebiaeth a phapurau yn ymwneud â materion amrywiol datblygu safle ac adeiladau Nant Gwrtheyrn, yn cynnwys archebion llety ([?1990]x[?1995]); holiaduron (1994); materion ariannol (1993-1994); Grŵp Aelodau Nant Gwrtheyrn (GANG) (1992); Y Comisiwn Elusennau (1993-1994); Pwyllgor Gwaith Ewrosgol (1990); werthiant Plas Pistyll (1993); Cofrestrau Cyfamodi (1988); Cynllun Adfer Tir (1991); cynlluniau adeilad (1981); Coed Cymru (1993); eiddo a dodrefn (1992-1993); arwyddion (1992); iechyd a diogelwch (1991); ac agoriad Caffi Meinir (1991-1993). Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys X2 print lliw o’r Nant, ([?1990]-[?1995]), a nifer o dorion o’r wasg (1972; 1976; 1993-1994).
Rhan oArchif Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Morgannwg Gwent
Mae’r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1994-1999, rhwng Cymdeithas yr Iaith a nifer o archfarchnadoedd yng Nghymru yn trafod gweithredu polisi iaith Gymraeg. Mae’r ffeil hefyd yn cynnwys datganiadau i’r wasg (1996-1997); a nifer fach o dorion o’r wasg.
Argraffiad arbennig ‘Detholion o Waith Lewys Glyn Cothi’ a teyrnged i E.D. Jones
Rhan oCofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Rhestr o gyfraniadau ariannol i argraffiad arbennig arfaethedig o lyfr E.D. Jones ‘Detholion o Waith Lewys Glyn Cothi’, [1984]; copïau o dorion o’r wasg, a chopi o gylchlythyr ‘Yr Angor’, 1987, yn cofio E.D. Jones, cyn-lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol Cymru; a gohebiaeth gysylltiedig yn trafod yr argraffiad arbennig, 1983-1984, yn cynnwys llythyrau oddi wrth Olwen Daniel; B.G. Owens; J. E. Caerwyn Williams; Richard Owen; David Jenkins; Mary Llewelfryn Davies; Andrew Hawke; Siân Teifi a Martin Davies; Ceridwen Lloyd-Morgan; Rheinallt Llwyd; Mary Burdett-Jones; Telfryn Pritchard; Mati Rees; Walford Davies; D. Phillips; ac R. Geraint Gruffydd.