- 2019/1/1
- Ffeil
- 2001-2008
Cofnodion cyfarfodydd a phapurau cysylltiol Pwyllgor Rheoli Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf.
2 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol
Cofnodion cyfarfodydd a phapurau cysylltiol Pwyllgor Rheoli Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf.
Cofnodion cyfarfodydd a phapurau cysylltiol Pwyllgor Rheoli Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf., 2008-2011, ynghyd â chofnodion Cyfarfodydd Cyffredinol a phapurau cysylltiol, 2003-2010.
Cofio (cyfieithiad i'r Saesneg)
Rhan oPapurau Waldo Williams
Cyfieithiad i'r Saesneg gan William Fillery o Goleg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan o'r gerdd 'Cofio' gan Waldo Williams a ymddangosodd mewn rhifyn o'r cylchgrawn Awen, 1966.
Llawysgrif o'r alaw 'Coediog' gan Gilmor Griffiths ar gyfer S.A.T.B. ond heb eiriau.
Rhan oPapurau Waldo Williams
Llungopi o goeden deulu teulu Llewellyn, sy'n cynnwys Linda Llewellyn (yn ddiweddarach Williams), gwraig Waldo Williams. Lluniwyd y goeden deulu gan R. G. Thorne, Ionawr 1980 (gweler nodyn ar frig y ddalen).
Copïau o garol gan Gilmor Griffiths, 'Clywch newyddion da', geiriau gan Dorothy Jones.
Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Gwyn ap Nudd' gan Elfed, i'r gainc 'Cloch Llanerfyl' gan Dwynwen Jones.
Rhan oPapurau Eisteddfod Genedlaethol Cymru: Dramâu, Pasiantau a Sioeau cerdd
Llungopi o'r ddrama a berfformiwyd gyntaf yng Ngŵyl Ddrama Dolgellau 1986. [Cyhoeddwyd yn 1989].
Gosodiad gan Gilmor Griffiths o eiriau 'Carol Nadolig' gan W. Rhys Nicholas, i'r alaw 'Cilmeri' gan Nan James.
Y Curiadanddistrywiol o’r Rhyl, rhif 6. [1986]. Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Rhanbarth Clwyd.
Christmas can be everyday for you,
Trefniant Gilmor Griffiths o'r garol 'Christmas can be every day for you' gan Captain Joy Webb.
Gohebaieth a phapurau, yn ymwneud â Chomisiwn y Gweithly (1987), Cymraeg Yn Y Gweithle (1990), Bwrdd yr Iaith Gymraeg (1995), a chyrsiau (1992-1993); cofnodion cyfarfodydd yr Ymddiriedolwyr (1984-1986); papurau trafod (1987-1988); apêl ariannol (1983); digwyddiadau (1986-1988); a datblygu Plas Pistyll (1989-1991).
Cerdyn post penblwydd oddi wrth Mary [Williams]
Rhan oPapurau Waldo Williams
Cerdyn post di-ddyddiad yn cynnwys cyfarchion penblwydd at dderbynnydd anhysbys oddi wrth Mary [Williams].
Cerdyn post oddi wrth Mary [Francis, née Williams] at Elsie Lewis
Rhan oPapurau Waldo Williams
Cerdyn post, marc post dyddiedig 9 Medi 1969, at Elsie Lewis, Llanwnda, Wdig oddi wrth Mary [Francis, née Williams], chwaer Waldo Williams.
Cerdyn post oddi wrth Dilys Williams at Aled a Siwan Richards
Rhan oPapurau Waldo Williams
Cerdyn post, marc post 18 Awst 1974, a anfonwyd at Aled a Siwan Richards, Glasfryn, Wdig, Sir Benfro oddi wrth Dilys Williams a Benni ac Elsie [Lewis]. Gan mai cartref Benni ac Elsie Lewis oedd Glasfryn, tybir mai gofalu am y tŷ oedd Aled a Siwan Richards.
Cerdyn post at Waldo Williams oddi wrth Mary [Williams (yn ddiweddarach Francis)]
Rhan oPapurau Waldo Williams
Cerdyn post, marc post 4 Medi 1920, a anfonwyd at Waldo Williams gan [ei chwaer] Mary [Williams (yn ddiweddarach Francis)], yn llongyfarch Waldo, yn ôl pob tebyg am ennill Gwobr James yng nghyfarfod gwobrwyo Ysgol Ramadeg Arberth, lle bu'n ddisgybl o 1917 hyd 1922 (gweler Diwrnod gwobrwyo Ysgol Sir Arberth dan bennawd Deunydd yn ymwneud â Waldo Williams).
Cerdyn post at John Edwal Williams oddi wrth William Price Jones
Rhan oPapurau Waldo Williams
Cerdyn post, marc post [?1]9 Rhagfyr 1915, yn dwyn cyfarchion Nadolig at John Edwal Williams oddi wrth William Price Jones, brawd ei wraig Angharad Williams (née Jones).
Cerdyn post at John Edwal Williams oddi wrth [Wilhelmina (Minnie) Edmunds]
Rhan oPapurau Waldo Williams
Cerdyn post, marc post 19 Mai 1911, at John Edwal Williams oddi wrth, o bosib, Wilhelmina (Minnie) Edmunds (née Jones), chwaer ei wraig Angharad Williams (née Jones) (llofnod ar y cerdyn yn aneglur).
Cerdyn post at John Edwal Williams oddi wrth C. Enid Irma Roome
Rhan oPapurau Waldo Williams
Cerdyn post, marc post 8 [Mehefin neu Gorffennaf] 1925, a anfonwyd at John Edwal Williams gan C. Enid Irma Roome, chwaer George William Roome, cyd-fyfyriwr i John Edwal yn y Coleg Normal, Bangor. Ceir nodyn [?yn llaw Dilys Williams] ar frig y cerdyn.