Print preview Close

Showing 1388 results

Archival description
File Welsh
Advanced search options
Print preview View:

2 results with digital objects Show results with digital objects

Wales is my homeland,

Trefniant o'r alaw 'Wales is my Homeland', ar gyfer Gwledda Canoloesol, yng Nghastell Rhuthun. Llungopi o sgôr gyda geiriau, lawysgrif a llungopi o gopi sol-ffa.

Wales is my homeland (Cymru fynyddig),

Sgôr mewn llawysgrifau a brasluniau o'r gân 'Wales is my homeland' gan Gilmor Griffiths. Trefniant ar gyfer T.T.B.B., hen nodiant gyda geiriau, tonig sol-ffa, a theipysgrif. Geiriau Saesneg gan Gilmor Griffiths a geiriau Cymraeg gan Dennis Derbyshire.

Waldo's Witness

Rhaglen brintiedig ar gyfer y ddrama Waldo's Witness gan y bardd a'r llenor Nigel Jenkins a lwyfanwyd gan Gwmni Theatr Coracle.

Waldo - Y Crynwr: cyfarfod o ddiolch

Cylchlythyr i hysbysu am gyfarfod o'r Crynwyr er mwyn diolch am fywyd Waldo Williams. Ni nodir y lleoliad, ond yn nhŷ cwrdd Aberdaugleddau y bu Waldo'n cyfarfod fel aelod o'r Crynwyr.

Under Milk Wood

Papurau’n ymwneud â’r Llareggub Players y bu Gwynne D. Evans yn gynhyrchydd arnynt. Ceir poster a rhaglenni, ynghyd â chopi cynnar o drosiad T. James Jones sef Dan y Wenallt, [1967].

Uchel Comisiwn

Gohebiaeth amrywiol a phapurau eraill, yn bennaf gydag Uchel Gomisiwn Teyrnas Lesotho, Llundain.

Tystysgrifau,

Tystysgrif geni byr, 1917; Decree Nisi Absolute (ysgaru), 1975; priodas i Vera Williams, 1975; marwolaeth, 1985.

Tystysgrifau enillwyd gan John Edwal Williams

Tystysgrifau enillwyd gan John Edwal Williams yn ystod ei yrfa addysgiadol; yn ogystal ag amlen wag wedi'i chyfeirio at 'Mr J. Edwal Williams 8 Darley St[reet] Winter St[reet] Sheffield'. Ar ddechrau ei yrfa, bu John Edwal yn dysgu yn Ysgol Fwrdd Firs Hill, Sheffield (gweler Tystlythyrau John Edwal Williams dan bennawd John Edwal Williams).

Arysgrif yn llaw Dilys Williams, merch John Edwal Williams, ar amlen wedi'i chyfeirio at John Edwal Williams yn '12 Park Street, Upper Bangor': 'RHIFYN OLAF Y DEYRNAS TYSTYSGRIFAU DAD (J.E.W.)'. Am rifyn olaf Y Deyrnas, gweler The Welsh Outlook / Y Geninen / Y Deyrnas dan bennawd John Edwal Williams.

Tystysgrifau addysg

Tystysgrifau addysg Alun Eirug Davies, 1947, 1950, Ysgol Sir Tregaron, a thystysgrif am radd BA, [1954], ac MA yn 1968, Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Tystlythyrau John Edwal Williams

Tystlythyrau John Edwal Williams wrth iddo ymgeisio am swyddi wedi iddo raddio o'r Coleg Normal, Bangor, gan gynnwys tystlythyron oddi wrth John Price, prifathro'r Coleg Normal, ac oddi wrth J. Cocker, prifathro Ysgol Maenclochog, lle cwblhaodd John Edwal dymor prentisiaeth fel athro; ynghyd â curriculum vitae (anghyflawn) John Edwal [yn ei law ei hun].

Tystlythyrau

Llythyrau, 1964-1972, a dderbyniodd pan oedd yn ymgeisio am swyddi yn y byd addysg ac yn cefnogi'i gais.

Tŷ Ddewi

Llyfr nodiadau yn cynnwys copi teg o'r awdl Tŷ Ddewi gan ac yn llaw Waldo Williams. Cyfansoddwyd yr awdl ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936, ond bu'r cynnig yn aflwyddiannus.

Trafodaeth gan Jâms (James) Nicholas o'r awdl Tŷ Ddewi yn rhifyn 12 Hydref 1957 o bapur newydd Y Seren.

Twristiaeth, gwaith a datblygu

Papurau, 1981-1988, gan gynnwys gohebiaeth, polisïau twristiaeth y mudiad a llythyr oddi wrth R. S. Thomas a phapurau'n ymwneud â phynciau fel Marina'r Penrhyn, Gwersyll Glyn Rhonwy a Chanolfan Wyliau yn Llanllechid.

Two Grandfathers

Ysgrif deipysgrif anghyflawn yn dwyn y teitl 'Two Grandfathers' gan, yn ôl pob tebyg, Jean Hunt (gynt Ware, ganed Jones) (gweler Coeden deulu Syr Henry Jones dan bennawd Angharad Williams (née Jones)). 'Roedd Jean Hunt yn wyres i'r athronydd Syr Henry Jones, ewyrth Angharad, ac i'r microsgopydd a'r bacteriolegwr Dr Griffith Evans, tad ei mam, Mair Olwen Jones (née Evans).

Tua'r Gogledd

Cerdd, yn ôl pob golwg gan Waldo Williams, mewn teipysgrif yn dwyn y teitl Tua'r Gogledd. Yn ôl nodyn ynghlwm wrth y gerdd, fe'i chyhoeddwyd yn rhifyn Awst 1950 o'r cyfnodolyn Taliesin.

Results 101 to 120 of 1388