Dylai Rhagymadrodd R. Williams Parry i Beirdd Meirion [cyhoeddwyd gan Adran Meirion o Undeb Cenedlaethol Yr Athrawon, 1932] fod mewn casgliad o'i ysgrifau a gyhoeddir.
Nodi'r gwahaniaeth rhwng englyn coffa R. Williams Parry i'r 'Tri Physgotwr o Roshirwaun' fel y'i ceir ar eu carreg fedd ac fel y mae yn y gyfrol Cerddi'r Gaeaf [t. 96].
Yng nghyfarfod coffa Syr Ifor Williams siaradai R. T. Jenkins gymaint am R. Williams Parry ag am Ifor Williams. [Ar y cefn ceir cerdd o waith John Roberts, 'Lliwiau (Nadolig 1965)'].
Danfon copi o lythyr a dderbyniasai gan R. Williams Parry, 2 Ebrill 1946, yn sôn am gerddi John Roberts ymhlith pethau eraill [rhif 535b]. Dyfynnir y gerdd 'Glan Dwyfach (ac R. Williams Parry)' o waith y diweddar William Jones.
Y Parch. John Fisher ac Isaac Foulkes ('Llyfrbryf') ar y 'Rhestr gyda nodiadau byrion, o Enwogion Cymreig yn ystod 1700-1900' [rhif 1 yn y Rhestr Testunau - Rhyddiaith].
Y Parch. James Ednyfed Rees ('Ap Nathan') ar yr adroddiad i fechgyn o 10 i 12 oed (mewn teipysgrif) ynghyd â beirniadaeth J. H. Jones ar y rhagbrofion. Dyfarnwyd y wobr i 'Endaf' (Endaf Rees, Garnant) a'r ail wobr i 'Ivor John' (I. J. Thomas, Glanaman) [rhif 56 yn y Rhestr Testunau].
Y Parch. J. T. Jôb, Yr Athro T. Gwynn Jones a J. J. Williams ar yr awdl 'Ogof Arthur'. Enillwyd y gadair gan y Parch. William Morris, Conwy [rhif 7 yn y Rhestr Testunau].
Y Parch. J. Seymour Rees ('Myfyr Hefin') ac R. Gwylfa Roberts ('Gwylfa') ar y 'Dwsin o ddadleuon at wasanaeth yr Ysgol Sul'. Rhannwyd y wobr rhwng 'Tan-y-bryn' (y Parch. T. Davies, Llandysul) a 'Sarnau Gwynion' (y Parch. W. D. Roderick, Ystalyfera) [rhif 62 yn y Rhestr Testunau]. Printiedig.