Dangos 4 canlyniad

Disgrifiad archifol
Cymraeg
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Un Nos Ola Leuad,

Papurau, [1966]-1991, yn ymwneud ag addasiad teledu Gwenlyn Parry ac Endaf Emlyn o nofel Caradog Prichard, Un Nos Ola Leuad, yn cynnwys sgript radio llawysgrif Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard, [1966x1980]; copi o rai o bryddestau Caradog Prichard, [1989]; awgrymiadau gan Endaf Emlyn a Gwenlyn Parry ar gyfer yr addasiad, 1989; drafftiau, [1989]-1990; copi o'r drafft terfynol, 1990; amserlen ffilmio, 1990; a deunydd cyhoeddusrwydd, 1991.

Emlyn, Endaf, 1944-

Y Ferch Dawel,

Papurau'n ymwneud ag addasiad teledu o nofel Marion Eames, Y Ferch Dawel, 1996, gan gynnwys drafftiau o'r sgript, amserlen ffilmio, sgript is-deitlau a nodiadau ar y prif gymeriadau. = Papers relating to the television adaptation of the novel, Y Ferch Dawel, 1996, by Marion Eames, including various drafts, a filming schedule, a subtitle script, and descriptions of the main characters.

Y Stafell Ddirgel,

Papurau'n ymwneud ag addasiad teledu Manon Eames o nofel wreiddiol Marion Eames, Y Stafell Ddirgel, gan gynnwys sgriptiau penodau 1-6, rhestrau o fewnosodiadau a newidiadau i'r sgript, amserlen ffilmio a datganiad i'r wasg gan S4C yn lawnsio'r ddrama. = Papers relating to the television adaptation by Manon Eames of Marion Eames's original novel, Y Stafell Ddirgel, including scripts of episodes 1-6, lists of additions and changes to the script, a filming schedule and a press statement by S4C launching the drama.