Showing 5 results

Archival description
Papurau David Bowen a Ben Bowen,
Print preview View:

Papurau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys tysteb, a gasglwyd gan E. K. Jones, i hyrwyddo taith Ben Bowen i Dde Affrica; papurau'n ymwneud â'i siwrne a'i arhosiad yn Kimberley, 1902, a cherdyn angladdol Ben Bowen, 20 Awst 1903; ynghyd â cherddi teyrnged iddo, 1903-38, yn cynnwys un yn llaw Dyfnallt.

Jones, E. K. (Evan Kenffig), 1863-1950

Barddoniaeth

Mae'r grŵp yn cynnwys llyfrau nodiadau a drafftiau o farddoniaeth Ben Bowen yn ei lawysgrif ei hun. Maent yn cynnwys deunydd ar gyfer eisteddfodau, er enghraifft 'Pantycelyn', 'Ymadawiad Arthur' a 'Goleuni'r Byd', a cherddi eraill. Cyhoeddwyd rhai o'r cerddi yma yn David Bowen (gol.) Cofiant a Barddoniaeth Ben Bowen, Treorci, 1904.

Llenyddiaeth Myfyr Hefin

Mae'r ffeil yn cynnwys dwy gyfrol o farddoniaeth a dwy gyfrol o farddoniaeth a rhyddiaith a ysgrifennodd David Bowen i 'Lith y Golygydd' y Llanelly Mercury a Seren Cymru yn bennaf.