Dangos 4 canlyniad

Disgrifiad archifol
Elfyn, Menna
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Places / Y Man a'r Lle

Gohebiaeth, teipysgrifau a phapurau eraill, 1994-1998, Ned Thomas, fel Cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru, mewn perthynas â Places / Y Man a'r Lle, cyfres o ddeuddeg cyfrol fer (chwech yn Gymraeg a chwech yn Saesneg) a gyhoeddwyd gan Wasg Gregynog. = Correspondence, typescripts and other papers, 1994-1998, of Ned Thomas, as Director of the University of Wales Press, relating to Places / Y Man a'r Lle, a series of twelve short volumes (six in Welsh and six in English) published by Gregynog Press.
Ceir gohebiaeth gydag un ar ddeg o'r deuddeg awdur, Ruth Bidgood, Gillian Clarke, Menna Elfyn, Christine Evans, Nigel Jenkins, Robin Llywelyn, Christopher Meredith, Twm Morys, Myrddin ap Dafydd, Ioan Bowen Rees a Wiliam Owen Roberts, yn ogystal â David Esslemont o Wasg Gregynog. Ceir hefyd ddrafftiau o ysgrifau'r awduron yma, heblaw am Christine Evans and Twm Morys; nid yw'r awdur arall, John Barnie, wedi ei gynrhychioli yn y ffeil. = The correspondents include eleven of the twelve contributors, Ruth Bidgood, Gillian Clarke, Menna Elfyn, Christine Evans, Nigel Jenkins, Robin Llywelyn, Christopher Meredith, Twm Morys, Myrddin ap Dafydd, Ioan Bowen Rees and Wiliam Owen Roberts, as well as David Esslemont of Gregynog Press. Drafts of of each author's contributions are included, with the exception of Christine Evans and Twm Morys; the remaining contributor, John Barnie, is not represented in the file.

Bidgood, Ruth

Poem: Shoes

Printed illustrated poster of a poem entitled Shoes, translated by Nigel Jenkins from the original Welsh of Menna Elfyn.

Jenkins, Nigel, 1949-2014

Letters to Nigel Jenkins from Menna Elfyn

Letters and cards, 1990, 1992, 1995 + n.d. to Nigel Jenkins from poet, playwright and writer Menna Elfyn; together with photocopied review of Eucalyptus: Detholiad o Gerddi 1978-1994 by Menna Elfyn and biographical data relating to Menna Elfyn.

Elfyn, Menna

Papurau Menna Elfyn

  • GB 0210 MENFYN
  • Fonds
  • 1937-2022

Papurau Dr Menna Elfyn, 1950-2017, sy'n adlewyrchu ei bywyd a'i gwaith llenyddol a gwleidyddol, gan gynnwys deunydd yn ymwneud â'r meysydd canlynol: barddoniaeth, rhyddiaith, dramâu ar gyfer y llwyfan a'r cyfryngau a phrosiectau cerddorol a chelfyddydol ar y cyd, ynghyd â chyfieithiadau o'i gwaith barddonol i amryw ieithoedd; ei mynych deithiau i ŵyliau barddonol, seminarau a darlleniadau ac i gynnal gweithdai; gyrfa academaidd Menna Elfyn, gan gynnwys ei chyfnodau fel awdur preswyl; anrhydeddau a gwobrau a ddaeth i'w rhan yn ystod ei gyrfa; cyfnodau ymgyrchu a charcharu Menna Elfyn a'i gŵr Wynfford James fel aelodau o Gymdeithas yr Iaith, ac ymgyrchoedd dros heddwch, cyfiawnder a hawliau merched; yn ogystal ag ystod sylweddol o ohebiaeth, yn bennaf gyda beirdd a llenorion eraill.

Daeth ychwanegiad i law ym mis Mai 2023, a atodwyd i'r archif fel cyfres 'Y' (Deunydd ychwanegol Mai 2023), fel a ganlyn:
Papurau o eiddo neu sydd a wnelo â'r bardd, dramodydd, colofnydd a golygydd Dr Menna Elfyn, sy'n cynnwys barddoniaeth, rhyddiaith a gweithiau llwyfan a chyfryngol (drafftiau llawysgrif, teipysgrifau a deunydd argraffiedig) gan Menna Elfyn, deunydd yn ymwneud â chysiau academaidd a gweithdai a diwtorwyd gan neu a gyd-gyfarwyddwyd gan Menna Elfyn, llyfrau nodiadau a gohebiaeth; ynghyd ag erthyglau, adolygiadau a datganiadau i'r wasg gan awduron eraill sy'n ymwneud a bywyd a gwaith Menna Elfyn a rhai papurau'r Parchedig T. (Thomas) Elfyn Jones, tad Menna Elfyn.

Elfyn, Menna