Showing 2 results

Archival description
Only top-level descriptions Evans, Meredydd English
Print preview View:

Nodiadau ymchwil Dr Meredydd Evans ar bapurau Dr J. Lloyd Williams

  • NLW Facs 973
  • File
  • [1980x2000]

Llungopïau o nodiadau ymchwil y Dr Meredydd Evans ar bapurau'r Dr J. Lloyd Williams (1854-1945), botanegydd a cherddor. Seiliwyd y nodiadau ar eitemau 1-145 yn y rhestr a baratowyd, [1949], o'r llawysgrifau a phapurau a dderbyniwyd gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn fuan ar ôl marw J. Lloyd Williams yn 1945. Disodlwyd y rhestr hon bellach gan Dr J. Lloyd Williams Music MSS and Papers, 2004, sydd yn cynnwys y papurau a dderbyniwyd yn 1945/6 a hefyd ychwanegiadau diweddarach.

Evans, Meredydd

Papurau Meredydd Evans a Phyllis Kinney

  • GB 0210 MERLIS
  • Fonds
  • [1940x2015]

Mae’r archif yn cynnwys papurau ymchwil cerddorol, yn bennaf yn ymwneud â chanu gwerin; sgriptiau radio a theledu; cyfieithiadau a chyfansoddiadau cerddorol (trosglwyddwyd tapiau gweledol a sain i AGSSC); llythyrau at Meredydd Evans a Phyllis Kinney, a chopïau o lythyrau oddi wrthynt, 1956-2015; a phapurau’n ymwneud â diddordebau Meredydd Evans ym meysydd athroniaeth a llenyddiaeth Gymraeg, ynghyd â dogfennau’n ymwneud â’i ran mewn ymgyrchoedd tros yr iaith Gymraeg, yn arbennig felly ym maes darlledu.

Evans, Meredydd