Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 3 canlyniad

Disgrifiad archifol
Williams, D. J. (David John), 1885-1970 Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

Papurau D. J. Williams, Abergwaun

  • GB 0210 DJWILL
  • Fonds
  • 1810-1969 (gyda bylchau) (crynhowyd 1908-1969)

Papurau personol, cyhoeddus a llenyddol D. J. Williams, Abergwaun, 1810-1969, gan gynnwys nifer helaeth o lythyrau teuluol a llythyrau oddi wrth gyfeillion a chyd lenorion; dyddiaduron; a llyfrau coleg. Ceir papurau'n ymwneud â'i ran yn Llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth yn 1936 ac fel aelod allweddol o Blaid Cymru, ynghyd â phapurau ei wraig Siân Wiliams. Ymhlith y rhain ceir llythyrau oddi wrth aelodau o'i theulu, llythyrau a dderbyniodd tra roedd ei gŵr yn y carchar a dyddiaduron. Yn ogystal ceir papurau a grynhowyd ganddo.

Williams, D. J. (David John), 1885-1970

Llythyrau W

Mae'r ffeil hon yn cynnwys llythyrau oddi wrth D. J. Williams (Abergwaun) (7), G. J. Williams (8), John Roberts Williams (1), T. H. Parry-Williams (2), T. Hudson-Williams (4) a William Nantlais Williams (1) ymysg eraill.

Williams, D. J. (David John), 1885-1970

Dyddiaduron

Dyddiaduron, 1923-1966, gan gynnwys un yn cofnodi ei daith i Lydaw yng nghwmni Ambrose Bebb yn [1924], a 'Dyddiadur dyn anonest', 1941-1951. Trafodir y Blaid, ei waith llenyddol, ei weithgareddau cyhoeddus, ei iechyd, a'i ymwelwyr ac maent yn tueddu i fod yn llawnach yn ystod degawd olaf ei fywyd. Defnyddiodd y dyddiaduron i gofnodi cyfeiriadau yn fynych iawn.

Williams, D. J. (David John), 1885-1970