Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 5 canlyniad

Disgrifiad archifol
Williams, Waldo, 1904-1971 ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

The Old Farmhouse

Llawysgrif cyfieithiad Waldo Williams o Hen Dŷ Ffarm (Aberystwyth, 1953) a gomisiynwyd gan UNESCO; proflenni tudalen wedi'u cywiro a nodiadau i'r teipydd; gohebiaeth, 1960-1961, yn ymwneud â chyhoeddi The old farmhouse yn 1960, gan gynnwys llythyrau oddi wrth y cyhoeddwyr George G. Harrap, Llundain, a breindaliadau am y chwech mis cyntaf, 1962; llythyrau oddi wrth Gwasg Gomer, 1960-1961; llythyrau oddi wrth Syr Ben [Bowen Thomas], 1960; ynghyd ag adolygiadau o'r gyfrol, 1962.

Williams, Waldo, 1904-1971

Barddoniaeth Waldo Williams

'Cywydd Waldo i'r Bwm Beili' (pan ddaeth i'w dŷ i gyrchu ei eiddo yn Haf 1955); llyfr nodiadau'n cynnwys drafft o awdl 'Tŷ Ddewi' gan Waldo Williams y dyfarnwyd iddi'r ail wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun 1936; ynghyd â'r [cywydd mawl a ysgrifennodd i D. J. Williams adeg ei anrhegu yn Ysgol Haf Plaid Cymru, Abergwaun, Awst 1964] yn ei law.

Williams, Waldo, 1904-1971

Llythyrau Waldo Williams,

  • NLW MS 23896D.
  • ffeil
  • 1943-1998 /

Saith llythyr a dau gerdyn, 1943-1968, oddi wrth Waldo Williams at Anna Wyn Jones (née Richards), Mynachlog Nedd, ei gyd-athro yn Ysgol Botwnnog, 1942-1944 (ff. 1-38). = Seven letters and two cards, 1943-1968, in Welsh, from Waldo Williams to Anna Wyn Jones (née Richards), Neath Abbey, his colleague at Botwnnog School, 1942-1944 (ff. 1-38).
Cyhoeddwyd dau o'r llythyrau (ff. 11-16, 20-24) yn Waldo Williams: Rhyddiaith, gol. gan Damian Walford Davies (Caerdydd, 2001), tt. 101-104. Cynhwysir hefyd lythyr, 29 Mehefin 1972, oddi wrth James Nicholas at Anna Wyn Jones (ff. 39-41); nodiadau ganddi, [1971]-[1980au], rhai ohonynt ar gyfer ei herthygl 'Waldo', yn Waldo: Cyfrol Deyrnged i Waldo Williams, gol. gan James Nicholas (Llandysul, 1977), tt. 37-49 (ff. 42-64); ac effemera yn ymwneud â Waldo Williams, 1978-1998 (ff. 65-74). Ceir cerddi gan Williams ar ff. 1, 6-7, 29 verso, 42-44. = Two of the letters (ff. 11-16, 20-24) are published in Waldo Williams: Rhyddiaith, ed. by Damian Walford Davies (Cardiff, 2001), pp. 101-104. Also included is a letter, 29 June 1972, from James Nicholas to Anna Wyn Jones (ff. 39-41); notes compiled by her, [1971]-[1980s], some in preparation for her article 'Waldo', in Waldo: Cyfrol Deyrnged i Waldo Williams, ed. by James Nicholas (Llandysul, 1977), pp. 37-49 (ff. 42-64); and ephemera relating to Waldo Williams, 1978-1998 (ff. 65-74). Poems by Williams are on ff. 1, 6-7, 29 verso, 42-44.

Williams, Waldo, 1904-1971

Cerdd gan Waldo Williams,

  • NLW MS 23897B.
  • ffeil
  • 1955-1956.

Copi o E. Llwyd Williams a Waldo Williams, Cerddi'r Plant, 2il arg. (Aberystwyth, 1955), yn cynnwys cerdd ddi-deitl, 6 Mai 1956, gan Waldo Williams, yn llaw yr awdur, wedi ei gyflwyno i Enid Jones (t. 2). Cyhoeddwyd a thrafodwyd y gerdd yn erthygl ei mam Anna Wyn Jones, 'Waldo', yn Waldo: Cyfrol Deyrnged i Waldo Williams, gol. gan James Nicholas (Llandysul, 1977), tt. 37-49 (t. 45). = A copy of E. Llwyd Williams and Waldo Williams, Cerddi'r Plant, 2nd edn (Aberystwyth, 1955), containing an untitled autograph poem, 6 May 1956, by Waldo Williams, dedicated to Enid Jones (p. 2). The poem is published and discussed in her mother Anna Wyn Jones's article 'Waldo', in Waldo: Cyfrol Deyrnged i Waldo Williams, ed. by James Nicholas (Llandysul, 1977), pp. 37-49 (p. 45).

Williams, Waldo, 1904-1971

'Dail pren' : y cysodiad cyntaf,

Llythyrau, [1956]-[1965], oddi wrth Waldo Williams, [J. E.] Caerwyn [Williams], 1956-1991, llythyr oddi wrth Damian Walford Davies, 1998, a thorion o'r wasg, yn ymwneud â'i erthygl ar Waldo Williams a gyhoeddwyd yn Taliesin, 1998, ynghyd â chopi teipysgrif o'r erthygl.

Davies, Ceri.