Showing 18 results

Archival description
Papurau'r Parchedig D. S. Owen = Reverend D. S. Owen Papers
Print preview View:

Canmlwyddiant Cymanfa'r Pasg

Llyfryn printiedig yn dwyn y teitl 'Canmlwyddiant Cymanfa'r Pasc: Methodistiaid Calfinaidd Llundain, 1912' gan y Parchedig John Evan Davies ('Rhuddwawr'), a fu'n weinidog ar Gapel Jewin o 1886 hyd 1911. Fe'n hysbysir gan Nerys Owen, rhoddwraig y casgliad, mai arnodiadau pensil ei thad, Percy E. Owen (1915-1995) (mab D. S. Owen), a geir o fewn y gyfrol. = Printed booklet titled 'Canmlwyddiant Cymanfa'r Pasc: Methodistiaid Calfinaidd Llundain, 1912' by the Reverend John Evan Davies (bardic name 'Rhuddwawr'), minister of Jewin Chapel from 1886 to 1911. Nerys Owen, donor of the collection, has noted that the pencil annotations within the volume are those of her father, Percy E. Owen (1915-1995), son of D. S. Owen.

Coeden deuluol D. S. Owen = D. S. Owen family tree

Coeden deuluol wedi'i llunio yn llaw Nerys Owen, wyres D. S. Owen, yn cynnwys enwau D. S. Owen a'i wraig Grace Maude (Gracy) (ganed Jones), eu plant a'u gwŷr/gwragedd, a phlant Eluned, merch D.S. a Gracy Owen. Cylchynir enw Nerys Owen, un o blant Eluned. = Family tree drawn by Nerys Owen, granddaughter of D. S. Owen, comprising the names of D. S. Owen and his wife Grace Maude (Gracy) (née Jones), their children and children's spouses, and the children of Eluned, daughter of D. S. and Gracy Owen. The name of Nerys Owen, one of Eluned's children, is circled.

Cyfrol oliwiedig cyflwynedig i D. S. Owen = Illuminated volume presented to D. S. Owen

Cyfrol oliwiedig goeth yn cynnwys Annerchiad i'r Parchedig D. S. Owen gan flaenoriaid Capel Jewin mewn teyrnged i'r deugain mlynedd o wasanaeth a roddodd i'r achos. Cynhwysir ffotograffau o D. S. Owen ac o flaenoriaid y capel yn ystod gweinidogaeth Owen, ynghyd â llofnodion swyddogion y capel ac o'r blaenoriaid oedd yn gwasanaethu pan gwblhawyd y gyfrol = A richly-illuminated volume containing an Address to the Reverend D. S. Owen from the elders of Jewin Chapel in tribute to his forty years of service to its cause. The volume includes photographs of D. S. Owen and of elders who served the chapel during Owen's ministry, together with the signatures of chapel officials and of elders serving at the time the volume was completed.

Cyngherddau blynyddol Neuadd Kingsway / Kingsway Hall annual concerts

Deunydd yn ymwneud â Chyngerdd Blynyddol gan aelodau Capel Jewin a gynhaliwyd yn Neuadd Kingsway, Llundain, gan gynnwys mantolen a rhestr o danysgrifwyr ar gyfer cyngerdd 1926 a thaflenni'n hysbysebu cyngherddau 1930 a 1931; ynghyd â thaflen yn hysbysebu Gwasanaeth o Fawl i'w gynnal yng Nghapel Jewin ym mis Mawrth 1933. = Material relating to the Annual Concert held by members of Jewin Chapel at the Kingsway Hall, London, comprising balance sheet and list of subscribers for the 1926 concert and flyers advertising the 1930 and 1931 concerts; together with flyer advertising a Service of Worship to be held in Jewin Chapel, March 1933.

Dathliad Agor Capel Newydd Eglwys Jewin

Cyfrol printiedig yn dwyn y teitl 'Dathliad Agor Capel Newydd Eglwys Jewin 1774-1961', yn cynnwys trefn y gwasanaeth i ddathlu ail-agor Capel Jewin yn dilyn dinistriad yr adeilad yn ystod Blitz yr Ail Ryfel Byd ym 1940. Fel y nodir yn rhagarweiniad y gyfrol, serch ei ymroddiad maith a di-flino i'r gwaith o adnewyddu ac ail-godi'r capel, ni fu D. S. Owen fyw i weld ffrwyth ei lafur. = Printed volume titled 'Dathliad Agor Capel Newydd Eglwys Jewin 1774-1961', comprising the order of service to celebrate the reopening of Jewin Chapel following its destruction during the Second World War Blitz of 1940. As noted in the volume's introduction, despite his long and tireless dedication to the restoration work, D. S. Owen did not live to see the results of his labours.

Dathlu Deucanmlwyddiant y Diwygiad Methodistaidd

Llyfryn printiedig yn dwyn y teitl 'Dathlu Deucanmlwyddiant y Diwygiad Methodistaidd 1735 - 1935', yn cynnwys gwybodaeth bywgraffyddol am brif ffigyrau'r diwygiad Methodistaidd yng Nghymru yn ystod hanner cyntaf y ddeunawfed ganrif, ynghyd â threfn y gwasanaethau i ddathlu'r ddeucanmlwyddiant yng Nghapel Jewin ac yng Nghapel Tabernacl Whitefield, Tottenham Court Road, Llundain = Printed booklet titled 'Dathlu Deucanmlwyddiant y Diwygiad Methodistaidd 1735-1935', containing biographical information relating to the prime movers of the Methodist revival in Wales during the first half of the eighteenth century, together with the orders of services to celebrate the bicentennial at Jewin Chapel and at Whitefield's Tabernacle Chapel, Tottenham Court Road, London.

Hysbysebiad basâr; llythyr at Miss E. Owen oddi wrth Clement Davies = Bazaar advertisement; letter to Miss E. Owen from Clement Davies

Taflen yn hysbysebu basâr wedi'i drefnu gan aelodau Capel Jewin i'w gynnal yn Neuadd Cymry Llundain, 30 a 31 Mai 1956; llythyr, 28 Mai 1956, at Miss E. Owen, Muswell Hill, Llundain oddi wrth Clement Davies, AS = Pamphlet advertising a bazaar arranged by members of Jewin Chapel to be held at the London Welsh Hall, 30 & 31 May 1956; letter, 28 May 1956, to Miss E. Owen, Muswell Hill, London from Clement Davies, MP.

Llythyrau at/oddi wrth David Rowland Hughes ('Myfyr Eifion') = Letters to/from David Rowland Hughes ('Myfyr Eifion')

Llythyrau, 1913, at/oddi wrth David Rowland Hughes ('Myfyr Eifion'), a oedd yn aelod o Gapel Jewin, yn ymwneud â'i ymchwil ynghylch capel a sefydlwyd yn Wilderness Row, Clerkenwell, Llundain, sef ail leoliad capel y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig wedi iddynt symud oddeutu 1785 o'u safle cychwynnol yn Smithfield, gan gynnwys:
Llythyr (Cymraeg), 7 Gorffennaf 1913, at David Rowland Hughes oddi wrth yr hanesydd a'r gweinidog Methodistaidd Calfinaidd David Erwyd Jenkins, Dinbych.
Llythyr (Saesneg), 7 Gorffennaf 1913, at David Rowland Hughes oddi wrth gwmni Oppermann & Sons, Clerkenwell, Llundain
Llythyr (Saesneg), 1 Awst 1913, at [David Rowland Hughes] oddi wrth A[rthur] Wallington, Llundain
Llythyr (Saesneg), 5 Awst 1913, oddi wrth David Rowland Hughes at Ysgrifennydd Capel Wesleaidd St John's Square, Clerkenwell, Llundain
Dau lythyr (Saesneg), [6] Awst a 15 Awst 1913, at David Rowland Hughes oddi wrth Walter J. Prideaux, Goldsmiths' Hall, Llundain
Dau lythyr (Saesneg), 11 Awst 1913, at [David Rowland Hughes] oddi wrth y Parchedig Edgar C. Barton, London Central Wesleyan Mission, St John's Square, Clerkenwell, Llundain
Llythyr (Saesneg), 14 Awst 1913, at David Rowland Hughes oddi wrth Josiah Briscoe, Llundain

= Letters, 1913, to/from David Rowland Hughes ('Myfyr Eifion'), who was a member of Jewin Chapel, relating to his research into a chapel situated at Wilderness Row, Clerkenwell, London, where the Welsh Calvinistic Methodist cause settled temporarily around 1785 following relocation from their initial site in Smithfield, comprising:
Letter (Welsh), 7 July 1913, to David Rowland Hughes from historian and Calvinisitic Methodist minister David Erwyd Jenkins, Denbigh.
Letter (English), 7 July 1913, to David Rowland Hughes from the company of Oppermann & Sons, Clerkenwell, London.
Letter (English), 1 August 1913, to [David Rowland Hughes] from A[rthur] Wallington, London.
Letter (English), 5 August 1913, from David Rowland Hughes to the Secretary of St John's Square Wesleyan Chapel, Clerkenwell, London.
Two letters (English), [6] August and 15 August 1913, to David Rowland Hughes from Walter J. Prideaux, Goldsmiths' Hall, London.
Two letters (English), 11 August 1913, to [David Rowland Hughes] from the Reverend Edgar C. Barton of the London Wesleyan Mission, St John's Square, Clerkenwell, London.
Letter (English), 14 August 1913, to David Rowland Hughes from Josiah Briscoe, London.

Papurau'r Parchedig D. S. Owen = Reverend D. S. Owen Papers

  • GB 0210 DSOWEN
  • Fonds
  • 1874-[2022]

Papurau'r Parchedig David Samuel Owen (1887-1959), gweinidog Capel Jewin, Llundain, yr eitemau'n cynnwys deunydd yn ymwneud á chyhoeddiadau, digwyddiadau a dathliadau yn hanes Capel Jewin ac o fewn y gymuned Fethodistaidd Galfinaidd/Bresbyteraidd ehangach yn bennaf yn Llundain a Chymru, = Papers of the Reverend David Samuel Owen (1887-1959), minister of Jewin Chapel, London, the items comprising material relating to publications, events and celebrations in the history of Jewin Chapel and within the wider Calvinistic Methodist/Presbyterian community mainly in London and Wales.

Owen, David Samuel, Reverend, 1887-1959

Papurau'r Parchedig D. S. Owen = Reverend D. S. Owen Papers

Papurau'r Parchedig David Samuel Owen (1887-1959), gweinidog Capel Jewin, Llundain, yr eitemau'n cynnwys deunydd yn ymwneud á chyhoeddiadau, digwyddiadau a dathliadau yn hanes Capel Jewin ac o fewn y gymuned Fethodistaidd Galfinaidd/Bresbyteraidd ehangach yn bennaf yn Llundain a Chymru = Papers of the Reverend David Samuel Owen (1887-1959), minister of Jewin Chapel, London, the items comprising material relating to publications, events and celebrations in the history of Jewin Chapel and within the wider Calvinistic Methodist/Presbyterian community mainly in London and Wales.

Rhaglenni Cymdeithas Ddiwylliannol Capel Jewin = Jewin Chapel Cultural Society programmes

Cyfres o raglenni ar ffurf llyfrynnau bychain yn cynnwys gweithgareddau Cymdeithas Ddiwylliannol Capel Jewin, 1915-1970. Cynhaliwyd cyfarfodydd Cymdeithas Ddiwylliannol Capel Jewin yn wythnosol o fis Hydref hyd fis Mawrth bob blwyddyn. = A series of programmes in the form of small booklets comprising the activities of Jewin Chapel Cultural Society, 1915-1970. Jewin Chapel Cultural Society meetings were held weekly from October to March each year.

The report of the Welsh Calvinisitic Methodist Churches in London

Llyfryn printiedig yn dwyn y teitl 'The report of the Welsh Calvinistic Methodist Churches in London for the year ending December 31, 1874', yn cynnwys gwybodaeth ystadegol yn ymwneud á chapeli Methodistaidd Calfinaidd Cymreig Llundain, gan gynnwys Capel Jewin = Printed booklet titled 'The report of the Welsh Calvinistic Methodist Churches in London for the year ending December 31, 1874', containing statistical information relating to Welsh Calvinistic Methodist chapels in London, including Jewin Chapel.

Y Wawr neu Gofiadur y Plant

'Y Wawr neu Gofiadur y Plant', sef cyfres o lyfrynnau printiedig, 1922-1939, dan awduraeth D. S. Owen a gyhoeddwyd yn flynyddol gan Gapel Jewin ac a gyfeirwyd at y plant o fewn y gynulleidfa. = 'Y Wawr neu Gofiadur y Plant', a series of printed booklets, 1922-1939, published annually by Jewin Chapel under the authorship of D. S. Owen and aimed at the children within the congregation.