Showing 13 results

Archival description
Papurau Tydfor Jones
Print preview View:

Llyfrau nodiadau

Llyfrau nodiadau yn cynnwys cerddi cynnar a luniodd Tydfor pan oedd yn blentyn, [1947]-[1949].

Y gyfrol

Adysgrifau o gywyddau, limrigau, englynion, sonedau ac adroddiadau Adar Tydfor gan Ann Tydfor, teipysgrif wedi'i chywiro, ynghyd â llythyrau yn ymwneud â'r gyfrol oddi wrth Wasg Gomer yn 1993.

Sioronwy

Papurau Evan George (Sioronwy, Ifan Sior neu Siors), tad Tydfor, yn cynnwys cerdd ‘Tynnu’r ebol bach’ gan ‘Ifan Sior’ a gyhoeddwyd yn Y Cyfaill Eglwysig, englynion, cerddi eraill ganddo a rhyddiaith, ynghyd ag ysgrif goffa iddo, 1953.

Papurau Tydfor Jones

  • GB 0210 TYDJONES
  • Fonds
  • [1931]-1993

Papurau'r bardd Tydfor Jones, [1931]-1993, yn cynnwys ei gerddi cynnar, cerddi'r gyfrol Rhamant a hiwmor a Tydfor a gyhoeddwyd yn 1993, ynghyd â phapurau'n ymwneud â Bois y Cilie, yn arbennig ei ewythr John (Tydu) Jones a ymfudodd i Ganada. = Papers of the poet Tydfor Jones, [1931]-1993, comprising his early poems, poems for Rhamant a hiwmor a Tydfor published in 1993, together with papers relating to Bois y Cilie, especially his uncle John (Tydu) Jones who emigrated to Canada.

Jones, Tydfor

Cerddi

Llyfrau nodiadau, [1947]-[1980], yn cynnwys cerddi a luniodd yn blentyn ac yn ddiweddarach yn ei fywyd.

Llyfrau cofnodi symud anifeiliaid

Papurau, [1967]-[1987], yn cofnodi gweithrediadau ar y fferm, ynghyd â chopi o fap 25 modfedd (Cards. Sheets XXIII) (ail argraffiad 1905) yn dangos y fferm a'r caeau a'r gaer Caer Wen o'r Oes Haearn gydag ychwanegiadau diweddarach.

John (Tydu) Jones

Llythyrau a anfonodd John (Tydu) Jones at ei nai Tydfor a'r teulu o Ganada, ynghyd ag enghreifftiau o'i ddawn fel bardd ac ysgrif bortread [anfuddugol Tydfor] ar ei ewythr, Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 1983.

'Aelwyd y teulu'

Cyflwynwyd y gyfrol er cof am ei rieni ac yn anrheg 'I Tydfor fy nai ar ei seithfed penblwydd, Medi 2 1941, Wncwl John'. Mae'n cynnwys 'Englynion bore'; 'Englynion yr alltud' i'w frodyr a'i chwiorydd a 'Tydfor, fy nai'; 'Yn yr iaith fain' ac 'Englynion eraill', ynghyd â chyfieithiad i'r Saesneg o 'Hen wlad fy nhadau'.

Llyfrau nodiadau

Llyfrau nodiadau yn cynnwys limrigau ganddo, dyddiadur 1966 yn cynnwys cerddi, ac yn ymwneud â threfniadau nosweithiau gan Adar Tydfor.

'Bois y Cilie'

Sgript gan T. Llew Jones a luniodd ar gyfer rhaglen y Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Aberteifi 1976. Yr oedd Tydfor yn un o'r llefarwyr.