Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 188 canlyniad

Disgrifiad archifol
Cofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Rhagolwg argraffu Gweld:

Datblygiad sefydliadol

Mae’r grŵp yn cynnwys gohebiaeth a phapurau yn ymwneud â datblygiad sefydliadol y Ganolfan, [1921x1930] a 1970-1993, yn cynnwys papurau Ysgol Astudiaethau Celtaidd Coleg Prifysgol Cymru; trefnu agoriad swyddogol y Ganolfan; cynllunio adeilad y Ganolfan; staffio; a datblygiad llyfrgell y Ganolfan.

Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

Cynigion staffio

Gohebiaeth a phapurau yn trafod y staffio, lleoliad, a chefnogaeth ariannol arfaethedig y Ganolfan, 1970, 1974, a 1984, yn cynnwys agenda a chofnodion cyfarfod y Corff Llywodraethol (1984); cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwaith (1983); memoranda (1984); copi o ddatganiad gan R. Geraint Gruffydd (1970); a llythyrau (1974; 1984) oddi wrth Peter Swinnerton-Dyer; Gareth Owen; Russell Davies; Charles Thomas; R. Geraint Gruffydd; T.A. Owen; Emrys Wynn Jones; Bobi Jones; Elwyn Davies; Olwen Daniel; a J. E. Caerwyn Williams.

Cofnodion cyfarfodydd

Agenda a chofnodion cyfarfod Pwyllgor Gwaith y Ganolfan, (1979-1980), yn cynnwys adroddiad ariannol Apêl Syr Thomas Parry Williams (1980); agenda a chofnodion cyfarfod y Corff Llywodraethol, (1979-1980 a 1983-1984), yn cynnwys Adroddiadau’r Llyfrgellydd; cofnodion cyfarfod yr Uwch Gynrychiolwyr (1983); memoranda yn trafod y cais i’r Pwyllgor Grantiau Prifysgolion, (1984); cyfarwyddiadau i wneud cais am grant gan y Llyfrgell Brydeinig (1979); rhestr o gyhoeddiadau a phrisiau, [1979]; copi o’r catalog ‘Books in Print from Ireland’ (1980); adroddiad ariannol Apêl Syr Thomas Parry Williams, (1984); rhestr o gyhoeddiadau a phrisiau, ([1980x1984]); a llythyrau oddi wrth Brian Howells (1979); Gareth Owen (1983) ac Emrys Wynn Jones (1984).

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Ymgynghorol a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol y Ganolfan, Hydref 2007, ac Ionawr, Chwefror, a Hydref 2008; agendâu, Chwefror, Mai, a Hydref 2008; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2007-2008 (2008); adroddiad a datganiadau ariannol y Ganolfan, 2007-2008 (2008); a gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2008), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Angharad Elias a Geraint H. Jenkins. Yn ogystal, ceir cofnodion cyfarfodydd y Penaethiaid Prosiectau, Tachwedd a Rhagfyr 2007, ac Ionawr, Chwefror, Ebrill, Mai, a Gorffennaf 2008; a chopi o gylchlythyr y Ganolfan, rhif 11 (Haf 2008).

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Ymgynghorol a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol y Ganolfan, Hydref 2008, a Chwefror a Mehefin 2009; agendâu, Chwefror, Mehefin, a Hydref 2009; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2008-2009 (2009); adroddiad a datganiadau ariannol y Ganolfan, 2008-2009 (2009); a llythyrau (2009) oddi wrth Angharad Elias. Yn ogystal, ceir cofnodion cyfarfodydd y Penaethiaid Prosiectau, Tachwedd 2008 ac Ionawr, Mawrth, Mai, a Mehefin 2009; a chopi o gylchlythyr y ganolfan, rhif 12 (Haf 2009).

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Ymgynghorol a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol y Ganolfan, Hydref 2009, a Chwefror a Mehefin 2010; agendâu, Chwefror, Mehefin, a Hydref 2010; adroddiad blynyddol y Ganolfan, 2009-2010 (2010); adroddiad a datganiadau ariannol y Ganolfan, 2009-2010 (2010); cynllun busnes Geiriadur Prifysgol Cymru 2011-2023 (2010); a gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2010) yn cynnwys llythyrau oddi wrth Angharad Elias a Marion Löffler. Yn ogystal, ceir cofnodion cyfarfodydd y Penaethiaid Prosiectau, Tachwedd a Rhagfyr 2009, ac Ionawr, Chwefror, Mawrth, Ebrill, a Mehefin 2010; a chopi o gylchlythyr y Ganolfan, rhif 13 (Haf 2010).

Canlyniadau 81 i 100 o 188