Rhagolwg argraffu Cau

Dangos 122 canlyniad

Disgrifiad archifol
Cofnodion Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru Ffeil Cymraeg
Rhagolwg argraffu Gweld:

'Fforwm Teyrnged i Goleg y Drindod, Dulyn ar ei Bedwarcanmlwyddiant'

Papurau a gohebiaeth, 1992, yn ymwneud â pedwaredd Fforwm ar ddeg y Ganolfan i ddathlu pedwarcanmlwyddiant Coleg y Drindod, Dulyn, yn cynnwys rhestr o fynychwyr; rhaglen; manylion costau ac anfonebau; a llythyrau cysylltiedig yn trafod y Fforwm oddi wrth D.A. Webb; R. Geraint Gruffydd; Morfydd E. Owen; R.B. McDowell; Margaret Waugh; John Leather; Peter Gwynn; Máirtín Ó Murchú; a Terence Michael.

'Enwau Lleoedd'

Gohebiaeth a phapurau, 1987, yn ymwneud â pedwerydd Fforwm y Ganolfan, ‘Enwau Lleoedd’, yn cynnwys rhaglen; crynodebau; a llythyrau, yn trafod trefnu'r Fforwm, oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Gwynedd Pierce; Oliver Padel; Margaret Gelling; G. G. Evans; Morfydd E. Owen; Bedwyr Lewis Jones; a Kenneth Cameron.

Deiseb yr Adran Astudiaethau Celtiadd, Prifysgol Lerpwl

Copi o ddeiseb, 1977, wedi llofnodi gan aelodau'r Ysgol Astudiaethau Celtiadd, Aberystwyth; a gohebiaeth cysylltiedig, 1974-1977, yn trafod gwrthwynebu cau’r Adran Astudiaethau Celtaidd yn Prifysgol Lerpwl, yn cynnwys llythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd; Pat Williams; N.J.A. Williams; J.E. Caerwyn Williams & R. Geraint Gruffydd; Roger Wright; Glanville Price; F.W. Walbank; Thomas Parry; Thomas Parry, T.J. Morgan, A.O.H. Jarman, J.E. Caerwyn Williams, ac R. Geraint Gruffydd; a James Cross.

Gruffydd, R. Geraint

Datblygiad yr Ysgol Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd

Gohebiaeth a phapurau, 1971, 1973-1974, a 1976; yn ymwneud â datblygiad arfaethedig yr Ysgol Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd, Coleg Prifysgol Cymru, y rhan fwyaf yn trafod yn bennaf sefydlu ysgoloriaethau ar gyfer Astudiaethau Celtaidd, manylion yr Ysgol Astudiaethau Celtaidd arfaethedig, a’r ceisiadau i gael adeilad swyddogol yn y Brifysgol; ac yn cynnwys llythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd; J. Gareth Thomas; Thomas Parry; Goronwy Daniel; T.A. Owen; David Jenkins; J.E. Caerwyn Williams; Ieuan Gwynedd Jones; ac Emrys Wynn Jones.

Cynigion staffio

Gohebiaeth a phapurau yn trafod y staffio, lleoliad, a chefnogaeth ariannol arfaethedig y Ganolfan, 1970, 1974, a 1984, yn cynnwys agenda a chofnodion cyfarfod y Corff Llywodraethol (1984); cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Gwaith (1983); memoranda (1984); copi o ddatganiad gan R. Geraint Gruffydd (1970); a llythyrau (1974; 1984) oddi wrth Peter Swinnerton-Dyer; Gareth Owen; Russell Davies; Charles Thomas; R. Geraint Gruffydd; T.A. Owen; Emrys Wynn Jones; Bobi Jones; Elwyn Davies; Olwen Daniel; a J. E. Caerwyn Williams.

Cofnodion cyfarfod ac agendâu

Cofnodion y Cyfarfodydd Penaethiaid Prosiectau, Ionawr , Chwefror, Ebrill, Gorffennaf, Medi, Hydref, a Rhagfyr 2006; ac agendâu’r Cyfarfodydd Penaethiaid Prosiectau, Chwefror, Ebrill, Mehefin, Gorffennaf, Medi, Hydref, a Rhagfyr 2006. Yn ogystal, ceir copi o Adolygiad o’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ar’ Bwrdd Gwybodau Celtaidd Cyngor y Brifysgol (Mehefin 2006); a llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2006), oddi wrth Andrew Hawke a Vera Bowen.

Cofnodion cyfarfod ac agendâu

Cofnodion y Cyfarfodydd Penaethiaid Prosiectau, (rhai fel nodiadau), Mehefin, Gorffennaf, a Medi 2006; ac Ionawr, Ebrill, Mai, Mehefin, Medi, Hydref, a Thachwedd 2007; ac agendâu’r Cyfarfodydd Penaethiaid Prosiectau, Mai, Mehefin, Medi, Hydref, Tachwedd, a Rhagfyr 2007. Yn ogystal, ceir llythyrau cysylltiedig yn trafod materion gweinyddol oddi wrth Vera Bowen.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Ebrill 1985, gyda nodiadau yn llaw R. Geraint Gruffydd; agenda, Ionawr 1986; nodiadau ([1985]) ar amcangyfrifon ariannol y Ganolfan, 1985-1986 i 1989-1990; copi o amcanion y Ganolfan (1985); papurau (1986) yn cynnwys gwybodaeth am seminarau a chyflog; a lythyrau (1986) oddi wrth Bobi Jones ac M.A.R. Kemp.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Ebrill 1987 a Medi 1987; agenda a nodiadau’r Cadeirydd, Medi 1987; adroddiad blynyddol y Ganolfan 1986-1987 (1987); adroddiad ariannol 1986-1987 (1987); a nodiadau ar newid i Ordinant Gweinyddol 11 Cyngor Prifysgol Cymru (1987). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1987), yn cynnwys llythyrau oddi wrth R. Geraint Gruffydd; M.A.R. Kemp; T.R. Stevens; a John D. Phillips.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, agenda, a nodiadau’r Cadeirydd, Medi 1988; adroddiad blynyddol y Ganolfan 1987-1988 (1988); adroddiad ariannol 1987-1988 (1988); a manylion ysgoloriaeth goffa Y Foneddiges Amy Parry-Williams [1989]. Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (1987-1989), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Gareth Wyn Evans; John Rhys; R. Geraint Gruffydd; Gareth Owen; David Dykes; J.G. Rees; D. Simon Evans; ac M.A.R. Kemp.

Cofnodion cyfarfod a phapurau cysylltiedig

Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Rheoli’r Ganolfan, Hydref 2001, ac agenda a chofnodion cyfarfod, Mai 2002; nodiadau drafft o agenda’r cyfarfod Mai 2002; amcangyfrifon ariannol, 2001-2002 i 2005-2006 (2002); manylion o grantiau ymchwil AHRB (‘Arts and Humanities Research Board’) (2000); ac adroddiad yr Ymarferiad Asesu Ymchwil (2001). Yn ogystal, ceir gohebiaeth gysylltiedig yn trafod materion gweinyddol (2001-2002), yn cynnwys llythyrau oddi wrth Geraint H. Jenkins; Ruth ab Ieuan; Nia Davies; Lynn Williams; Peter Lloyd; Beryl Jenkins; Pat Lewis; a Derec Llwyd Morgan.

Canlyniadau 41 i 60 o 122