Showing 210 results

Archival description
Papurau Waldo Williams
Print preview View:

Barddoniaeth Waldo Williams

Barddoniaeth gan, neu ddeunydd sy'n ymdrin â barddoniaeth gan, Waldo Williams, gyda nifer o'r cerddi yn ei law ei hun. Mae'r eitemau'n cynnwys ei gerddi adnabyddus Eirlysiau a Mewn Dau Gae, ei awdl Tŷ Ddewi, ei gywydd Y Tŵr a'r Graig a'i gywydd coffa i'w wraig Linda, ynghyd â cherddi cynnar megis Hiraeth a Y Duw Unig.

'Canu Cynnar Waldo'

Llyfr nodiadau yn dwyn yr arysgrif 'Cerddi Cynnar Waldo' a dau nodyn arall (un dyddiedig 10 Mai 1979) yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo, y gyfrol yn cynnwys copïau teg a drafft o Hiraeth (cyfres o dair soned), Yr Hen Le, Efe, Ei Hiraeth Ef ac Er Ei Fwyn (pedair cerdd ar yr un mesur sy'n rhan o un cyfanwaith) a Y Duw Unig (oedd ar un adeg yn rhan o bryddest neu gerdd hir o'r enw Unigrwydd (ceir y teitl hwn ar dudalen ar ei ben ei hun o fewn y gyfrol)) pob un o'r cerddi gan ac yn llaw Waldo Williams.

Y Tŵr a'r Graig

Copïau llawysgrif drafft a llungopïau o ran o gywydd Waldo Williams Y Tŵr a'r Graig (yma'n dwyn y teitl [?gwreiddiol] 'Rhwng y Ddwy Garn'), y copïau llawysgrif a chopïau gwreiddiol y llungopïau yn llaw Waldo Williams. Cyhoeddwyd y cywydd am y tro cyntaf yn rhifyn Tachwedd 1938 o'r cylchgrawn Heddiw.

Linda

Copi o gywydd byr gan Waldo Williams er cof am ei wraig Linda (ganed Llewellyn). Ychydig wythnosau wedi ei marwolaeth anhymig ar y cyntaf o Fehefin 1943, anfonodd Waldo gopïau o'r gerdd wedi'i hargraffu ar gerdyn fechan at deulu a chyfeillion.

Plentyn y Ddaear

Llungopi o'r gerdd Plentyn y Ddaear gan Waldo Williams, y copi gwreiddiol yn ei law. Cyhoeddwyd y gerdd am y tro cyntaf yn rhifyn 17 Mai 1939 o'r Faner.

O baradwys ddibryder ..

Llungopi o nodyn (neu, o bosib, ran o lythyr) oddi wrth 'Hefin' at dderbynnydd anhysbys yn cynnwys copi o englyn gan Waldo Williams sy'n cychwyn 'O baradwys ddibryder ...'. Crybwyllir yn y nodyn y gwas ffarm a'r gwrthwynebwr cydwybodol Percy Ogwen Jones, ynghyd a'i fab, Geraint Percy Jones.

Rhyddiaith Waldo Williams

Darnau rhyddiaith gan, neu eitemau'n ymdrin â darnau rhyddiaith gan, Waldo Williams, gan gynnwys ei 'Ddatganiad' ('Statement') yn erbyn gorfodaeth milwrol; pamffledyn yn seiliedig ar y sgwrs radio wreiddiol Paham yr wyf yn Grynwr; adolygiadau llenyddol o'r wasg; ac ysgrifau drafft ar y bardd a'r llenor D. J. Williams, ar y gynghanedd ac ar emynwyr y ddeunawfed ganrif.

Statement

Llungopi o ddatganiad Waldo Williams yn erbyn rhyfel a wnaeth gerbron tribiwnlys Caerfyrddin ar 12fed o Chwefror 1942.

Paham yr wyf yn Grynwr

Pamffledyn printiedig yn dwyn y teitl Paham yr wyf yn Grynwr gan Waldo Williams. Darlledwyd y cynnwys yn wreiddiol mewn sgwrs radio ar y 15fed o Orffennaf 1956 ac yna ei gyhoeddi ym mhapur newydd Seren Cymru ar 25 o Fehefin 1971. Ymunodd Waldo Williams â'r Crynwyr yn ystod y 1950au, gan fynychu eu tŷ cwrdd yn Aberdaugleddau.

Tri Emynydd

Copi teipysgrif o ysgrif gan Waldo Williams yn dwyn y teitl 'Tri Emynydd', un o gyfres Gwŷr llên y ddeunawfed ganrif a'u cefndir.

Canu Bobi Jones

Adolygiad gan Waldo Williams o Y Gân Gyntaf gan Bobi Jones (Gwasg Aberystwyth, 1957) a dynnwyd o gyfrol brintiedig; ynghyd ag erthygl gan Bobi Jones yn dwyn y teitl 'Ceiriog - y bardd di-synnwyr', hefyd wedi'i dynnu o [?yr un] gyfrol brintiedig. Ar un ddalen, ceir nodyn [?yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo]: 'Adolygiad - Canu Bobi'.

Nodiadau o Lyfr Du Caerfyrddin, Myvyrian Archaiology of Wales

Llyfr nodiadau yn llaw Waldo Williams yn cynnwys trioedd a cherddi eraill wedi'u cymeryd o ffynhonellau megis Llyfr Du Caerfyrddin a'r Myvyrian Archaiology of Wales; ynghyd â 'Spring is coming' o'r opera Ottone gan Handel, ac amrywiol nodiadau eraill.

Handel, George Frideric, 1685-1759

Llythyr at Waldo Williams oddi wrth Dewi Thomas

Llungopi o lythyr, 24 Medi 1967, at Waldo Williams oddi wrth Dewi Thomas. Nid yw'n eglur pa un ai'r un Dewi Thomas sydd yma â'r Parch Dewi W. Thomas a ddisgrifir gan Alan Llwyd (Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 229-230, 339).

Llythyr at Waldo Williams oddi wrth George Evans

Llungopi o lythyr, 20 Medi 1970, at Waldo Williams oddi wrth George Evans, a oedd yn wreiddiol o Glunderwen, Sir Benfro (gweler nodyn [?yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo] ar frig y llythyr). Ysgrifennwyd y llythyr tra 'roedd Waldo dan ei gystudd olaf yn Ysbyty Sant Thomas, Hwlffordd.

Deunydd yn ymwneud â Waldo Williams

Deunydd yn ymwneud â Waldo Williams, gan gynnwys peth o hanes ei ddyddiau ysgol, ei wrthodiad i dalu'r dreth incwm, a'i ddedfryd a'i garchariad o ganlyniad i hynny; ysgrifau coffa a theyrngedau a luniwyd iddo yn dilyn ei farwolaeth; a dathliadau canmlwyddiant ei eni.

Derbynneb

Derbynneb dyddiedig 15 Mawrth 1935 wedi'i chyfeirio at Waldo Williams gan Gyngor Dosbarth Gwledig Arberth.

Gwahoddiad i ddrama'r geni Ysgol Botwnnog

Cerdyn gwahoddiad (di-ddyddiad) i ddrama'r geni Ysgol Ramadeg Botwnnog, lle bu Waldo Williams yn dysgu o 1942 hyd 1944. Ar gefn y cerdyn ceir enw 'Gruff [Gruffudd] Parry', cyd-athro i Waldo ym Motwnnog, ynghyd ag enwau rhai o gast y ddrama ac enw'r gyfeilyddes.

The Welsh Outlook / Y Geninen / Y Deyrnas

Copïau o gyfnodolion fu ym meddiant John Edwal Williams, sef The Welsh Outlook, 1912, 1915, 1917, 1927, 1928, 1931, 1932, Y Geninen, 1912, 1917, a rhifyn olaf papur newydd Y Deyrnas, Tachwedd 1919. Ar frig tri o'r Welsh Outlook ceir yr arysgrifau 'JEW', 'J Edwal Williams' a 'Mr Williams Brynconin Sch[ool] Clynderwen'. Ar frig hysbyseb di-ddyddiad, o bosib wedi'i dynnu allan o ffynhonell brintiedig, ceir nodyn [yn llaw John Edwal Williams] sy'n crybwyll enwau'r bardd a'r llenor [Walt] Whitman a'r bardd a'r athronydd Edward Carpenter, dau o arwyr John Edwal.

Results 61 to 80 of 210