Showing 210 results

Archival description
Papurau Waldo Williams
Print preview View:

Nodiadau amrywiol

Nodiadau amrywiol, yn gopïau gwreiddiol ac yn llungopïau, yn llaw Waldo Williams, gan gynnwys nodiadau ar Robert Recorde (1510-1558) ac ar seintiau Cymreig; nodiadau ar ofynion gwasanaethol meistri tir; rhestr o eiriau yn nhafodiaith Dyfed; a dyfyniad o emyn Ann Griffiths (1776-1805) 'Mae sŵn y clychau'n chwarae ...'.

[Llyfr nodiadau Linda a Waldo]

Llyfr nodiadau yn rhannol yn llaw Linda (née Llewellyn), gwraig Waldo Williams, yn cynnwys mesuriadau a phrisiau carpedi a llenni ar gyfer y cartref (gan nodi fod angen llenni 'black-out' i ambell ffenest) a rhestr siopa ('What Linda wants'); ynghyd â nodiadau bras yn llaw Waldo Williams yng nghefn y gyfrol. Nodir yr enwau 'Waldo' a 'Linda' ar glawr y gyfrol.

Cerdyn post at Waldo Williams oddi wrth Mary [Williams (yn ddiweddarach Francis)]

Cerdyn post, marc post 4 Medi 1920, a anfonwyd at Waldo Williams gan [ei chwaer] Mary [Williams (yn ddiweddarach Francis)], yn llongyfarch Waldo, yn ôl pob tebyg am ennill Gwobr James yng nghyfarfod gwobrwyo Ysgol Ramadeg Arberth, lle bu'n ddisgybl o 1917 hyd 1922 (gweler Diwrnod gwobrwyo Ysgol Sir Arberth dan bennawd Deunydd yn ymwneud â Waldo Williams).

Amlen wedi'i chyfeirio at Waldo Williams oddi wrth Jâms Nicholas

Amlen wag, marc post cyntaf 23 Hydref 1958, ail farc post 10 Awst 1960, wedi'i chyfeirio at Waldo Williams oddi wrth ei gyfaill, y bardd a'r athro Jâms Nicholas. Ar gefn yr amlen mae arysgrif, yn ôl pob tebyg yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo, yn darllen 'I'W BEIRNIADU?? LLAWYSGRIFEN JAMS [sic] AR YR AMLEN YN DWYN Y CERDDI COFFA'.

Gwrthodiad i dalu'r dreth incwm, dedfryd a charchariad Waldo Williams

Toriadau papur newydd yn ymwneud â gwrthodiad Waldo Williams i dalu ei dreth incwm, ynghyd â'i ddedfrydu a'i garcharu o ganlyniad i hynny ym mis Medi 1960; hefyd toriad o rifyn 6 Hydref 1960 o bapur newydd Y Tyst yn cynnwys cerdd gan 'Gerallt' wedi'i chyfeirio at Waldo Williams yn ystod cyfnod ei garchariad.

Taflen wasanaeth angladdol Waldo Williams

Taflen wasanaeth angladdol Waldo Williams, 24 Mai 1971, sy'n cynnwys teyrnged gan gyfaill Waldo, y bardd a'r athro Jâms (James) Nicholas, emyn o waith Waldo ei hunan, ac egwyl o ddistawrwydd yn ôl arferiad y Crynwyr. Bu farw Waldo ar yr 20fed o Fai 1971 a'i gladdu gyda'i wraig Linda a'i rieni ym mynwent Capel y Bedyddwyr Blaenconin, Llandysilio, Sir Benfro, lle priodwyd Waldo a Linda ychydig dros ddeg mlynedd ar hugain ynghynt.

Erthyglau am Waldo Williams

Rhifyn 22 Mehefin 1979 o'r Faner, sy'n cynnwys llun o Waldo Williams ar y clawr ac erthygl gan Beatrice Davies, prifathrawes Ysgol Bro Eglwyswrw, am fro genedigol Waldo dan y teitl Dewch am dro - i ardal Waldo. Fel rhan o'r erthygl ceir englyn gan Waldo nas cyhoeddwyd o'r blaen yn cyfarch y bardd T. H. Parry-Williams ar gael ei urddo'n farchog.
Erthygl am Waldo Williams gan Dylan Iorwerth yn ei golofn Gymraeg yn rhifyn 18 Mai 2011 o'r Western Mail.

Y Baban Diwrnod Oed

Llungopi o gerdd yn dwyn y teitl 'Y Baban Diwrnod Oed'. 'Pethau Waldo' wedi'i nodi yn llaw Dilys Williams, chwaer Waldo Williams, ar ddalen flaen y llungopi.

Llythyr oddi wrth y Parchedig Robert Parri Roberts

Llungopi o lythyr, 24 Hydref 1962, oddi wrth y Parchedig Robert Parri Roberts at 'Mr Hughes' - o bosib John Hughes, Llangernyw (gweler Llythyr at Mr a Mrs John Hughes, Llangernyw dan bennawd Angharad Williams (née Jones)). Yng nghymal clo'r llythyr sonia Robert Parri Roberts am Waldo Williams fel ei "[g]yfaill pur - y Bardd mawr, Waldo Williams". Ar waelod y ddalen flaen ceir arysgrif o bosib yn llaw David Williams, nai Waldo (gweler Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams).

Guild y Bobl Ifainc, Blaenconin

Manylion o gyfraniadau Waldo Williams ac aelodau o'i deulu i weithgareddau Guild y Bobl Ifainc Capel Bedyddwyr Blaenconin, Llandysilio, Sir Benfro, 1927 - 1935, y wybodaeth yn deillio o bapur newydd lleol (yn ôl pob tebyg, The Narberth, Whitland and Clynderwen Weekly News - gweler Alan Llwyd: Waldo: Cofiant Waldo Williams: 1904-1971 (Y Lolfa, 2014), tud. 161).

Dadorchuddio plac er cof am Waldo Williams

Toriad o rifyn Ionawr-Chwefror 2014 o'r papur newydd Ninnau - The North American Welsh Newspaper, sy'n cynnwys erthygl gan Tana George am ddadorchuddiad plac er cof am Waldo Williams ar fur Rhosaeron, y cartref teuluol, gan David Williams, nai Waldo (gweler dan Aelodau eraill teulu Waldo Williams - David Williams).

Erthygl ddrafft gan Tana George ar gyfer Ninnau - The North American Welsh Newspaper yn dwyn y teitl Waldo Williams, Poet of Peace and Welsh Folk Hero (1901 [sic] - 1971)', ynghyd â deunydd yn ymwneud â John George, gŵr Tana George, a phrint o lun o John a Tana George wrth gofeb Waldo ym Mynachlog-ddu.

John Edwal Williams

Deunydd gan, ym meddiant neu'n ymwneud â John Edwal Williams, tad Waldo Williams, gan gynnwys cyfnodolion a phamffledi yn bennaf o ddiddordeb sosialaidd; torion papur newydd yn cynnwys erthyglau gan John Edwal a gyhoeddwyd yn y wasg leol; deunydd yn ymwneud â gyrfa John Edwal; deunydd yn ymwneud â theulu John Edwal, gan gynnwys gwybodaeth achyddol, manylion cyfrifiadau a deunydd gan neu yn ymwneud â William (Gwilamus) a Lewis Williams, brodyr John Edwal; a gohebiaeth.

Pamffledi sosialaidd

Pamffledi a llyfrynnau ym meddiant John Edwal Williams yn ymwneud yn bennaf â sosialaeth a Theosoffiaeth, gan gynnwys deunydd a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Ffabiaidd gan yr athronydd a'r llenor Thomas Carlyle a'r dramodydd, adolygydd a'r dadleuydd George Bernard Shaw ac eraill; yn ogystal â deunydd sy'n dyddio o'r 1940au, wedi marwolaeth John Edwal Williams. Arysgrifir llofnod John Edwal ar ambell ddalen. Cyhoeddwyd y deunydd ym Mhrydain a'r Unol Daleithiau.

Results 181 to 200 of 210