Dangos 42 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau T. Glynne Davies
Dewisiadau chwilio manwl
Rhagolwg argraffu Gweld:

Llwch

Drafftiau o’i bryddest anfuddugol ‘Llwch’, Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun, 1986, ynghyd â nodiadau gwreiddiol a'r drafft cyntaf .

Llongyfarchiadau, 1951

Llythyrau a thelegramau'n ei longyfarch ar ennill y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, 1951, ynghyd â'r dystysgrif a dderbyniodd oddi wrth Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol.

Hedydd yn yr haul

Rhan o'r sgript radio (comisiwn, 1965) a newidiwyd pan gafodd ei chyhoeddi yn 1969, ynghyd â throsiad i'r Saesneg: 'The gander and the lark’ (poem for voices and music), addasiad T. Glynne Davies, 1970, o ddetholiad o’i gerdd ‘Hedydd yn yr haul’. Fe’i defnyddiwyd gan ei fab Gareth Glyn ar gyfer gosodiad cerddorol, 1971, tra’n astudio cerddoriaeth yng Ngholeg Merton, Rhydychen.

Gohebiaeth

Llythyrau'n ymwneud â'i waith fel gohebydd, darlledwr, a'i gyhoeddiadau llenyddol.

Ffotograffau

Ymhlith y ffotograffau mae un o David Lloyd wedi’i lofnodi ganddo yn 1963, T. Glynne Davies ac Alan Llwyd yn Eisteddfod Genedlaethol [Machynlleth 1981] a gyda Mary Hopkin ac eraill yng ngwesty’r Savoy, [Llundain].

Cysgodion a dramâu eraill

Sgriptiau 'Cysgodion', y ddrama gyntaf a luniodd yn 15-16 oed, [1941]-[1942], 'Tro byd', 'drama gyda cherddoriaeth' a gomisiynwyd gan Theatr Cymru yn 1972 a 'Merch y blodau', drama lwyfan a ddechreuodd ei hysgrifennu yn 1986.

Cyfansoddiadau eraill

Drafftiau o nofelau ‘Tregwmwl’ (Pan euthum yn ŵr) a ‘Twll yn y bocs’; stori fer anghyflawn 'Y siou'; ? stori fer 'Y gŵr sicr ei sail'; ‘Madam Miranda Mason’, stori fer hir yng nghystadleuaeth y fedal ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol ? a'i gyfieithiad o stori fer T. Hughes Jones ‘Sgweier Hafila’ i’r Saesneg ar gyfer The Penguin book of Welsh short stories a olygwyd gan Alun Richards a llythyrau oddi wrtho, 1974.

Cerddi, 1946-1986

Cerddi gan gynnwys 'Ruins', cyfieithiad ganddo o'i bryddest 'Adfeilion' a thorion o gerddi a gyhoeddwyd yn y wasg a sylwadau amdanynt.

Cerddi

Cyfrol o gerddi yn ei law, ynghyd â cherddi teipysgrif yn rhydd yn y gyfrol. Nodir lle cyfansoddwyd y cerddi, nifer ohonynt ym Machynlleth a hefyd os cawsant eu cyhoeddi, yn Y Faner yn bennaf.

Canlyniadau 21 i 40 o 42