Showing 18 results

Archival description
Cofnodion Cymdeithas Bob Owen
Print preview View:

Gohebiaeth a chofnodion gweinyddol,

Gohebiaeth rhwng swyddogion y Gymdeithas, aelodau, marchnatwyr, Cyngor Celfyddydau Cymru ac eraill ynglŷn â cheisiadau am gymhorthdal, cynhyrchu'r Casglwr, marchnata, cyfarfodydd a digwyddiadau eraill, aelodaeth, swyddogion y Gymdeithas, a materion eraill o ddiddordeb i'r Gymdeithas; ynghyd â phapurau eraill yn cynnwys: copiau o gyfansoddiad y Gymdeithas a chofnod Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi am ei statws fel elusen cofrestredig; cofnodion ariannol, yn cynnwys papurau'r ymwneud â cymhorthdal gan Gyngor Celfyddydau Cymru; taflenni'n hysbysu cyhoeddiadau a digwyddiadau'r Gymdeithas; papurau'n ymwneud ag amcanion a gweithgareddau'r Gymdeithas o ran cynnwys, dylunio, ariannu a marchnata'r Casglwr; manylion masnachwyr cardiau post; a ffurflen aelodaeth.

Cofnodion Cymdeithas Bob Owen

  • GB 0210 CYMWEN
  • fonds
  • 1976-2006

Cofnodion Cymdeithas Bob Owen, yn cynnwys papurau yn ymwneud â sefydlu'r gymdeithas, agendâu a chofnodion cyfarfodydd y pwyllgor gwaith a chyfarfodydd blynyddol, ffurflenni tanysgrifio a rhestri aelodaeth, cofnodion ariannol, torion papur newydd, a gohebiaeth yn ymwneud â'r gymdeithas a'r Casglwr. = Papers relating to the establishment of Cymdeithas Bob Owen (the Bob Owen Society), agendas and minutes of meetings of the working committee and annual meetings, subscription forms and membership lists, financial minutes, newspaper cuttings, and correspondence relating to the society and to Y Casglwr.

Cymdeithas Bob Owen.

Gohebiaeth,

Gohebiaeth gyffredinol yn ymdrin yn bennaf â gweithgaredd a gweinyddiaeth y gymdeithas ac yn arbennig â chyhoeddi'r Casglwr.

Cofnodion cyfarfodydd,

Manylion cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith a Chyfarfodydd Blynyddol y Gymdeithas, ynghyd â thaflen yn cyhoeddi lansiad y Gymdeithas, a chofnodion ynglŷn ag argraffu'r Casglwr.

Gohebiaeth a chofnodion gweinyddol

Gohebiaeth rhwng swyddogion y Gymdeithas, aelodau a marchnatwyr ynglŷn ag: ethol aelodau newydd i Bwyllgor y Gymdeithas; materion ariannol yn cynnwys prynu gliniadur at ddefnydd y Trysorydd, taliadau blynyddol i'r Ysgrifennydd a'r Trysorydd, a thanysgrifiadau i'r Casglwr; rhestr aelodau'r Gymdeithas; trafod 'Cyfres y Casglwr' newydd Gwasg Carreg Gwalch; a materion eraill o ddiddordeb i'r Gymdeithas; ynghyd â chopiau o gyfansoddiad y Gymdeithas (1978), dibenion y Gymdeithas (1993) a chytundeb am ddefnydd a diogelwch y gliniadur.