Dangos 12 canlyniad

Disgrifiad archifol
Cofnodion Cymdeithas Bob Owen ffeil
Rhagolwg argraffu Gweld:

Cofnodion cyfarfodydd,

Manylion cyfarfodydd y Pwyllgor Gwaith a Chyfarfodydd Blynyddol y Gymdeithas, ynghyd â thaflen yn cyhoeddi lansiad y Gymdeithas, a chofnodion ynglŷn ag argraffu'r Casglwr.

Gohebiaeth a chofnodion gweinyddol,

Gohebiaeth rhwng swyddogion y Gymdeithas, aelodau, marchnatwyr, Cyngor Celfyddydau Cymru ac eraill ynglŷn â cheisiadau am gymhorthdal, cynhyrchu'r Casglwr, marchnata, cyfarfodydd a digwyddiadau eraill, aelodaeth, swyddogion y Gymdeithas, a materion eraill o ddiddordeb i'r Gymdeithas; ynghyd â phapurau eraill yn cynnwys: copiau o gyfansoddiad y Gymdeithas a chofnod Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi am ei statws fel elusen cofrestredig; cofnodion ariannol, yn cynnwys papurau'r ymwneud â cymhorthdal gan Gyngor Celfyddydau Cymru; taflenni'n hysbysu cyhoeddiadau a digwyddiadau'r Gymdeithas; papurau'n ymwneud ag amcanion a gweithgareddau'r Gymdeithas o ran cynnwys, dylunio, ariannu a marchnata'r Casglwr; manylion masnachwyr cardiau post; a ffurflen aelodaeth.