Dangos 36 canlyniad

Disgrifiad archifol
Papurau Cynog Dafis,
Rhagolwg argraffu Gweld:

1 canlyniad gyda gwrthrychau digidol Dangos canlyniadau gyda gwrthrychau digidol

Anerchiadau

Ffeil yn cynnwys nifer o areithiau, y rhan fwyaf yn llaw Cynog Dafis ar gyfer achlysuron gan gynnwys cyfarfod Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (1973), Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Aberystwyth (2000), Merched y Wawr Llandysul (2000) Noson Wobrwyo Ysgol Aberaeron (2000) ac eraill.

Datganoli

Datganiadau i'w wasg a gohebiaeth yn ymwneud a datganoli gan gynnwys cerdyn diolch oddi wrth Gwynfor Evans ar adeg ymddeoliad Cynog Dafis o Senedd y DG, datganiad ar y cyd ar ddatganoli gan Blaid Cymru, Plaid Werdd Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a cherdyn llongyfarch ar ennill yn Etholiad Cyffredinol 1997.

Etholiad Cyffredinol 1992 a deunydd arall

Gobeithiaeth, nodiadau a dogfennau eraill yn ymwneud a materion etholaeth Ceredigion a Gogledd Penfro, materion gwyrdd, ansawdd dwr ac amglychedd y mor ym Mae Ceredigion, materion seneddol, ymgyrchoedd ac ati,

Ffeil o bapurau, 1961-77, ynglyn ag addysg a'r iaith Gymraeg, gan gynnwys Welsh Language Survey, Cardiganshire Education Committee, 1961 and ...,

Ffeil o bapurau, 1961-77, ynglyn ag addysg a'r iaith Gymraeg, gan gynnwys Welsh Language Survey, Cardiganshire Education Committee, 1961 and 1967; ysgrif ar y sefyllfa ieithyddol yn Ne Dyfed, c 1969; Arolwg Iaith, Pwyllgor Addysg Dyfed, 1973 a 1974; Y Gymraeg yn Ysgolion Cynradd Gwynedd, Powys a Dyfed, Adroddiad gan Arolygwyr ei Mawrhydi, 1977.

Gohebiaeth a phapurau, 1992-97, yn ymwneud â pherthynas Plaid Cymru â'r Blaid Werdd, eu cytundeb ar gyfer ymgeisyddiaeth yn etholaeth ...,

Gohebiaeth a phapurau, 1992-97, yn ymwneud â pherthynas Plaid Cymru â'r Blaid Werdd, eu cytundeb ar gyfer ymgeisyddiaeth yn etholaeth Ceredigion a Gogledd Penfro, a'r gwrthwynebiad tuag at y cydweithio oddi wrth Dr Chris Busby a rhai aelodau eraill Plaid Werdd Aberystwyth. Ymhlith y gohebwyr y mae Sir Jonathon Porritt, un o sylfaenwyr y Blaid Werdd.

Llythyron

Llythyron a derbyniwyd gan Cynog Dafis gan unigolion gan gynwys Michael Scott, Is-Ganghellor Prifygol Glyndwr, Elystan Morgan, Tegwyn Jones, Janet Ryder, Ifan Lloyd a Gwynfor Evans. Mae'r llythron yn trafod materion fel strategaeth Plaid Cymru, yr Iaith Gymraeg, gweithredoedd dros yr Iaith a heddwch. Mae'r ffeil hefyd yn cynnwys ffurflen yn enwebu Cynog Dafis yn ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer etholaeth Ceredigion yn 1975.

Evans, Gwynfor

Llythyron gan John Barnard Jenkins

Tri llythyr a anfonwyd o'r carchar gan John Jenkins at Cynog Dafis ac un cerdyn Nadolig o gyfeiriad yn Nhon-teg, Pontypridd. Yn y llythyr cyntaf mae Barnard yn gofyn i Cynog Dafis i edrych ar ol ei fab am gwpl o wythnosau er mwyn iddo fyd mewn awyrgylch Cymraeg. Mae llythyron diweddarach yn diolch i Cynog a Llinos am edrych ar ol ei fab ac yn trafod datblygiadau gwleidyddol Cymru, Cwmni Adfer a chynlluniau Barnard i symud i Sir Benfro i sefydlu menter pysgota cydweithredol a pharhau gyda'i ymgyrch chwyldroadol.

Jenkins, John, 1933-

Papurau a gohebiaeth Seneddol

Gohebiaeth, copiau Hansard ac ati yn ymwneud a gwaith Seneddol Cynog Dafis ar bynciau amrywiol gan gynnwys llygredd, lleihai traffig, tannwydd ffosil. Ffeil yn cynnwys nifer o lythyron yn ymwneud ag achosion unigolion a hawliau dynol.

Canlyniadau 1 i 20 o 36