Showing 31 results

Archival description
Papurau Cronfa Goffa Saunders Lewis,
Print preview View:

Llythyrau at y wasg

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyr i'r Wasg, 1991, yn cywiro camargraff ynglŷn ag Ysgoloriaeth Goffa Saunders Lewis, copi o erthygl ar gasglu elw tuag at yr Ysgoloriaeth a ymddangosodd yn Y Faner, 1990, a chopi o rifyn 3, Mehefin 1993, o Newyddion Prifysgol Cymru, yn rhoi sylw, ar y tudalen flaen, i ddathliad canmlwyddiant geni Saunders Lewis.

Papurau yn ymwneud â'r Ysgoloriaethau

Mae'r gyfres yn cynnwys teipysgrifau o gynnyrch Gwobr Goffa Saunders Lewis, gan Angharad Price, enillydd cyntaf yr ysgoloriaeth, 1994-1995, yn dwyn y teitl 'Smentio Sentiment - Beirdd Concrid Grŵp Fiena 1954-1964', a theipysgrif a chopi cyhoeddedig, 1998, o ffrwyth llafur Heather Williams, deiliad un o'r ysgoloriaethau, gyda'r teitl Barddoniaeth i Bawb? Stèphane Mallarmé.

Papurau ariannol

Mae'r gyfres yn cynnwys cyfrifon Pwyllgor Rheoli Cronfa Goffa Saunders Lewis, 1989-2000, gohebiaeth Trysorydd y Pwyllgor Rheoli, 1990-1994, llyfr cyfrifon Pwyllgor Sir Gaernarfon, 1992-1993, a ffeil trysorydd Pwyllgor Sir Gaernarfon, 1992-1995.

Gohebiaeth y Trysorydd

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth y Trysorydd, Alun Creunant Davies â Dr Meredydd Evans, Ysgrifennydd, y ddau yn swyddogion Cronfa Goffa Saunders Lewis, ynglŷn â sefyllfa ariannol y gronfa ganolog, 1990-1994.

Cofnodion

Mae'r ffeil yn cynnwys agendau a chofnodion Pwyllgor Rheoli Cronfa Apêl J. Saunders Lewis o'r cyfarfod cyntaf ar 3 Fehefin 1989 hyd 30 Ebrill 1994, a chopi o gofnodion yr unfed gyfarfod ar bymtheg ar 17 Tachwedd 2001; ynghyd â chyfrol o gofnodion Pwyllgor Sir Gaernarfon o'r Gronfa, o'r cyfarfod cyntaf ar 10 Mai 1992 hyd at y pedwerydd cyfarfod ar ddeg ar 2 Gorffennaf 1995.

Gohebiaeth gyffredinol

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol, 1989-2002, Pwyllgor Rheoli Cronfa Goffa J. Saunders Lewis, ynghyd â'r llythyr gwreiddiol, dyddiedig 28 Mai 1986, at Mrs Mair Jones, merch Saunders Lewis, yn trafod y bwriad o godi cronfa genedlaethol er mwyn sefydlu Ysgoloriaeth i goffáu ei thad.

Cylchlythyrau

Mae'r ffeil yn cynnwys cylchlythyrau Cronfa Goffa Saunders Lewis yn bennaf, gyda newyddion ynglŷn â gweithgareddau'r Pwyllgorau Sirol i gasglu arian at y Gronfa, hysbysebion am yr Ysgoloriaeth, torion papur a llythyron ynglŷn ag amodau ceisiadau am yr Ysgoloriaeth.

Papurau Cronfa Goffa Saunders Lewis,

  • GB 0210 SAUNDERS
  • Fonds
  • 1986, 1989-2002

Mae'r fonds yn cynnwys cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Rheoli a phwyllgor Sir Gaernarfon Cronfa Apêl Saunders Lewis, 1989-2001; llythyron a phapurau amrywiol yn ymwneud â sefydlu a lansio'r Apêl, a llythyron yn ymwneud â threfnu gweithgareddau amrywiol i ddwyn arian i'r Gronfa, 1986-2002; gweithiau creadigol yn ymwneud â'r ysgoloriaethau, 1995-1996; cyfrifon a phapurau'r trysoryddion, 1989-2000; a phapurau printiedig sy'n ymwneud ag elusennau, 1996-2002. Y mae hefyd gopi o gyfansoddiad y Gronfa, 1989, a chopi o ddiweddariad, 1999.

Cronfa Goffa Saunders Lewis

Results 1 to 20 of 31