Showing 31 results

Archival description
Papurau Cronfa Goffa Saunders Lewis,
Print preview View:

Cofnodion

Mae'r ffeil yn cynnwys agendau a chofnodion Pwyllgor Rheoli Cronfa Apêl J. Saunders Lewis o'r cyfarfod cyntaf ar 3 Fehefin 1989 hyd 30 Ebrill 1994, a chopi o gofnodion yr unfed gyfarfod ar bymtheg ar 17 Tachwedd 2001; ynghyd â chyfrol o gofnodion Pwyllgor Sir Gaernarfon o'r Gronfa, o'r cyfarfod cyntaf ar 10 Mai 1992 hyd at y pedwerydd cyfarfod ar ddeg ar 2 Gorffennaf 1995.

Gohebiaeth a phapurau cyffredinol

Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth yn ymwneud â'r Apêl, megis llythyron cyffredinol ynglŷn â sefydlu Pwyllgor Rheoli'r Gronfa Goffa; llythyron Pwyllgor Sir Gaernarfon; gohebiaeth y Pwyllgorau ac Isbwyllgorau; llythyron yn ymwneud â threfnu gweithgareddau amrywiol i ddwyn arian i'r gronfa gan gynnwys gohebiaeth â'r noddwyr; papurau yn ymwneud â lansio'r Apêl; a datganiadau i'r wasg er mwyn hysbysebu'r Apêl.

Gohebiaeth gyffredinol

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol, 1989-2002, Pwyllgor Rheoli Cronfa Goffa J. Saunders Lewis, ynghyd â'r llythyr gwreiddiol, dyddiedig 28 Mai 1986, at Mrs Mair Jones, merch Saunders Lewis, yn trafod y bwriad o godi cronfa genedlaethol er mwyn sefydlu Ysgoloriaeth i goffáu ei thad.

Gohebiaeth Pwyllgor Sir Gaernarfon

Mae'r ffeil yn cynnwys papurau, y mwyafrif yn lythyron, a hefyd cofnodion pwyllgor a phapurau amrywiol eraill, 1992-1994, Cangen Sir Gaernarfon o Gronfa Goffa Saunders Lewis. Sefydlwyd y gangen yn sgil y cais a gafwyd gan Bwyllgor Rheoli Canolog y gronfa am gefnogaeth gan bwyllgorau sirol i gasglu arian tuag at yr apêl.

Gohebiaeth yn ymwneud â'r Pwyllgorau ac Is-bwyllgorau

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyron a phapurau amrywiol yn ymwneud â phwyllgorau ac is-bwyllgorau ledled Cymru a fu'n gysylltiedig â'r Apêl, megis yr Is-Bwyllgor Drama, Is-Bwyllgor y Cylch Catholig, Is-Bwyllgor Apêl at Ddiwydianwyr, yn ogystal â phapurau'r Pwyllgor Rheoli. Ceir hefyd restrau o gynullwyr Pwyllgorau Apêl, ac enwau'r rhai hynny a fu'n fodlon gweithredu ar y pwyllgorau, a nodiadau ar gyfer sefydlu Pwyllgor Apêl Maldwyn.

Gohebiaeth yn ymwneud â chyngerdd yng Nghaergrawnt

Mae'r amlen yn cynnwys llythyron, 1991, yn ymwneud â chyngerdd teyrnged a drefnwyd gan Gôr Americanaidd i Dr George Guest ar ei ymddeoliad fel Corfeistr Coleg Sant Ioan, Caergrawnt. Derbyniodd Cronfa Goffa Saunders Lewis swm sylweddol o arian o ganlyniad i'r cyngerdd ar ôl i Dr Guest enwebu elusen o'i ddewis i dderbyn elw'r noson.

Gohebiaeth yn ymwneud â'r arwerthiant

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyron a chatalog yn ymwneud ag arwerthiant o lyfrau ac eitemau eraill a drefnwyd gan Bwyllgor Apêl Sir Gaernarfon i godi elw tuag at Cronfa Goffa Saunders Lewis, Hydref 23ain 1992. Hefyd, ceir cofnodion yr ail a'r trydydd cyfarfod o'r Gronfa Goffa a gynhaliwyd gan bwyllgor Arfon, 5 Gorffennaf a 6 Medi 1992.

Llythyrau at y wasg

Mae'r ffeil yn cynnwys llythyr i'r Wasg, 1991, yn cywiro camargraff ynglŷn ag Ysgoloriaeth Goffa Saunders Lewis, copi o erthygl ar gasglu elw tuag at yr Ysgoloriaeth a ymddangosodd yn Y Faner, 1990, a chopi o rifyn 3, Mehefin 1993, o Newyddion Prifysgol Cymru, yn rhoi sylw, ar y tudalen flaen, i ddathliad canmlwyddiant geni Saunders Lewis.

Cylchlythyrau

Mae'r ffeil yn cynnwys cylchlythyrau Cronfa Goffa Saunders Lewis yn bennaf, gyda newyddion ynglŷn â gweithgareddau'r Pwyllgorau Sirol i gasglu arian at y Gronfa, hysbysebion am yr Ysgoloriaeth, torion papur a llythyron ynglŷn ag amodau ceisiadau am yr Ysgoloriaeth.

Papurau yn ymwneud â'r Ysgoloriaethau

Mae'r gyfres yn cynnwys teipysgrifau o gynnyrch Gwobr Goffa Saunders Lewis, gan Angharad Price, enillydd cyntaf yr ysgoloriaeth, 1994-1995, yn dwyn y teitl 'Smentio Sentiment - Beirdd Concrid Grŵp Fiena 1954-1964', a theipysgrif a chopi cyhoeddedig, 1998, o ffrwyth llafur Heather Williams, deiliad un o'r ysgoloriaethau, gyda'r teitl Barddoniaeth i Bawb? Stèphane Mallarmé.

Results 1 to 20 of 31