Print preview Close

Showing 6 results

Archival description
Archif Y Lolfa, Elis, Islwyn Ffowc file
Print preview View:

Gohebiaeth gyffredinol 1960au,

Llythyrau yn dyddio o'r blynyddoedd cyn i'r wasg gael ei sefydlu a'r blynyddoedd cynnar. Mae'r gohebwyr yn cynnwys Ifor Puw, Gwynfor Evans, Islwyn Ffowc Elis, a Ruth Stephens. Trafodir yr angen am rywle i gyhoeddi gweithiau Cymraeg, y broses o gyhoeddi'r cylchgrawn LOL a'r llyfryn 'Hyfryd Iawn', Enwau Cymraeg i blant/ Welsh names for children a chyhoeddiadau Plaid Cymru. Hefyd ceir llythyrau yn trafod gwahanol brisiau ac offer cynhyrchu a chyhoeddi, a'r adeilad yn Nhal-y-bont, ynghyd â nifer o bamffledi yn hysbysebu LOL a'r Lolfa, a deiseb yn galw am neuadd breswyl Gymraeg yn Aberystwyth.

Gohebiaeth gyffredinol 1986,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Islwyn Ffowc Elis a Judith Maro yn trafod eu llyfrau a materion eraill, Angharad Thomas yn trafod Plaid Cymru, y posibilrwydd o symud i Lundain a phynciau eraill, a Ioan M. Richard yn ateb cyhuddiadau yn LOL yn ymwneud â Phlaid Cymru a Meibion Glyndŵr. Yn ogystal ceir llun-gopïau o'r llythyrau a anfonwyd allan yn galw am ddinistrio hysbysebion Police conspiracy, copi o'r 'Arolwg o'r Cylchgronau a noddir gan Gyngor y Celfyddydau' gan Rhodri Williams, a phapurau yn ymwneud â'r angen am wythnosolion, a llythyrau yn ymwneud ag Y Llosgi gan Robat Gruffudd.

Gohebiaeth gyffredinol 1987,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr yn cynnwys Islwyn Ffowc Elis yn trafod ei lyfr caneuon, Judith Maro, Bobby Freeman a Dafydd Parri yn trafod eu llyfrau a materion eraill, Royston James yn trafod llyfr ar hiwmor rygbi, a Huw Vaughan Jones gan gynnwys copïau o'i waith: stribed gomic 'Mot Mellten'. Ceir hefyd lythyrau yn trafod y llyfr Trwy Ogof Arthur.

Gohebiaeth gyffredinol 1988,

Llythyrau oddi wrth ohebwyr amrywiol yn cynnwys Islwyn Ffowc Elis yn trafod llyfr o ganeuon a'r posibilrwydd o recordio gyda Sain, Ieuan Rhys yn trafod Hwyl a Hafoc, Gwynfor Evans yn trafod llyfr ar genhedloedd bach megis Estonia a Latfia a Chymru, Royston James ar Clwb i'r Campau, Judith Maro yn trafod Y Carlwm a'r Anthology. Ceir hefyd drafodaeth ar lyfr Dafydd Parri, Doethion Aberdwli.

Gohebiaeth gyffredinol 1970-1974,

Ymhlith y gohebwyr mae Bernard Picton (Knight), Dafydd Iwan, John Jenkins o garchar Albany yn cynnig syniad am gardiau i garcharorion 'gwleidyddol', Judith Maro yn trafod ei nofelau, Gareth Miles yn trafod ei gyfraniad at LOL a gweithiau eraill, Islwyn Ffowc Elis, Derrick K. Hearne ar ei gyfrol The Rise of the Welsh Republic, a Watcyn Owen ar ran John Jenkins. Hefyd ceir llythyrau yn trafod ymgyrch Dwynwen, gwaith Cymdeithas yr Iaith, posteri ar gyfer Plaid Cymru, safiad Robat Gruffudd yn mynnu ffurflenni Cymraeg, ac adeilad y Lolfa.

Gohebiaeth gyffredinol 1998,

Llythyrau gan nifer o ohebwyr yn cynnwys Islwyn Ffowc Elis, copïau o atebion Robat Gruffudd, a chopïau o lythyrau ganddo at Heini Gruffudd, ei frawd, ac at yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas.