Showing 31 results

Archival description
Papurau John Stoddart Welsh
Print preview View:

Torion papur newydd

Mae'r ffeil yn cynnwys llungopïau a thorion papur newydd a chylchgronau, [1960]-2001. Mae amryw ohonynt yn ymwneud â chyfansoddiadau John Stoddart, ac yn cynnwys adolygiadau o'i weithiau.

Papurau ymchwil

Mae'r gyfres yn cynnwys papurau, [1943x2001], sy'n adlewyrchu diddordebau ymchwil John Stoddart (Osian, ieithoedd, yn arbennig yr Aeleg, a cherddoriaeth); ynghyd â thorion papur newydd a phapurau amrywiol eraill.

Papurau John Stoddart

  • GB 0210 JOSTOD
  • fonds
  • 1943-2001

Mae'r fonds yn cynnwys cyfieithiadau a gweithiau llenyddol John Stoddart yn bennaf, [1943]-2001, yn eu plith drafftiau o'i weithiau cyhoeddedig; gohebiaeth yn ymwneud â chyfieithiadau cerddorol ar gyfer Eisteddfodau Cenedlaethol yn ogystal â'i amryw ddiddordebau; papurau ymchwil amrywiol yn cynnwys yn bennaf nodiadau yn ymwneud â'i waith am y bardd Osian a'i ddiddordeb mewn ieithoedd megis yr Aeleg a'r Wyddeleg.

Stoddart, John, 1924-2001

Papurau amrywiol

Mae'r ffeil yn cynnwys papurau amrywiol [1940x2001], gan gynnwys nodiadau ymchwil John Stoddart, papurau personol megis rhaglenni lle bu John Stoddart yn canu, beirniadu neu'n annerch cymdeithasau, [1940au]-1991; ynghyd â chofnodion ariannol, 1984-2000, a cherddi gan Derwyn Jones.

Osian

Mae'r ffeil yn cynnwys llungopïau o erthyglau, 1895-1988, yn ymwneud ag ymchwil John Stoddart ar Osian.

'Osian'

Mae'r ffeil yn cynnwys drafftiau llawysgrif a theipysgrif, [1980x2000], o lyfr arfaethedig John Stoddart ar 'Osian', ynghyd â nodiadau llawysgrif perthnasol; yn eu plith mae cyfres o gerddi'n dwyn y teitl 'Helfa' (nid oes sicrwydd mai John Stoddart oedd y cyfieithydd ac os oeddynt yn rhan o'r gwaith ai peidio).

Norwyeg a Swedeg

Mae'r ffeil yn cynnwys nodiadau a chyfieithiadau Norwyeg a Swedeg (a manylion am symposium Societas Celtologica Nordica, Tachwedd 1991), [1960x2001], ynghyd â gohebiaeth, 1991-1992, a chopïau o erthyglau perthnasol yn ymwneud ag ymchwil John Stoddart ar gyfer ei lyfr ar Osian, 1944-1991.

Gohebiaeth a chofnodion ariannol

Mae'r ffeil yn cynnwys gohebiaeth, 1987-2000, yn ymwneud â chyfieithiadau o ganeuon ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Ceir sylwadau a nodiadau'n ymwneud â chyfieithiadau unigolion eraill yn bennaf gyda rhai cyfieithiadau gan John Stoddart yn eu plith. Ceir hefyd taliadau am waith cyfieithu, golygu, ac ymgynghori lleisiol, 1987-2000.

Gohebiaeth

Mae'r gyfres yn cynnwys gohebiaeth gyffredinol, 1976-[2001], yn cynnwys drafftiau o lythyrau gan John Stoddart, yn ymwneud yn bennaf â'i weithiau llenyddol, cyfraniadau i gylchgronau a'i gyfieithiadau o ganeuon. Yn eu plith mae llythyrau gan Ruaraidh MacThómais (Derick Thomson) (32); Emrys Roberts (8); D. Myrddin Lloyd (7); Jennie Eirian Davies (9); John Rowlands (3); Gareth Alban Davies (9); Somhairle MacGill-Eain (Sorley MacLean) (2); Dómhnall MacAmhlaigh (Donald Macaulay); Iain Mac a'Ghobhainn (Iain Crichton Smith) (2); Rhydwen Williams (3); Alan Llwyd (37); George Guest; Iain MacDhòmhnaill (Iain MacDonald) (3); Fearghas MacFhionnlaigh; Marged Haycock (2); Robin Gwyndaf; Bryan Martin Davies; Bobi Jones; Dyfnallt Morgan (2); Meredydd Evans a Phyllis Kinney; John MacInnes (Iain MacAonghuis) (2); Gareth Glyn; Eigra Lewis Roberts; a J. E. Caerwyn Williams (5).

Thomson, Derick S.

Gaeleg a Manaweg

Mae'r ffeil yn cynnwys nodiadau a chyfieithiadau amrywiol, [1960x2001], yn ymwneud yn bennaf â'r Aeleg a'r Fanaweg.

Erthyglau ac allbrintiau

Mae'r ffeil yn cynnwys llungopïau o erthyglau ac allbrintiau o'r we, [1965x2001], at ddibenion ymchwil, yn eu plith rhai sy'n trafod caneuon a llenyddiaeth Gaeleg (yn cynnwys Osian).

Erthyglau

Mae'r ffeil yn cynnwys llungopïau, teipysgrifau a llawysgrifau o erthyglau, adolygiadau, cyfieithiadau a llythyrau, [1970]-2000, a gyhoeddwyd mewn cylchgronau megis Barn, Y Faner, Cerddoriaeth Cymru, Barddas, Y Traethodydd a Gairm.

Deunydd printiedig

Mae'r ffeil yn cynnwys eitemau printiedig amrywiol a llungopïau o gerddoriaeth gyhoeddedig yn bennaf, [1910]-1994, amryw ohonynt yn ganeuon Gaeleg.

Cyfieithiadau o straeon Gaeleg

Mae'r ffeil yn cynnwys cyfieithiadau gan John Stoddart, [1995x2000], o straeon nas cyhoeddwyd yn y gyfrol Y meudwy a storïau Gaeleg eraill (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 2000).

Cyfieithiadau o gerddi Gaeleg

Mae'r ffeil yn cynnwys drafftiau, [1985x2000], o gyfieithiadau John Stoddart o gerddi Iain Crichton Smith (Iain Mac a'Ghobhainn) a ymddangosodd yn y gyfrol Cerddi Gaeleg cyfoes: detholiad o farddoniaeth Aeleg a gyfansoddwyd yn ystod y cyfnod 1937-1982, Cyfres Barddoniaeth Pwyllgor Cyfieithiadau yr Academi Gymreig cyf. VI (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru ar ran Yr Academi Gymreig, 1986).

Results 1 to 20 of 31