Showing 52 results

Archival description
Papurau J. Tysul Jones
Print preview View:

Papurau J. Tysul Jones

  • GB 0210 TYSNES
  • Fonds
  • 1888-1985 (crynhowyd [1924]-1985)

Llawysgrifau a phapurau eraill a grynhowyd ac a gasglwyd gan J. Tysul Jones, yn cynnwys llythyrau,1924-1985; papurau ymchwil ar gyfer astudiaeth destunol a gramadegol o Hystoria Lucidar, ynghyd â geirfa lawn, ar gyfer ei draethawd MA, 1958; deunydd yn ymwneud â hanes Llandysul a'r cylch, 1888-[1985]; llawysgrifau o ddeunydd a ysgrifennwyd neu a gyfieithwyd ganddo,1936-1970; torion papur ynglŷn â J. Tysul Jones ac eraill,1912-1971; nodiadau a deunydd arall, 1926-1970, ynglŷn ag Idwal Jones, Waldo Williams, Ifan Jones, ac unigolion o ardal Llandysul; llawysgrif gan neu'n ymwneud â Sarnicol,1889-[1975], yn cynnwys cerddi yn ei law, [1944], copi yn ei law o'i gyfrol Storiau ar Gân (Dinbych, 1936), 1936-1938, adysgrifau a thorion papur newydd o'i waith, 1907-[1975], llythyrau at J. Tysul Jones ynghylch Sarnicol,1947-1973, cyfieithiadau llawysgrif o waith Sarnicol,[1935], a nodiadau ar Sarnicol gan J. Tysul Jones, [1972]. = Manuscripts and other papers accumulated and collected by J. Tysul Jones, including letters, 1924-1985; research papers for a textual and grammatical study of Hystoria Lucidar, with a full vocabulary, for his MA thesis, 1958; material relating to the history of the Llandysul area, 1888-[1985]; manuscripts of works written or translated by him, 1936-1970; newspaper cuttings relating to J. Tysul Jones and others, 1912-1971; notes and other material, 1926-1970, relating to Idwal Jones, Waldo Williams, Ifan Jones, and individuals from the Llandysul area; manuscripts of and relating to Sarnicol, 1889-[1975], including autograph poems, [1944], an annotated copy of his Storiau ar Gân (Denbigh, 1936), 1936-1938, transcripts and newspaper cuttings of his works, 1907-[1975], letters to J. Tysul Jones concerning Sarnicol, 1947-1973, manuscript translations of Sarnicol's work, [1935], and notes on Sarnicol by J. Tysul Jones, [1972].

Jones, J. Tysul (John Tysul), 1902-1986.

Nodiadau, ysgrifau, sgriptiau, cerddi, torion papur ac eitemau amrywiol eraill ynglyn â Llandysul a'r cylch. Ceir yn eu plith restr ....

Nodiadau, ysgrifau, sgriptiau, cerddi, torion papur ac eitemau amrywiol eraill ynglyn â Llandysul a'r cylch. Ceir yn eu plith restr o enwau ffermydd yr ardal, a llyfr nodiadau yn cynnwys 'ychwanegiadau at Hanes Plwyf Llandysul (W J Davies) o gopi personol J D Lewis o'r gyfrol yn awr ym meddiant John Lewis, Glynrhedyn a Gwasg Gomer'.

Dau draethawd teipysgrif o waith Henry Jones, Blaenmachnog, Horeb, Llandysul, y naill ar y testun 'Adgofion' ("I Gystadleuaeth y Traethawd ....

Dau draethawd teipysgrif o waith Henry Jones, Blaenmachnog, Horeb, Llandysul, y naill ar y testun 'Adgofion' ("I Gystadleuaeth y Traethawd, dan nawdd Pwyllgor Addysg y Sir", d.d.) a'r llall ar 'Hanes a dylanwad Dosbarthiadau Horeb, Llandysul a Chymdeithas y Bobl Ieuainc; a Chymdeithas y Cymrodorion, Llandysul' (ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli, 1955).

Results 1 to 20 of 52