Showing 29 results

Archival description
Papurau Harri Gwynn, file
Print preview View:

'Gwaith cynnar Harri Gwynn',

Ei delyneg 'Pont y Pentre' [un o'i gerddi cyntaf] a enillodd y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Fach yng Nghorwen yn 1929 [a gyhoeddwyd yn Cymru'r Plant, Awst 1929], a'r dystysgrif a gyflwynwyd iddo; papur arholiad yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Ysgol Sir Abermaw, 1929; a phryddest 'Castell Elen', Eisteddfod Dolyddelen [Dolwyddelan], 1929.

'Detholion Penigamp',

Cerddi doniol, [1974x1976], [?a luniwyd, o bosib, ar gyfer cystadlaethau tebyg i'r rhai a geid yn y gyfres radio 'Penigamp'].

Cerddi diweddarach,

Llyfr nodiadau, 1931-1933, yn cynnwys ei gerddi a ddaeth i'r brig yn Eisteddfod Myfyrwyr Bangor 1931, a cherddi eraill; 'English poems', 1932-1936, mewn llawysgrif a theipysgrif; soned anfuddugol 'Yr Hengwrt', Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau 1949; a 'Dail a Phren (Myfyrdod Hydref)', 1979.

'Cerddi Saesneg',

Cerddi teipysgrif yn bennaf, gan gynnwys 'Yearning', ei gyfieithiad o soned R. Williams Parry ['Mae Hiraeth yn y Môr'].

'O Sanctaidd Swynwyr',

Copi printiedig o'i gyfaddasiad o 'Blest Pair of Sirens', geiriau gan C. Hubert H. Parry, ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955, gyda llythyr, 1955, oddi wrth Novello & Company, yn ymwneud â'r amodau a chytundeb, 1956, ynghyd â chopi o'r fersiwn gwreiddiol, 1951.

Cyfieithiadau,

Rhestr o'r caneuon a gyfieithiwyd ganddo o'r Saesneg i'r Gymraeg ar gyfer y gyfres radio 'Cocacabana', 1963, a phapurau'n ymwneud ag ymweliad beirdd o Hwngari â Chymru a drefnwyd gan yr Academi Gymreig yn 1980, gan gynnwys llungopïau o gyfieithiadau o'u gwaith o Modern Hungarian Poetry. Ceir copi hefyd o Dock Leaves, Gaeaf 1952, yn cynnwys cyfieithiad Cyrnol R. C. Ruck 'The Creature'.

'Y Creadur' yn Saesneg,

Cyfieithiad y Cyrnol R. C. Ruck o bryddest Harri Gwynn 'Y Creadur' i'r Saesneg, [1952], a gyhoeddwyd yn Dock Leaves, Gaeaf 1952 (drafft a fersiwn diwygiedig). [Ceir cyfieithiad Robert Minhinnick ohoni yn The Bloodaxe Book of Modern Welsh Poetry : 20th-century Welsh-language poetry in translation (Tarset, 2003)]. Ymhlith y cerddi eraill mae 'Gwalia' a gyfansoddodd yn arbennig yn 1937 i Eirwen Gwynn. Ceir hefyd ei bryddest anfuddugol 'O'r Dwyrain', Eisteddfod Genedlaethol Pen-y-bont ar Ogwr 1948, a'i bryddest radio 'Yr Ysgall a'r Drain', 1952 [a gyhoeddwyd yn Barddoniaeth Harri Gwynn yn 1954], ynghyd ag argraffiad arbennig o ddyfyniad o'i gerdd 'Pont', Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl a'r Cyffiniau 1985.

Ruck, R. C. (Richard Conyers), 1887-1973

Cyfieithiadau o ganeuon poblogaidd,

Cyfieithiadau, [1953]-[1963], o ganeuon Saesneg yn bennaf, gan gynnwys rhyddgyfieithiad o 'Mor Hyfryd yw'r Bore' ('Oh What a Beautiful Morning', Oklahoma), ynghyd â chyfieithiad o 'Plaisir d'amour'. Ceir hefyd gyfieithiad Abel Thomas 'Fendigaid swynwyr' o eiriau Milton 'Blest Pair of Sirens'.

Sgriptiau,

Sgriptiau a luniwyd ganddo i'r BBC yn bennaf neu y bu'n cymryd rhan ynddynt, gan gynnwys 'Troi at y tir', 1957; 'Yn hyfrydwch y fro. Y fro rhwng môr a mynydd', 1958; 'Gwŷr Llên', 1960 (mae copi o'r sgript hon hefyd yn Adran Llawysgrifau Prifysgol Cymru, Bangor (15393)); 'Y silff lyfrau', 1962 (yr adolygydd oedd Harri Gwynn); 'Cywain atgof', 1964, y bu'n cymryd rhan yn y rhaglen; ynghyd â 'Wel s'ma'i?', rhaglen ysgafn gan Fyfyrwyr Coleg y Brifysgol, Bangor, 1936; a'i gyfraniad at raglen '[Rhwng] Gŵyl a Gwaith', Hydref 1979.

'Rhwng Godro a Gwely',

Teipysgrifau a thorion, 1952-1959, o'i ysgrifau yn y golofn 'Rhwng Godro a Gwely' a gyhoeddwyd yn Y Cymro yn wreiddiol, ac fel casgliad gyda'r un teitl wedi'u golygu gan Eirwen Gwynn yn 1994.

Sgyrsiau radio,

Ysgrif 'Er cof am Jeroboam a'i deulu' yn Cylchlythyr BBC Cymru, Tachwedd 1973; drafftiau a theipysgrifau o'i gyfraniadau i 'Yn ôl y dydd', Ebrill, 8-11 Mai, a Rhagfyr 1979, Radio Cymru, a'i ysgrif 'Mw-mw, Me-me, Cwac-cwac', Pais, Ebrill 1980. Ceir hefyd gopi o Barn, Gorffennaf/Awst 1993, yn cynnwys erthygl D. G. Lloyd Hughes 'Y cam arall â Harri Gwynn' a llythyr oddi wrtho, 1997, yn ymwneud hefyd â chyfnod Harri Gwynn yn Ysgrifennydd Cyffredinol Eisteddfod Genedlaethol Pwllheli 1955.

'Y Llwybrau Gynt',

Ei atgofion 'Y Llwybrau Gynt' mewn teipysgrif o'r cyfnod cynnar nes iddo symud i Dyddyn Rhuddallt, [1972], ar gyfer rhaglen radio mewn cyfres o'r un enw. Cafodd rhain eu cynnwys gan Eirwen Gwynn yn ei hunangofiant Ni'n dau. Hanes dau gariad (Llandysul, 1999).

Darlledu,

Sgript y rhaglen radio 'Cywain atgof', 1964, y bu Harri Gwynn yn cymryd rhan ynddi, a sgript radio 'Llwyfan: Cymdeithasau', 1969, ef oedd y cyflwynydd a'r cynhyrchydd; ynghyd â llythyrau oddi wrth wrandawyr a gwylwyr yn ymateb i eitemau a ddarlledwyd ar raglenni radio a theledu ganddo, [1966]-[1974], a phapurau eraill.

Llythyrau A-D,

Llythyrau, [1948]-[1964], gan gynnwys rhai oddi wrth Teleri [Bevan] (2), John Cale (3), Joseph P. Clancy, W. Emrys Cleaver, Alun [Talfan Davies] (13), Aneirin [Talfan Davies] (2), Cassie [Davies], E. Tegla Davies, Pennar Davies ac W. Anthony Davies (4).

Bevan, Teleri, 1931-

Llythyrau E-I,

Llythyrau, [1940]-[1985], 1993, gan gynnwys rhai oddi wrth H. Meurig Evans, Huw T. [Edwards], Islwyn Ffowc [Elis] (3), T. I. Ellis (2), Meredydd Evans (4), R. Alun Evans, R. E. Griffith (2), W. J. Gruffydd, W. J. Gruffydd, Sir Benfro (2), Hywel Harries, Cledwyn [Hughes], D. G. Lloyd Hughes (2-yr olaf at Eirwen Gwynn, 1993), D. R. Hughes, Gwilym Rees Hughes (7), Mathonwy Hughes (2), T. Rowland Hughes, W. Roger Hughes (2), Isfoel (2), Wil Ifan, Glyn Ifans, Norah Isaac a Dafydd Islwyn.

Evans, H. Meurig (Harold Meurig)

Llythyrau J-N,

Llythyrau, [1948]-[1983], gan gynnwys rhai oddi wrth Bedwyr Lewis Jones, Bobi Jones (2), Dafydd Glyn Jones, E. D. Jones, F. Wynn Jones, Glyn Jones, Gwilym R. Jones, J. E. Jones, John Gwilym Jones (2), Kitty Idwal Jones, Henry Lewis, [D.] Tec[wyn] Lloyd (8), Alan Llwyd (2), Tom Macdonald, Awen Mona, Prys Morgan, T. J. Morgan, James Nicholas (3), a W. Rhys Nicholas.

Jones, Bedwyr Lewis

Results 1 to 20 of 29