Traethawd ar Wythnos yng Nghymru fydd
- R3/8
- Ffeil
- 1996
Traethawd ymchwil Johan Schimanski, 'A Poetics of the Border'. Nation and genre in Wythnos yng Nghymru Fydd and other texts by Islwyn Ffowc Elis' (Prifysgol Oslo, 1996).
Schimanski, Johan
Traethawd ar Wythnos yng Nghymru fydd
Traethawd ymchwil Johan Schimanski, 'A Poetics of the Border'. Nation and genre in Wythnos yng Nghymru Fydd and other texts by Islwyn Ffowc Elis' (Prifysgol Oslo, 1996).
Schimanski, Johan
Cyfres o englynion gan Alan Llwyd
Deg o englynion wedi'u hargraffu, a gyfansoddwyd i nodi pen-blwydd Islwyn Ffowc Elis yn ddeg a thrigain mlwydd oed ym mis Tachwedd 1994 mewn dathliad a drefnwyd gan Yr Academi yn Llyfrgell Wrecsam.
Llwyd, Alan.
Papurau arholiadau gradd yn y Gymraeg
Enghreifftiau o bapurau arholiadau pentymor a gradd cyrsiau yn y Gymraeg ac mewn Astudiaethau Cymraeg a osodwyd ym Mhrifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, 1987-1991.
Pregethau a draddodwyd ganddo, [1964]-[1997]. Cofnodir enw'r eglwys ar y bregeth, yn arbennig Eglwys Shiloh, Llanbedr Pont Steffan.
The Montgomeryshire by election
Llyfr lloffion yn ymwneud ag isetholiad Maldwyn 1962. Yr oedd Islwyn Ffowc Elis yn ymgeisydd ar ran Plaid Cymru.
Copi o'r Arloeswr, Gaeaf 1959, yn cynnwys y gerdd 'Perthyn' ganddo a'i drosiad o Efengyl Mathew i Gymraeg diweddar (1961).
Taflen briodas a phapurau eraill
Taflen briodas Eirlys Rees Owen a'r Parchedig Islwyn Foulkes Ellis, Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Rhoslefain, Towyn, 28 Hydref 1950; llungopïau o bortreadau pensil ganddo o’i gefnder R. Glynne Lloyd; taflen gyfrannu at apêl Cronfa Gŵyl Ddewi Plaid Cymru un [1969] a'r neges gan Islwyn Ffowc Elis - 'Dyma’r amser ... '; rholyn: 'The ancient history of the distinguished surname Kenrick', [1993]; a thoriad o’r Tyst yn cynnwys adroddiad am ddadorchuddio plac ar ei gartref Pengwern yn 2010.
Adroddiad Ysgol Sir Llangollen, 1937-1942
Teipysgrifau o'i golofn yn Y Cymro yn trafod materion crefyddol, [1972].
Drafftiau o erthyglau ar gyfer cylchgronau, dyddiadur, 31 Rhagfyr 1965-7 Mawrth 1966, mewn teipysgrif, ynghyd â llythyr oddi wrth Gwynfor Evans, 1979.
Llythyr printiedig, 1954, wrth iddo ffarwelio â’r eglwys yn Llanfair Caereinion, sgwrs am ‘Tegla’ ar gyfer Rhwng Gŵyl a Gwaith, 1980, ynghyd â manylion am ei yrfa a’i gyhoeddiadau, [1983] a llungopi o bapur bro Nene, Ebrill 2000, yn cofnodi 'Cinio llenyddol efo Islwyn Ffowc Elis'.
Adysgrifiad o’r drafodaeth rhwng Eirian Davies ac Islwyn Ffowc Elis a recordiwyd yn 1971; tair sgript ‘Dylanwadau’, 1992 ar gyfer y gyfres o sgyrsiau radio ‘Sglein’, 1993 (y gyntaf yn eisiau) a 'Rhwng Gŵyl a Gwaith'.
Sgriptiau'r gyfres deledu ‘Rhai yn fugeiliaid’,1962; sgript radio ‘Y gôt fawr’ a droswyd o’r Eidaleg ganddo, 1963; ‘Gwanwyn diweddar’, drama gyfres ar gyfer y teledu, 1963; a 'Bwystfil y ddaear', 1965, ynghyd â sgript 'Y silff lyfrau' yn cynnwys adolygiad o Yn ôl i Leifior, 1957 a dwy ffars 'Gŵr Mrs Jones' a 'Y Golofn danllyd'.
Llythyrau yn ymwneud â'r radd DLitt (Prifysgol Cymru) er anrhydedd a ddyfarnwyd iddo yn 1993, ei ethol yn Gymrawd Anrhydeddus o Brifysgol Cymru - Coleg y Drindod, Caerfyrddin yn 1994 a Phrifysgol Cymru Bangor yn 1995, ynghyd â thystysgrifau a gyflwynwyd iddo yn y seremonïau.
Llythyrau, 1977-1991, gan gynnwys llythyrau oddi wrth yr Athro A. Shisha-Halevy, Jerwsalem, ac oddi wrth Svetoslav Kolev, Sofia, 1980, a gyfieithodd stori fer 'Y polyn' i'r Fwlgareg ac a gyhoeddwyd mewn papur dyddiol yn 1977 sy'n gynwysedig.
Llythyrau, [1965]-[1993], yn ei longyfrach ar y ddoethuriaeth er anrhydedd a ddyfarnwyd iddo yn 1993 ar achlysur canmlwyddiant y Brifysgol, llwyddiant y gyfres 'Lleifior', ynghyd â llungopi o lythyr a anfonodd at Angharad Tomos yn 1989 ar grefft y nofel.
Llythyrau oddi wrth R. S. Thomas a James Hanley
Llythyrau oddi wrth R. S. Thomas, 1965-1989, ac oddi wrth James Hanley, 1977-1981.
Thomas, R. S. (Ronald Stuart), 1913-2000
Llythyrau, 1964-1983, oddi wrth lenorion blaenllaw, gan gynnwys grŵp o lythyrau oddi wrth Kate Roberts, 1964-1981.
Roberts, Kate, 1891-1985